Facebook Pixel

Rheolwr prosiect

Mae rheolwyr prosiect yn goruchwylio'r gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau adeiladu. Maent yn sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb. Maent yn trefnu logisteg, yn dirprwyo gwaith ac yn cadw llygaid ar wariant. Fel rheolwr prosiect, byddech yn cysylltu â chleientiaid a gweithwyr adeiladu proffesiynol i drefnu amserlenni a chyfarwyddo gweithgarwch.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Sut i ddod yn rheolwr prosiect

Mae yna sawl llwybr i ddod yn rheolwr prosiect. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad yn barod, efallai y gallwch wneud cais uniongyrchol am swydd. Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd israddedig mewn rheoli adeiladu, rheoli prosiectau, busnes neu TG.

Os oes gennych radd gyntaf yn barod, gallech astudio am gymhwyster ôl-raddedig mewn rheoli prosiectau adeiladu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Gallech gwblhau NVQ Lefelau 4 a 5 mewn Rheoli Prosiectau neu Lefelau 3, 4 a 5 mewn Technegau Gwella Busnes. 

Mae rhai darparwyr hyfforddiant hefyd yn cynnig NVQ lefelau 3, 4 a 5 sy'n ymwneud yn benodol â rheoli prosiectau adeiladu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 mlwydd oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Mae prentisiaeth ganolradd yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau. Gallech gwblhau uwch-brentisiaeth mewn rheoli adeiladu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Bydd llawer o reolwyr prosiect yn dechrau ar eu gyrfaoedd fel crefftwyr mewn maes penodol. Os oes gennych brofiad o reoli prosiectau bychain, gallech astudio’n rhan-amser i ennill cymwysterau rheoli prosiect a chael swydd mewn tîm cynorthwyo prosiect adeiladu.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.  

Cymwysterau


Beth mae rheolwr prosiect yn ei wneud?

Fel rheolwr prosiect, byddwch yn gyfrifol am helpu i gadw prosiectau ar amserlen a chyllideb realistig. Mae hyn yn cynnwys dewis ac arwain tîm prosiect a sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r holl fanylion fel y gallwch chi gadw cleient yn gyfredol.

Fel rheolwr prosiect, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Deall beth mae'r cleient neu'r cwmni yn dymuno'i gyflawni
  • Cytuno ar amserlenni, costau ac adnoddau sydd eu hangen i gyflawni prosiect
  • Llunio cynllun manwl ar sut i gyflawni pob cam o'r prosiect
  • Dewis ac arwain tîm y prosiect 
  • Cyd-drafod â chontractwyr a chyflenwyr
  • Cyfarwyddo tîm amlddisgyblaethol 
  • Cyfathrebu â staff ar bob lefel, yn bwyllog a charedig
  • Goruchwylio nifer o brosiectau ar yr un pryd
  • Sicrhau fod pob cam o'r prosiect yn cael ei gyflawni'n brydlon ac o fewn y gyllideb i safon uchel
  • Adrodd am gynnydd yn rheolaidd i  gleient a rhanddeiliaid 
  • Cydlynu ymchwil am y farchnad a chwsmeriaid
  • Datrys unrhyw anawsterau neu oedi
  • Dangos gwybodaeth am holl feysydd y diwydiant adeiladu
  • Ysgrifennu cynigion am dendrau
  • Rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd â chymorth tîm o reolwyr prosiect iau
  • Gweithio mewn swyddfa neu ar safle adeiladu.

Faint allech ei ennill fel rheolwr prosiect?

Mae'r cyflog disgwyliedig i reolwr prosiect yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.

  • Gall rheolwyr prosiect sydd newydd eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr prosiect wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £30,000 - £50,000
  • Gall rheolwyr prosiect uwch neu siartredig ennill £50,000 - £60,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr prosiectau:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl astudio, gallech gychwyn ar eich llwybr gyrfa fel hyfforddai, rheolwr prosiectau iau, neu gydlynydd prosiect cysylltiol.

Ymhen amser, gallech ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau a symud i faes rheoli contract neu ymgynghori prosiect.

Gallech gwblhau rhagor o hyfforddiant i arbenigo mewn maes megis TG neu dechnoleg ddigidol, peirianneg, contractau, iechyd a diogelwch, amcangyfrif neu archwilio adeiladau. 

I ddod yn uwch reolwr prosiect, gallech astudio am gymwysterau ychwanegol gyda'r Gymdeithas Rheoli Prosiectau(APM), y Sefydliad Rheoli Prosiectau (PMI) neu'r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI). Gallech gyflwyno cais am statws siartredig i gynyddu’ch cyflog.

Gallech sefydlu eich busnes eich hun a gweithio fel ymgynghorydd ar eich liwt eich hun.


Dyluniwyd y wefan gan S8080