Facebook Pixel

Rheolwr tirlunio

A elwir hefyd yn -

Rheolwr cefn gwlad, rheolwr mannau gwyrdd, tirluniwr, garddluniwr, dylunydd tirluniau

Mae rheolwyr tirlunio yn cynllunio, yn datblygu ac yn gofalu am fannau yn yr awyr agored, i sicrhau bod pobl yn gallu eu defnyddio a’u mwynhau, nawr ac yn y dyfodol. Maen nhw’n defnyddio eu gwybodaeth am ecosystemau ac ymddygiad pobl i roi cyngor ar brosiectau adeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£40000

Sut i fod yn rheolwr tirlunio

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr tirlunio. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr tirlunio i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallwch ddod yn rheolwr tirlunio drwy ddilyn gradd mewn pensaernïaeth tirwedd neu reoli tirwedd, wedi’i hachredu gan y Sefydliad Tirwedd.

Os oes gennych chi radd yn barod, gallech gwblhau cwrs ôl-radd mewn pwnc perthnasol.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 2 lefel A neu fwy, neu gymhwyster cyfatebol (gradd israddedig)
  • Gradd mewn pwnc perthnasol (gradd ôl-raddedig).

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i ddod yn rheolwr tirlunio, fel Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Ymarferol, neu Dystysgrif neu Ddiploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth neu Arddwriaeth Amwynder.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 2)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 3).

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech ddod yn rheolwr tirlunio drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr garddwriaeth neu dirwedd, ac yna symud ymlaen i ddilyn uwch brentisiaeth i hyfforddi fel rheolwr neu oruchwyliwr tirlunio.

Mae prentisiaeth gyda chwmni tirlunio yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 1 - 2 TGAU, neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys mathemateg a Saesneg (prentisiaeth ganolradd)
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (uwch brentisiaeth)

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel rheolwr tirlunio. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd a symud ymlaen wrth i chi gael mwy o brofiad.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel rheolwr tirlunio. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr tirlunio:

  • Diddordeb mawr mewn planhigion ac anifeiliaid
  • Sgiliau datrys problemau
  • Sgiliau cyfathrebu a negodi ardderchog
  • Diddordeb mewn technoleg.

Cymwysterau


Beth mae rheolwr tirlunio yn ei wneud?

Fel rheolwr tirlunio, byddwch yn gyfrifol am ddiogelu mannau gwyrdd a’r bywyd sydd ynddynt. Gall y dyletswyddau gynnwys cynnal arolygon bywyd gwyllt a pharatoi adroddiadau ar gyfer cleientiaid a busnesau sy’n cynnwys eich sylwadau a’ch argymhellion ynghylch cynaliadwyedd. Gallech fod yn goruchwylio ardaloedd cadwraeth naturiol, gerddi hanesyddol, coedlannau, parciau, lleiniau ymyl ffordd neu stadau tai.

Mae rôl rheolwr tirlunio yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Asesu tirweddau a’u hecosystemau
  • Arolygu safleoedd i ganfod yr adnoddau naturiol, y planhigion a’r anifeiliaid sydd yno
  • Cynghori ynghylch effaith y newidiadau arfaethedig i ddefnydd y tir
  • Cwrdd â chymunedau a chynnwys eraill yn y gwaith o reoli mannau cyhoeddus
  • Cynhyrchu cynlluniau ac adroddiadau ar warchod y dirwedd
  • Paratoi cynlluniau rheoli a chynnal, i sicrhau bod y mannau’n cael eu cadw i’w defnyddio a’u mwynhau yn y dyfodol
  • Cynghori eraill ar ofal hirdymor a datblygiad tirwedd
  • Llunio contractau a goruchwylio contractwyr
  • Gwneud cais am gyllid a rheoli bidiau
  • Goruchwylio prosiectau adeiladu a gyflawnir gan benseiri tirwedd
  • Rhoi cyngor ar geisiadau cynllunio ac ymchwiliadau cyhoeddus.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr tirlunio?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr tirlunio yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr tirlunio sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall rheolwyr tirlunio gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £40,000
  • Gall uwch reolwyr tirlunio ennill mwy na £40,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr tirlunio:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr tirlunio, gallech symud ymlaen i rolau uwch neu sefydlu eich hun fel ymgynghorydd hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr tirlunio Cynhyrchu cynlluniau a goruchwylio unrhyw gynigion i wella mannau yn yr awyr ago...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080