Facebook Pixel

Gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli

Mae gweithwyr chwistrellu leinin concrit ar dwneli yn leinio twneli gyda choncrit wedi’i chwistrellu o gyfarpar pwrpasol. Mae defnyddio concrit wedi’i chwistrellu mewn twneli, mwyngloddiau a strwythurau peirianneg sifil eraill yn rhan bwysig ac annatod o systemau cynnal tir llwyddiannus, cynhyrchiol a diogel.

Cyflog cyfartalog*

£16000

-

£60000

Sut i fod yn weithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli

Mae sawl ffordd o ddod yn weithredwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau Diploma Lefel 2 arbenigol mewn Gweithrediadau Twnelu er mwyn dod yn weithriwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli gyda chwmni adeiladu i ddod yn weithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli.

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i weithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli: 

  • Llygad dda am fanylion.
  • Cydlynu’n dda
  • Gallu gweithio’n hyderus mewn mannau cyfyng
  • Gallu gweithio’n dda mewn tîm.

Cymwysterau


Beth mae gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli yn ei wneud?

Fel gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli, byddwch yn cydweithio â gwahanol dimau. 

Mae dyletswyddau gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli yn cynnwys:

  • Cynorthwyo i gloddio, cynnal a ffurfio twneli a siafftiau yn y ddaear
  • Gwneud gwaith twnelu â llaw a gyda pheiriant, jacio pibellau, chwistrellu leinin concrit, ac yn suddo, drilio a ffrwydro siafftiau
  • Symud a thrin deunyddiau, adnoddau a chydrannau
  • Gweithio gyda’r tîm leinio
  • Rheoli cyfarpar robotig
  • Darparu cyflenwad cyson o ddeunyddiau rheoledig
  • Cadw cymysgeddau concrit yn gyson, ac osgoi unrhyw rwystrau yn y peiriannau
  • Arwain a rheoli symudiad a gweithrediad chwistrellwyr concrit.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithwyr chwistrellu leinin concrit ar dwneli sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £16,000 - £40,000
  • Gall gweithwyr chwistrellu leinin concrit ar dwneli gyda phrofiad ennill £40,000 - £60,000*
  • Gweithwyr chwistrellu leinin concrit ar dwneli hunangyflogedig yn gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr chwistrellu leinin concrit ar dwneli:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Ar ôl i chi gael o leiaf bum mlynedd o brofiad fel gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli, gallwch wneud Asesiad a Hyfforddiant ar y Safle (OSAT).

Gyda hyfforddiant ychwanegol, gallech drosglwyddo i swyddi fel gweithiwr drilio diemwnt, gweithiwr drilio tir neu weithredwr peiriannau. 

Gallech chi sefydlu eich busnes eich hun a gweithio fel ymgynghorydd concrit llawrydd.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr twnelu Helpu i adeiladu’r twneli tanddaearol a ddefnyddir ar gyfer rheilffyrdd a gwasan...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli Fel Gweithiwr Chwistrellu Leinin Concrit ar Dwneli, byddwch yn gweithredu’r offe...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Clerc gwaith Mae clerc gwaith (a elwir hefyd yn arolygydd safle neu swyddog ansawdd adeiladu)...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr adeiladu Mae gofyn i reolwyr adeiladu ddelio â’r ochr ymarferol o reoli a chynllunio’r br...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080