Facebook Pixel

Clerc gwaith

A elwir hefyd yn -

Arolygydd safleoedd, arolygydd adeiladu, rheolwr gwarantau, arolygydd ansawdd adeiladau

Mae clerc gwaith yn arolygu crefftwaith, ansawdd a diogelwch gwaith ar safleoedd adeiladu ac yn adrodd am hynny i uwch reolwyr a chleientiaid. Fel clerc gwaith, byddech yn cynnal archwiliadau rheolaidd o safleoedd ac yn gwirio bod cynlluniau adeiladu yn cael eu dilyn yn gywir. Byddech yn gwirio bod gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â'r manylebau cywir a’r safonau cyfreithiol, diogelwch ac amgylcheddol.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i ddod yn clerc gwaith

Mae yna sawl llwybr i ddod yn glerc gwaith. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, gallech wneud cais am swydd yn uniongyrchol.

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Er y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn gofyn am gymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sydd â phrofiad sylweddol yn y diwydiant adeiladu. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol

Gallech astudio i ennill gradd sylfaen, diploma cenedlaethol uwch (HND) neu radd israddedig. Mae pynciau perthnasol yn cynnwys astudiaethau adeiladu, adeiladu, syrfeo neu beirianneg. Ar ôl hynny, efallai y gallwch ymuno â chynllun hyfforddeion graddedig cwmni. 

Yn gyffredinol, byddwch angen:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gael gwaith yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech wneud cais am brentisiaeth adeiladu dechnegol a phroffesiynol. Fel arall, gallech gofrestru ar gyfer uwch-brentisiaeth goruchwylio safleoedd adeiladu. Bydd hyn yn cymryd tair blynedd i’w gwblhau. Yn y ddau achos, byddwch yn cael eich hyfforddi yn y gwaith ac yn treulio amser gyda darparwr hyfforddiant lleol.

Byddwch angen:

  • 5 cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A* - C), yn cynnwys Saesneg a mathemateg (uwch-brentisiaeth).
  • 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau Safon Uwch (neu gyfwerth) a rhywfaint o brofiad ym maes adeiladu (uwch-brentisiaeth).

  • Canllaw ynghylch prentisiaethau

Gwaith

Os ydych yn gweithio fel crefftwr, technegydd adeiladu neu gynorthwyydd syrfeo eisoes, efallai y gallwch ddod yn glerc gwaith trwy wneud hyfforddiant yn y gwaith. Gallech gwblhau Diploma SVQ/NVQ  Lefel 2 mewn Arolygu Safleoedd, er enghraifft.

Os oes gennych sawl blwyddyn o brofiad ym maes adeiladu, gallech wneud cais yn uniongyrchol am swydd fel clerc gwaith. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  


Beth mae clerc gwaith yn ei wneud?

Fel clerc gwaith, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Archwilio gwaith adeiladu a'i gymharu â lluniadau a manylebau
  • Mesur a gwirio ansawdd deunyddiau adeiladu
  • Dod o hyd i ddiffygion ac awgrymu dulliau o'u cywiro
  • Monitro cynnydd ac adrodd amdano i reolwyr adeiladu, penseiri a chleientiaid 
  • Cadw cofnodion manwl o waith
  • Cyfeirio at gynlluniau a thynnu lluniau o waith, ynghyd â chymryd mesuriadau a samplau
  • Cysylltu â chontractwyr, peirianwyr a syrfewyr
  • Gwirio bod rheoliadau adeiladu, iechyd a diogelwch, gofynion cyfreithiol ac ecolegol yn cael eu hateb
  • Gweithio rhwng swyddfa a safleoedd adeiladu.

Faint allech ei ennill fel clerc gwaith?

  • Gall clerc gwaith sydd newydd ei hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall clercod gwaith wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £30,000 - £40,000
  • Gall clerc gwaith uwch, siartredig neu feistr ar ei grefft ennill £40,000 - £60,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer clercod gwaith:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Mae pobl yn aml yn gweithio fel crefftwr neu dechnegydd adeiladu neu beirianneg am nifer o flynyddoedd cyn dod yn oruchwyliwr gwaith.

I fod yn glerc gwaith, efallai bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi ymuno â Sefydliad y Clercod Gwaith ac Arolygiaeth Adeiladu (ICWCI).

Ar ôl cael profiad, gallech symud i feysydd rheoli adeiladu, syrfeo neu beirianneg sifil ac ennill cyflog uwch. 

Gallech ddod yn diwtor, neu sefydlu busnes fel ymgynghorydd hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080