Mae galw mawr am sgiliau plymio. Bydd angen plymwyr bob amser yn y diwydiant adeiladu, i osod systemau gwres canolog, gosod ystafelloedd ymolchi a cheginau ac ymateb i argyfyngau. Darllenwch ein canllaw cyflym isod i gael gwybod sut mae hyfforddi i fod yn blymwr.  


Gwneud cais am brentisiaeth blymio

Mae sawl ffordd o ddod yn blymwr. Ond os ydych chi'n dechrau gweithio neu'n dilyn cwrs hyfforddi neu gwrs coleg, fyddwch chi ddim yn gymwys i fod yn blymwr heb ennill diploma Lefel 2 a Lefel 3. Mae’r rhain yn gymwysterau plymio a gwresogi sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, a’r ffordd orau o’u cyflawni yw drwy ddilyn prentisiaeth blymio.  

Mae prentisiaethau’n cael eu hysbysebu gan gyflogwyr, ac un o’r ffyrdd y gallwch chi wneud cais yw drwy chwilio drwy’r swyddi gwag diweddaraf ar wefan Talentview Construction.  

Pa mor hir yw prentisiaeth blymio nodweddiadol?

Mae prentisiaethau plymio fel arfer yn cymryd hyd at 4 blynedd i’w cwblhau ac yn arwain at ddiploma Lefel 3 uwch. Mae Lefel 3 hefyd yn darparu llwybr i blymwyr gael eu cofrestru gyda Gas-safe.  

Faint allwch chi ei ennill fel prentis plymio?

Mae cyflogau’n amrywio, ond gallech ennill hyd at £20,000 fel prentis plymio. Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar wefan Talentview i weld y cyflogau sy’n cael eu cynnig.   

Beth fyddwch chi’n ei wneud o ddydd i ddydd? 

Byddwch yn dysgu’r holl sgiliau plymio allweddol sy’n gysylltiedig â gweithio yn y grefft. Gallai hyn gynnwys gosod systemau gwres canolog newydd, neu drwsio problemau ar bibellau neu systemau presennol. 

Gallech fod yn gwneud unrhyw un o'r pethau canlynol wrth i chi hyfforddi i fod yn blymwr cymwysedig: 

  • Gosod systemau dŵr poeth ac oer, glanweithdra a draenio 
  • Gosod offer llosgi tanwydd domestig gan ddefnyddio nwy, olew neu danwydd solet 
  • Torri ac uno pibellau a ffitiadau 
  • Mesur neu asesu safleoedd er mwyn rhoi amcangyfrif i gleientiaid 
  • Archwilio systemau plymio domestig a thrwsio namau 
  • Ymateb i alwadau brys fel llifogydd neu foelerau’n torri 

Rhagor o wybodaeth am broffil swyddi plymio Am Adeiladu.  


Hyfforddi i fod yn blymwr