Facebook Pixel

Adeiladu ac ethnigrwydd

Gall cwmnïau adeiladu gyda gweithluoedd ethnig amrywiol gynrychioli a gwasanaethu eu cleientiaid yn well. Mae’r diwydiant wedi dod yn ymwybodol o hyn, ac maen nhw’n cynnig mwy o gyfleoedd i ddarpar weithwyr.

Cynnwys gweithwyr BAME

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) bellach yn ymuno â’r sector adeiladu ac yn gwneud cynnydd. Ac mae’n ymddangos y bydd cyfleoedd yn cynyddu yn y dyfodol. 

Rhagwelir y bydd poblogaeth y DU yn dod yn fwy ethnig amrywiol, a chyda’r boblogaeth BAME yn debygol o fod yn ffynhonnell refeniw sylweddol yn y dyfodol, mae’n bwysig bod y diwydiant adeiladu’n cynnwys gweithwyr BAME. 

llun amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu

Yn well i weithwyr a chleientiaid

Gall gweithlu ethnig amrywiol wneud cwmni yn fwy deniadol i ddarpar weithwyr. Bydd hefyd yn fwy deniadol i gwsmeriaid ac yn fwy arloesol o ran ei ddull o weithredu. Fel y dywedodd un sy’n gweithio ym maes adeiladu mewn arolwg:

 “Rydym yn darparu gwasanaethau mewn ardaloedd lle mae poblogaeth BAME uchel, ond nid ydym wedi ein lleoli mewn ardal debyg. Rwy’n teimlo bod angen i ni gael gweithlu BAME i gynrychioli ein grŵp cleientiaid.”

Dywedodd un arall ei fod yn teimlo y byddai’n fwy cystadleuol petai ei weithlu’n cyd-fynd yn well o ran ethnigrwydd â’i sylfaen amrywiol o gwsmeriaid.

Dywedodd un arall: “Os bydd gennym weithlu mwy amrywiol, bydd gennym syniadau gwell. Os nad ydym yn arloesi, fyddwn ni ddim yn edrych tua’r dyfodol. Mae hyn yn ymwneud â’r tîm yn dod at ei gilydd, yn cydweithio â gwahanol safbwyntiau, ac mae’n rhaid iddo fod yn gadarnhaol.” 

Os bydd gennym weithlu mwy amrywiol, bydd gennym syniadau gwell. Os nad ydym yn arloesi, fyddwn ni ddim yn edrych tua’r dyfodol.

AROLWG AMRYWIAETH

Craffu mwy ar gontractwyr

Mae’r gyfraith yn rhoi hwb pellach i gyfleoedd ar gyfer lleiafrifoedd ethnig. Nid yn unig y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd, mae hefyd yn cynnwys pwerau newydd sy’n galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio caffael i hybu cydraddoldeb.

Yn gryno, os yw corff cyhoeddus yn ymrwymo i gontract gyda chwmni adeiladu y canfyddir ei fod yn gweithredu mewn modd gwahaniaethol, gellir dal y corff cyhoeddus yn atebol. Nod hyn yw rhoi diwylliannau busnes y contractwyr dan chwyddwydr.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 

Dyluniwyd y wefan gan S8080