Facebook Pixel

Gweithiwr drilio diemwnt

A elwir hefyd yn -

Gweithiwr drilio a llifio diemwnt

Mae gweithwyr drilio diemwnt yn defnyddio offer arbenigol i dorri drwy’r deunyddiau caletaf ar safle adeiladu, fel concrit cyfnerth. Gellid eu galw i mewn i godi darnau o ffyrdd neu balmentydd, helpu gyda gwaith dymchwel neu ddatgymalu tyrau a phontydd, gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£3000

Sut i fod yn weithiwr drilio diemwnt

Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr drilio diemwnt. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr drilio diemwnt, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn weithiwr drilio diemwnt, byddai TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg ar radd 4 neu uwch o fudd i unrhyw un sy’n ystyried hyn fel gyrfa.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech ddod yn weithiwr drilio diemwnt drwy gwblhau prentisiaeth drilio a llifio.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi bum mlynedd o brofiad yn y diwydiant a’ch bod yn awyddus i fod yn weithiwr drilio diemwnt, gallech chi gymryd yr Asesiad Ymarferol i Weithwyr Profiadol (EWPA) sy’n cyfuno rhannau allweddol y cwrs Lefel 2 mewn Drilio a Llifio mewn un asesiad ymarferol, ynghyd â thystiolaeth seiliedig ar waith ac ardystiad gan gyflogwr. 

Neu gallwch wneud Asesiad a Hyfforddiant ar y Safle (OSAT) er mwyn cael swydd fel gweithiwr drilio diemwnt. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr drilio diemwnt. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau dymunol ar gyfer gweithiwr drilio diemwnt:

  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol 
  • Sgiliau ymarferol 
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau ysgrifenedig a rhai ar lafar
  • Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ar y safle
  • Gallu datrys problemau 
  • Gallu gweithio’n dda mewn tîm.

Cymwysterau


Beth mae gweithiwr drilio diemwnt yn ei wneud?

Yn bennaf, mae gweithiwr drilio diemwnt yn gyfrifol am dorri drwy goncrit cyfnerth a choncrit wedi’i gyfnerthu â dur ar wahanol brosiectau adeiladu. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cynnal asesiad iechyd a diogelwch, ac amcangyfrif faint o amser y bydd yn ei gymryd i wneud y gwaith cyn rhoi gwybod i reolwr y safle am hyn. 

Dyma rai o ddyletswyddau eraill gweithiwr drilio diemwnt: 

  • Drilio drwy amryw o ddeunyddiau gan ddefnyddio offer a pheiriannau arbenigol
  • Cynllunio a gwneud gwaith mewn ffordd mor ddiogel â phosibl
  • Llifio lloriau, â llaw neu wifrau
  • Dilyn cynlluniau a chyfarwyddiadau manwl
  • Cadw at ganllawiau iechyd a diogelwch caeth.
  • Archwilio offer i sicrhau ei fod yn gweithio’n iawn
  • Gweithio ar safle adeiladu.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr drilio diemwnt?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr drilio diemwnt yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithiwyr drilio diemwnt sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gweithwyr drilio diemwnt hyfforddedig a phrofiadol ennill £20,000 - £25,000
  • Gall gweithwyr drilio diemwnt uwch, siartredig neu feistr ennill £25,000 - £30,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithiwyr drilio diemwnt: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithiwr drilio diemwnt, mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa ac amrywiaeth o wahanol lwybrau y gallech eu dilyn. 

Wrth i chi gael mwy o brofiad ac wrth i’ch sgiliau gynyddu, gallech ddod yn gontractwr neu’n is-gontractwr hunangyflogedig sy’n arbenigo mewn drilio diemwnt. 

Neu, efallai y byddwch yn penderfynu ymgymryd â rolau sy’n ymwneud mwy â rheoli, fel rheolwr contractau neu beiriannydd safle.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr drilio diemwnt Swydd driliwr diemwnt yw un o’r swyddi adeiladu mwyaf medrus, ac maent yn gyfrif...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd Gosod Allan Peirianwyr Gosod Allan yw'r prif gynghorwyr technegol i isgontractwyr a gweithre...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080