Facebook Pixel

Rheolwr contractau

A elwir hefyd yn -

Peiriannydd contractau, goruchwyliwr contractau

Mae rheolwr contractau yn y diwydiant adeiladu yn rheoli contractau sy'n ymwneud a phrosiectau adeiladu. Maen nhw’n astudio elfennau cyfreithiol contractau ac yn helpu i negodi telerau ac amodau gyda chleientiaid a thrydydd partïon, cyn llunio dogfennau cyfreithiol i amlinellu telerau’r gwasanaeth a chyflawniadau’r prosiect.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn rheolwr contractau

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr contractau. Gallech gwblhau cwrs prifysgol, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr contractau i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

I fod yn rheolwr contractau neu beiriannydd contractau, gallech gwblhau gradd sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), neu radd israddedig mewn pwnc sy'n ymwneud â chyfraith contractau, megis:

  • Peirianneg sifil neu strwythurol
  • Rheoli adeiladu
  • Rheoli busnes neu gontractau
  • Astudiaethau adeiladu
  • Mesur meintiau.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Gallech gofrestru ar uwch-brentisiaeth neu radd brentisiaeth mewn rheoli adeiladu, ac arbenigo mewn gwaith contractau ar ôl i chi gymhwyso.

Ar gyfer prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth, bydd angen y canlynol arnoch: 

  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol
  • Hyd at 3 lefel A, neu gyfwerth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol mewn mesur meintiau neu amcangyfrif, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i waith fel cynorthwyydd contractau mewn cwmni adeiladu. Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i gael y profiad a'r hyfforddiant sydd eu hangen i symud ymlaen i rôl fel rheolwr contractau neu beiriannydd contractau.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr contractau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau a gwybodaeth ddymunol ar gyfer rheolwr contractau yn cynnwys: 

  • Dealltwriaeth o’r diwydiant adeiladu
  • Dealltwriaeth o ddogfennau cyfreithiol
  • Mathemateg a gwybodaeth TG 
  • Sgiliau arwain cryf 
  • Sgiliau rheoli busnes
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Sgiliau cyfathrebu da ar lafar.

Beth mae rheolwr contractau yn ei wneud?

Fel rheolwr contractau, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio dogfennau cyfreithiol pwysig sy’n ymwneud â phrosiectau adeiladu ac yn sicrhau bod unrhyw faterion sy’n codi yn cael eu datrys mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl. 

Gall dyletswyddau rheolwr contractau gynnwys: 

  • Paratoi tendrau ar gyfer cleientiaid a bidiau masnachol i helpu i ddenu busnes newydd
  • Datblygu a chyflwyno cynigion prosiectau
  • Cyfarfod â chleientiaid i ganfod beth yw eu gofynion
  • Paratoi cynlluniau ac amcangyfrif cyllidebau ac amserlenni
  • Trafod, drafftio, adolygu a negodi telerau contractau busnes
  • Cytuno ar gyllidebau ac amserlenni gyda’r cleientiaid
  • Rheoli amserlenni a chyllidebau adeiladu
  • Delio â chostau annisgwyl
  • Mynychu cyfarfodydd safle i fonitro cynnydd
  • Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer cleientiaid, rheolwyr safle a rheolwyr prosiect
  • Gweithio gyda thrydydd partïon i sicrhau bod pawb yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau
  • Gwneud yn siŵr bod prosiectau adeiladu yn bodloni safonau technegol y cytunwyd arnynt
  • Cysylltu â staff technegol ac ariannol, is-gontractwyr, timau cyfreithiol a chynrychiolwyr y cleient ei hun
  • Goruchwylio’r gwaith o anfonebu ar ddiwedd prosiect
  • Gweithio ar y safle ac mewn swyddfa.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr contractau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr contractau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad

  • Gall rheolwyr contractau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000 - £35,000
  • Gall rheolwyr contractau hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £35,000 - £45,000
  • Gall rheolwyr contractau uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £70,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr contractau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad fel rheolwr contractau neu beiriannydd contractau, gallech symud i rôl rheolwr cyfleusterau.

Neu, gallech wneud cais am statws siartredig fel rheolwr contractau i wella eich cyflog a’ch dewisiadau gyrfa. 

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Prynwr Disgrifiad swydd prynwr adeiladu. Rhagor o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau p...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080