Facebook Pixel

Peiriannydd adran dwnelu

A elwir hefyd yn -

Peiriannydd adran

Mae peiriannydd adran dwnelu yn ymwneud â’r gwaith o gynllunio a dylunio prosiectau twnelu. Gall hyn gynnwys dylunio strwythurau twnnel a chaffael y deunyddiau sydd eu hangen i’w hadeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

42-45

Sut i fod yn beiriannydd adran dwnelu

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd adran dwnelu. Gallech gwblhau gradd prifysgol neu gwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Fel arfer, i fod yn beiriannydd adran dwnelu, bydd angen i chi gael gradd mewn pwnc perthnasol.

Fel arfer bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech astudio mewn coleg i'ch helpu i ddod yn beiriannydd adran dwnelu. Mae cyrsiau coleg perthnasol yn cynnwys:

  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) Lefel 4 mewn Peirianneg Sifil
  • Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) Lefel 5 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.  

Fel arfer, bydd angen 1 - 2 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol, arnoch i astudio am HNC neu HND.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau gradd-brentisiaeth fel peiriannydd sifil ac wedyn arbenigo mewn bod yn beiriannydd adran dwnelu.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • 5 TGAU (gan gynnwys Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol
  • 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad mewn rôl beirianyddol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad ar safle fel peiriannydd adran dwnelu. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd adran dwnelu mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd adran dwnelu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd adran dwnelu: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau mathemategol, TG a meddwl dadansoddol rhagorol
  • Gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu
  • Sylw da i fanylion

Cymwysterau


Beth mae peiriannydd adran dwnelu yn ei wneud?

Fel peiriannydd adran dwnelu, byddwch yn gyfrifol am ddylunio, cynllunio a rhaglennu prosiectau twnelu.

Gall swydd peiriannydd adran dwnelu gynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynllunio a dylunio prosiectau twnelu
  • Goruchwylio’r gwaith o ddethol a chaffael deunyddiau 
  • Dehongli dogfennau dylunio contractau
  • Bod yn brif gynghorydd technegol ar gyfer isgontractwyr, crefftwyr a gweithwyr ar safle adeiladu
  • Datblygu systemau gweithio diogel a datganiadau dull
  • Monitro a rheoli cyllidebau
  • Sicrhau bod y gwaith a wneir yn cadw at y fanyleb
  • Mynychu cyfarfodydd cynnydd rheolaidd
  • Rheoli’r safle o ddydd i ddydd
  • Gwaith cynllunio a threfnu cyfleusterau ar y safle er mwyn cwrdd ag amserlenni y cytunwyd arnynt 
  • Goruchwylio’r gwaith o reoli ansawdd ac iechyd a diogelwch ar y safle
  • Paratoi adroddiadau cynnydd
  • Datrys unrhyw anawsterau technegol annisgwyl 
  • Cynllunio’r gwaith o adeiladu siambrau concrit wedi’i chwistrellu a ffurfio twneli
  • Goruchwylio’r defnydd o beiriannau tyllu twnnel arbenigol a chynllunio ffyrdd o leihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd adran dwnelu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd adran dwnelu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr adran dwnelu sydd newydd eu hyfforddi ennill £25,000 - £30,000
  • Gall peirianwyr adran dwnelu hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £30,000 - £35,000
  • Gall uwch beirianwyr adran dwnelu ennill £35,000 - £45,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i beirianwyr adran dwnelu: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannydd adran dwnelu, gallech chi drosglwyddo eich sgiliau i rôl debyg fel peiriannwr sifil neu beiriannydd strwythurol.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd adran dwnelu Cynllunio a pheiriannu wrth adeiladu amrywiaeth o brosiectau adran dwnelu. Dysgw...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd sifil Mae peirianwyr sifil yn chwarae'r rhan bwysig o gynllunio, dylunio a rheoli pros...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080