Facebook Pixel

Sut mae Dod o hyd i Brentisiaeth?

Magnifier glass being held up and looked through

Mae sawl ffordd o ddod o hyd i brentisiaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Pa fath bynnag o yrfa sydd o ddiddordeb i chi, p’un a ydych chi wedi gadael yr ysgol, yn y coleg neu eisoes yn gweithio, mae prentisiaeth ar gael i chi. Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw gwneud rhywfaint o ymchwil i wneud yn siŵr mai’r brentisiaeth rydych chi’n gwneud cais amdani yw’r un orau i chi.

Sut mae dewis prentisiaeth

Eich blaenoriaeth gyntaf wrth ddewis prentisiaeth yw dod o hyd i swydd yn y rôl a’r diwydiant iawn yn seiliedig ar eich diddordebau chi.

A yw'n cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a datblygu eich gyrfa yn y ffordd rydych chi am iddi fod? Ydy’r cyflog yn ddigon uchel i chi?

Efallai yr hoffech chi wneud rhywfaint o ymchwil am y cwmnïau sy’n cynnig prentisiaethau sydd o ddiddordeb i chi. Gallai maint cwmni wneud gwahaniaeth i’ch profiad yn ystod y brentisiaeth. Os yw’n gwmni llai, efallai y bydd cyfle i chi ddod i adnabod eich cydweithwyr yn well, a chael mwy o hyfforddiant un-i-un.

Gyda chwmnïau mwy o faint, gallai olygu eich bod yn cydweithio â mwy o brentisiaid, ar wahân i chi eich hun. Efallai y bydd ystod ehangach o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa, gweithio mewn lleoliadau gwahanol a chyfle i ennill profiad mewn gwahanol swyddi.

Pa lefel o brentisiaeth ddylwn i wneud cais amdani?

Yn Lloegr, ceir pedair lefel o brentisiaeth: Prentisiaeth Ganolradd, Uwch Brentisiaethau, Prentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau. Yng Nghymru a’r Alban, mae enwau gwahanol ar y gwahanol lefelau, ond maent yn eithaf tebyg. Bydd ganddyn nhw ofynion mynediad gwahanol, fel nifer y cymwysterau TGAU neu Safon Uwch y bydd eu hangen arnoch chi i gael eich derbyn ar y prentisiaethau hyn.

Dewiswch y lefel sy’n addas ar gyfer eich oedran a lefel eich addysg. Er enghraifft, os oes gennych chi gymwysterau Safon Uwch, mae’n debyg y dylech chi fod yn gwneud cais am Brentisiaeth Uwch. Os mai dim ond cymwysterau TGAU sydd gennych chi, ni fyddwch yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer Gradd-brentisiaeth.

Ble i ddod o hyd i brentisiaethau sydd ar gael

Mae llawer o ffyrdd o chwilio am brentisiaethau. Gallech edrych ar wefannau fel Talentview, TotalJobs, Indeed neu wasanaeth prentisiaethau’r llywodraeth. Gallwch chi wneud cais am brentisiaethau drwy lanlwytho eich CV neu wneud cais yn uniongyrchol i’r cyflogwr.

I’ch helpu i ddod o hyd i gyflogwr, gallwch gysylltu â cholegau lleol, darparwyr hyfforddiant arbenigol neu asiantaethau rheoli prentisiaethau. Mae clywed amdanynt ar lafar hefyd yn ddefnyddiol – efallai y bydd ffrindiau, teulu neu gymdogion yn gwybod am swyddi gwag. Gofynnwch a oes ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd prentisiaeth yn eu mannau gwaith.

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth ond ddim yn siŵr sut i fynd ati? Mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Os oes gennych chi gwestiynau neu os hoffech chi drafod eich opsiynau ym maes adeiladu, cysylltwch â ni.

Dyluniwyd y wefan gan S8080