Facebook Pixel

Gweithiwr twnelu

Gweithwyr twnelu sy’n adeiladu’r twneli tanddaearol sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau fel rheilffyrdd a gwaith dŵr. Maent yn helpu gyda chloddio, cynnal a ffurfio twneli a siafftiau yn y tir sy’n gysylltiedig â’r broses adeiladu er mwyn darparu gofod, twnnel neu siafft o dan y ddaear.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£25000

Sut i fod yn weithiwr twnelu?

Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr twnelu. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr twnelu i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau Diploma Lefel 2 arbenigol mewn Gweithrediadau Twnelu er mwyn dod yn weithiwr twnelu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd gweithiwr twnelu gyda chwmni adeiladu i ddod yn weithiwr twnelu.

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol fel labrwr, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel gweithiwr twnelu. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i weithiwr twnelu mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr twnelu:

  • Yn gyfforddus yn gweithio mewn mannau caeedig
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Ymwybyddiaeth o ganllawiau iechyd a diogelwch

Cymwysterau


Beth mae gweithiwr twnelu yn ei wneud?

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr twnelu yn dechrau gweithio yn y pwll, gan dynnu pridd, creigiau a deunyddiau gwastraff eraill, cyn cymhwyso. Fel gweithiwr twnelu, efallai y bydd angen i chi weithio mewn mannau cyfyng am gyfnodau hir, gan fod rhai twnelau’n sawl cilometr o hyd.

Fel gweithiwr twnelu, gallech chi fod yn:

  • Defnyddio cyfrifiaduron gyda meddalwedd rheoli adeiladu i helpu i sicrhau bod y gwaith yn rhedeg yn esmwyth
  • Paratoi’r safle ar gyfer gwaith twnelu
  • Trefnu bod yr holl offer yn cael ei ddanfon a’i storio
  • Sicrhau bod y deunyddiau cywir ar gael i ddechrau gweithio
  • Symud a thrin deunyddiau, adnoddau a chydrannau drwy ddulliau â chymorth mecanyddol neu â llaw
  • Llwytho a dadlwytho, trin a chludo nwyddau a deunyddiau.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr twnelu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr twnelu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithwyr twnelu sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gweithwyr twnelu hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £25,000
  • Gall uwch weithwyr twnelu ennill mwy na £25,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithwyr twnelu:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr twnelu, gallech symud i rolau tebyg, a dod yn weithiwr drilio diemwnt, yn weithiwr drilio tir neu’n weithredwr peiriannau.

Gyda chymwysterau a hyfforddiant ychwanegol, gallech fod yn beiriannydd twnelu neu’n ymgynghorydd prosiectau.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr twnelu Helpu i adeiladu’r twneli tanddaearol a ddefnyddir ar gyfer rheilffyrdd a gwasan...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli Fel Gweithiwr Chwistrellu Leinin Concrit ar Dwneli, byddwch yn gweithredu’r offe...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Clerc gwaith Mae clerc gwaith (a elwir hefyd yn arolygydd safle neu swyddog ansawdd adeiladu)...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr adeiladu Mae gofyn i reolwyr adeiladu ddelio â’r ochr ymarferol o reoli a chynllunio’r br...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080