Facebook Pixel

Töwr plwm

A elwir hefyd yn -

Gosodwr dalennau plwm, gweithiwr dalennau plwm, gweithredwr toi plwm, gweithiwr toi plwm

Mae töwr plwm yn gyfrifol am weithio ar amrywiaeth o adeiladau – o dai i strwythurau rhestredig, eglwysi a chadeirlannau. Gall hyn olygu archwilio, tynnu neu drwsio dalennau plwm presennol neu osod dalennau newydd.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£40000

Sut i fod yn döwr plwm

Mae sawl ffordd o ddod yn döwr plwm. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech astudio cwrs toi gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol, fel Diploma Lefel 2 mewn Galwedigaethau Toi ac yna arbenigo mewn gwaith plwm. 

Yn gyffredinol, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn toi ac yna arbenigo fel töwr plwm. 

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis canolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, neu brofiad perthnasol o doi, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel töwr plwm. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i döwr plwm mwy profiadol a datblygu wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel töwr plwm. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel töwr plwm: 

  • Dealltwriaeth am adeiladau ac adeiladu
  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Sylw da i fanylion
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Gallu gweithio’n dda ar eich pen eich hun, neu gydag eraill
  • Gallu cyflawni tasgau sylfaenol ar gyfrifiadur neu ddyfais yn y llaw.

Cymwysterau


Beth mae töwr plwm yn ei wneud?

  • Tynnu a gwneud gwaith atgyweirio ar ddalennau plwm sydd wedi torri
  • Gosod toeau plwm newydd
  • Mesur a thorri deunyddiau i’r maint a’r siâp cywir
  • Weldio, siapio a gosod cladin
  • Torri a gosod caeadau plwm o amgylch simneiau a waliau cyfagos
  • Selio uniadau to er mwyn sicrhau bod y gwaith rydych yn ei wneud yn dal dŵr
  • Gorchuddio toi gan ddefnyddio rholiau plwm
  • Gweithio gyda chrefftwyr eraill, fel seiri coed a phlymwyr
  • Gweithio ar uchder, gan ddefnyddio ysgolion, sgaffaldiau ac offer diogelwch fel het galed a phadiau pen-glin
  • Cadw at ganllawiau iechyd a diogelwch
  • Cynnal prosiectau atgyweirio neu adfer
  • Gweithio gyda llechi plwm, gwteri wedi’u leinio a thyrrau, cromenni, twredi a meindyrau eglwysi
  • Bydd y rhan fwyaf o swyddi’n llawn amser am oddeutu 40 awr yr wythnos.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel töwr plwm?

Mae’r cyflog disgwyliedig i döwr plwm yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall towyr plwm sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall towyr plwm profiadol ennill £20,000 - £40,000
  • Towyr plwm hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer towyr plwm: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel töwr plwm, gallech chi symud ymlaen i fod yn rheolwr tîm neu’n reolwr safle ac ennill cyflog uwch.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Töwr plwm Yn arbenigo mewn gwaith gyda dalennau plwm, gan gynnwys weldio a gosod rhigolau ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr safle Mae rheolwyr safle yn rhedeg y gweithlu ar safle adeiladu. ...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080