Rwy’n gweithio fel rheolwr adeiladu masnachol dan hyfforddiant ar brosiectau adeiladu masnachol ar raddfa ganolig i raddfa fawr, yn amrywio o bump i dri deg miliwn o bunnoedd.

Fy ngwaith i yw rheoli pecynnau isgontractwyr a’r rhaglen, a helpu i reoli agweddau cost a dylunio ar y contract dylunio ac adeiladu er mwyn darparu adeiladau o ansawdd uchel o fewn y gyllideb a’r amserlen.

Rwy’n delio ag aelodau o’r tîm dylunio, fel rheolwyr dylunio, penseiri, ymgynghorwyr a pheirianwyr, yn ogystal ag isgontractwyr a chleientiaid.

Mae pob diwrnod yn dod â her newydd. Does dim byd tebyg i’r ymdeimlad o gyflawniad rydych chi’n ei gael wrth drosglwyddo prosiect llwyddiannus.

Case study
Category Information
Lleoliad Plymouth
Cyflogwr Willmott Dixon Construction

Pa lwybr addysg wnaethoch chi ei ddilyn o’r ysgol uwchradd i’r lle rydych chi heddiw?

Pan adawes i’r ysgol, fe wnes i ddechrau prentisiaeth blymio. Mi wnes i weithio fel plymwr safle a gweithio fy ffordd i fyny i fod yn fforman. Daliais ati i gwblhau lefel 3 ac yn y pen draw astudiais yr HNC Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, gan dderbyn rhagoriaeth ym Mhrifysgol Plymouth. Yna, fe wnes i sicrhau lle ar raglen hyfforddeion rheoli Willmott Dixon Construction ac fe wnaeth y cwmni fy noddi i astudio HNC Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Ngholeg Dinas Caerfaddon. Rydw i nawr yn aros am fy nghanlyniad terfynol a rhagwelwyd y byddaf yn llwyddo gyda rhagoriaeth.

Bydd gwaddol eich cyflawniadau’n parhau am y rhan fwyaf o’ch bywyd, yn dibynnu ar y prosiectau rydych chi’n gweithio arnyn nhw, ac rydych chi’n cael cyfle go iawn i lunio a dylanwadu ar gymunedau

Jack Chami

Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu/Cydlynydd Mecanyddol a Thrydanol

I ba gwmni ydych chi’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud?

Willmott Dixon Construction - un o brif gontractwyr y DU.


Beth yw eich hoff beth am eich swydd?

Gallu gweithio gydag amrywiaeth mor fawr o bobl o wahanol gefndiroedd ac anaml iawn y byddaf yn delio â’r un problemau ddwywaith. Mae pob diwrnod yn dod â her newydd. Does dim byd tebyg i’r ymdeimlad o gyflawniad rydych chi’n ei gael mewn swyddi adeiladu wrth drosglwyddo prosiect llwyddiannus.


Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?

Mae un o’r pethau gwych am weithio ym maes adeiladu yn dod ddechrau’r prynhawn pan fydd prysurdeb yn y bore’n tawelu. Gallwch gerdded drwy’r prosiect a gweld sut mae’n dod yn ei flaen. Pan fyddwch yn gweld bod y prosiect wir yn datblygu bob dydd, byddwch yn cael ymdeimlad da o gyflawniad a chynnydd.


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi?

Yn y pen draw, rwyf eisiau cael y cyfle i fod yn rheolwr adeiladu ar brosiect nodedig neu arloesol, a fy uchelgais yw bod yn gyfarwyddwr ar fy nghwmni.


Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Mae gweithio ym maes adeiladu yn gyfle cwbl unigryw sy’n cynnig ymdeimlad o gyflawniad na welwch mewn llawer o broffesiynau eraill. Bydd gwaddol eich cyflawniadau’n parhau am y rhan fwyaf o’ch bywyd, yn dibynnu ar y prosiectau rydych chi’n gweithio arnyn nhw, ac rydych chi’n cael cyfle go iawn i lunio a dylanwadu ar gymunedau


A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu, a fyddai’n ysbrydoli eraill i ddilyn y llwybr gyrfa o’u dewis?

Mae llawer o lwybrau i swyddi da yn y diwydiant adeiladu, sy’n agored i unrhyw un o bob cefndir ac sydd â galluoedd gwahanol. Mae’n ddiwydiant angerddol sy’n llawn unigolion, a gwaith tîm yw’r sail iddo. Os ydych chi’n gallu gweithio’n galed ac ysgogi eich hun, mae cyfle i chi gael gyrfa a fydd yn rhoi boddhad i chi.

Pe bawn i’n gallu newid unrhyw beth ar fy nhaith, byddwn wedi sylweddoli’n gynt beth roeddwn i eisiau ei wneud a gwybod pa fath o rolau sydd ar gael. Petawn i’n gwybod hyn, gallwn fod wedi cyrraedd lle rydw i ychydig yn gynt – ac rwy’n mwynhau fy ngwaith yn fawr.

Edrychwch ar yr holl swyddi gwahanol sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu gyda’n Hanimeiddiad Rolau yn y Diwydiant Adeiladu