Facebook Pixel

Technegydd maes

A elwir hefyd yn -

Technegydd cynnal a chadw, technegydd cynnal a chadw peirianyddol

Mae technegydd maes yn delio â gwasanaethu ar y safle, diagnosteg ac atgyweiriadau ar gyfer offer neu gynnyrch trydanol cwmni. Gall hyn amrywio o gyfrifiaduron, systemau gwresogi ac oeri, systemau diogelwch, peiriannau trwm a mwy. Gall technegwyr maes weithio mewn ffatrïoedd, safleoedd gweithgynhyrchu neu ar safleoedd adeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i fod yn dechnegydd maes

Mae sawl ffordd o fod yn dechnegydd maes. Gallech ddilyn prentisiaeth, gradd prifysgol, cwrs coleg, neu hyfforddiant yn y gwaith. Os oes gennych brofiad neu sgiliau perthnasol yn barod, efallai y gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd sylfaen mewn peirianneg cyn gwneud cais am swydd fel technegydd maes dan hyfforddiant.

Ar gyfer gradd sylfaen, bydd angen y canlynol arnoch fel arfer:

Coleg

Gallech chi ddilyn cwrs coleg i ddysgu rhywfaint o'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer swydd fel technegydd maes. Mae cyrsiau coleg perthnasol yn cynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Peirianneg Fecanyddol
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Technoleg Peirianneg Electronig a Thrydanol
  • Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Cynnal a Chadw Cyfarpar.
  • Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg.

I ddilyn cwrs coleg, efallai y bydd angen y canlynol arnoch chi:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Gallech chi gwblhau prentisiaeth uwch fel technegydd peirianneg i fod yn dechnegydd maes.

I ddilyn prentisiaeth uwch, fel arfer bydd angen 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel technegydd maes. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i dechnegydd maes mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella. Mae llawer o gwmnïau'n cynnig hyfforddiant yn y gwaith, neu gyrsiau penodol i'ch helpu i gymhwyso.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd maes. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel technegydd maes: 

  • Gallu defnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Sylw i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Sgiliau datrys problemau
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill.

Beth mae technegydd maes yn ei wneud?

Fel technegydd maes, byddwch yn gyfrifol am ddatrys problemau gyda chyfarpar technegol a’u trwsio. Gall hyn olygu gweithio ar bethau fel peiriannau trwm, mewn ffatrïoedd neu ar safleoedd gweithgynhyrchu.

Mae swydd technegydd maes yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Datrys problemau, profi, trwsio a gwasanaethu offer technegol
  • Darparu gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid yn ystod ymweliadau maes
  • Rheoli’r gwaith o osod, atgyweirio, cynnal a chadw a phrofi ar y safle
  • Dadansoddi namau neu broblemau technegol a chanfod atebion priodol
  • Cynhyrchu adroddiadau gwasanaethu manwl
  • Dogfennu prosesau
  • Gweithredu cerbydau a pheiriannau mewn modd diogel
  • Dilyn gweithdrefnau a phrotocolau’r cwmni
  • Cydweithredu â thimau technegol a rhannu gwybodaeth ar draws y sefydliad
  • Gwneud argymhellion priodol a briffio ar waith atgyweirio, diagnosteg a manylebau offer
  • Meithrin perthnasau cadarnhaol gyda chwsmeriaid
  • Gweithio gyda chynhyrchion nad yw’n hawdd i’w cludo oherwydd eu maint neu eu cysylltiad â systemau eraill.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel technegydd maes?

Mae’r cyflog disgwyliedig i dechnegydd maes yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall technegwyr maes sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall technegwyr maes hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £25,000 - £40,000
  • Gall uwch dechnegwyr maes ennill £40,000 neu fwy.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegwyr maes: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel technegydd maes, gallech astudio ymhellach i gymhwyso fel peiriannydd mecanyddol neu drydanol.

Gallech hefyd symud ymlaen i rôl rheoli tîm cynnal a chadw.

Neu gallech drosglwyddo eich sgiliau i rôl dechnegol gwerthu neu reoli contractau.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Technegydd maes Mae'r disgrifiad swydd hwn ar gyfer technegydd maes yn rhoi'r holl wybodaeth syd...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arolygydd peiriannau Goruchwylio cyfrifon mewnol a sicrhau bod peiriannau’n rhedeg yn effeithiol am y...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080