Facebook Pixel

Prentisiaethau yn Lloegr

Mae prentisiaethau yn Lloegr yn caniatáu i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, myfyrwyr sy’n dal yn yr ysgol neu raddedigion sydd eisoes mewn swyddi amser llawn i ennill sgiliau proffesiynol gyda chyflogwyr a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfuniad o ddysgu ymarferol ac academaidd, gan ennill cyflog ar yr un pryd.

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng Lloegr â’r Alban a Chymru?

Yn Lloegr, gellir dilyn pedwar math o brentisiaeth. Mae’r mathau hyn o brentisiaethau’n amrywio rhwng Cymru a’r Alban.

Pa fathau o brentisiaethau sydd yna yn Lloegr?

Enw

Lefel Addysgol Gyfwerth

Canolradd

TGAU

Uwch Brentisiaeth

Lefel A

Prentisiaeth Uwch

Gradd sylfaen ac uwch

Gradd-brentisiaethau

Gradd faglor neu feistr

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi dod o hyd i brentisiaeth yn addas i chi, a’ch bod chi’n byw yn Lloegr, ewch i wefan Talentview i chwilio am swyddi gwag.

Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu

Mae prentisiaethau adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym yr holl wybodaeth yma i chi ddechrau arni, o ba swyddi sydd ar gael, i gwis personoliaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r mathau gorau o swyddi sy’n addas i chi, a’r ffordd rydych chi’n hoffi gweithio.

Dyluniwyd y wefan gan S8080