Facebook Pixel

Andy Newby - Hanes am lwyddiant yn y diwydiant Adeiladu

Mae Andy Newby yn gweithio fel Tasgmon i Jem Scaffolding, yn Plymouth.

Gyda chymorth ei gyflogwyr, ei gydweithwyr a’i hyfforddwyr swyddi ymroddedig, mae Andy wedi gallu chwalu stereoteipiau a herio agweddau tuag at bobl ag anableddau sy’n gweithio ym maes adeiladu.


Dyweda ychydig yn fwy wrthym ni am yr hyn rwyt ti’n ei wneud.

Rydw i’n glanhau’r tu mewn ac yna’n mynd i’r iard lle rydw i’n gwneud gwaith cynnal a chadw ac yn rhoi trefn ar y polion a’r ffitiadau. Pan fydd sgaffaldiau yn y wagenni, rwy’n eu tynnu allan ac yn eu rhoi mewn trefn yn y llefydd iawn. Fy rôl i yw sicrhau bod yr iard yn daclus ac yn aros felly. 


Beth wyt ti’n ei hoffi am dy swydd?

Rydw i’n hoffi dod yma a gweld y bobl sy’n gweithio efo fi. Maen nhw wir yn fy helpu i deimlo fel rhan o’r tîm.

Rydw i’n hoffi fy mod i’n cael profi pa mor dda ydw i am wneud fy swydd, gan fy mod i’n brydlon ac yn drefnus iawn, ac mae hynny’n bwysig iawn yn fy swydd i.

Mae hefyd yn braf iawn i gael fy nhalu! Mae’n golygu fy mod i’n cael bod yn fwy annibynnol, ac wedyn rwy’n gallu mynd i’r dref ar y penwythnos, gwylio pêl-droed, a mwynhau fy hun.


Pa sgiliau sydd eu hangen arnat ti yn dy swydd? 

Mae cael agwedd gadarnhaol yn beth da, a pheidio â chwyno am eich gwaith. Rydw i’n hapus pan rydw i yn y gwaith ac yn gwybod beth sydd angen i mi ei wneud, felly rydw i’n bwrw iddi. Does dim ots gen i am y tywydd gwael chwaith! 


Beth oedd dy gefndir cyn dechrau’r rôl hon?

Mae gen i anabledd dysgu sy’n golygu fy mod i’n cael trafferth darllen ac ysgrifennu, ac yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu. Mae angen help arnaf hefyd i ddysgu arferion newydd. Rydw i’n byw gyda fy rhieni ond rydw i’n teithio’n annibynnol nawr, gan fynd â’r ddau fws ar y ffordd i’r gwaith ac oddi yno.

Helpodd Pluss fi i gael y swydd yma. Cefais fy ngwneud yn ddi-waith yn 2010, a doeddwn i ddim wedi cael unrhyw waith am dâl, felly fe wnaethon nhw fy helpu i ddysgu’r llwybr bysiau a chael chwe wythnos o gyfnod prawf yn y gwaith. Yna fe ges i’r swydd, gan weithio un diwrnod yr wythnos, a chynyddu i dri diwrnod yr wythnos.

Mae gen i hyfforddwr swydd sy’n fy helpu yn y gwaith ac rwy’n gweld fy Ymgynghorydd Cyflogaeth bob chwe wythnos, lle maen nhw’n cadw llygad arna i a’m cynnydd. Mae’n teimlo’n braf i gael bod yn ôl yn y gwaith.

Mae newid ein ffordd o feddwl yn beth mawr yn y diwydiant adeiladu.

RICHARD BARNES - CYFARWYDDWR GWEITHREDIADAU

Richard Barnes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Cyflogwr Andy, Jem Scaffolding, sy’n sôn am eu profiad o gyflogi Andy, a sut mae’r cwmni wedi elwa o hyn. 

Mae Andy wedi gallu dysgu beth sydd angen iddo ei wneud er mwyn gwneud ei waith yn effeithiol. Mae’n mynd ati i wneud ei waith, sy’n golygu nad oes angen i ni boeni gormod amdano. Mae’n gwybod beth yw ei drefn arferol ac mae hynny’n ein helpu ni, gan ei fod yn gallu gweithio’n annibynnol. 

Mae Andy’n ddyn neis iawn, ac mae bob amser yn hapus – allwch chi ddim cwestiynu ei frwdfrydedd! Mae’n ddigon hyderus i gael hwyl gyda ni yn y cwmni (ac hyd yn oed dweud y drefn wrtha i os ydw i wedi anghofio cael y llaeth!), ac mae’n sicr wedi magu hyder ers iddo ddechrau yma. 

Gallwch chi bron iawn ei weld yn datblygu fesul cam; yn lefel ei ymwybyddiaeth, o ran gwybod pwy i siarad â nhw ac yn ei allu ei hun. Gallwch weld y gwelliant cyson mae’n ei wneud yn y gwaith. Mae wedi symud ymlaen o fod angen hyfforddwr swydd amser llawn i fod yn gallu gwneud y gwaith ar ei ben ei hun, ac mae bellach yn gallu gwneud diwrnod cyfan o waith heb fod angen hyfforddwr swydd. 

llun o Andy Newby

Help for employers

Mae gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnwys cyfoeth o gyngor ac arweiniad ar sut i addasu eich busnes fel ei fod yn cynnwys pobl ag anableddau. 


Darparu cefnogaeth

Mae Pluss wedi bod yn wych drwy hyn, ac mae’n wych gweld eu bod, drwy hyn, yn gallu cefnogi pobl i gael gwaith. Maen nhw’n dod i mewn bob chwe wythnos i weld sut hwyl mae Andy yn ei gael, ac mae ei hyfforddwyr yn wych! Maen nhw’n gefnogol ond yn gwybod pryd i gamu’n ôl pan maen nhw’n gweld bod Andy’n gallu gwneud rhywbeth ar ei ben ei hun. 

Bellach, mae Andy’n ddigon hyderus i ddod ata i neu at Darren os oes angen unrhyw beth arno. 

Rydyn ni wedi gosod nod yn Jem Scaffolding i roi cyfleoedd i bob math o bobl. Mae pobl o amrywiaeth o gefndiroedd yn gweithio yma. 

Fel busnes, os ydych chi wir wedi helpu rhywun, byddwch yn derbyn teyrngarwch na all arian ei brynu yn gyfnewid am hynny. Rwy’n hoffi meddwl bod rhoi cyfleoedd i bobl yn un o’r rhesymau pam ein bod yn gwmni llwyddiannus Os byddwch chi’n helpu pobl, byddan nhw’n eich helpu chi. 

Ynglŷn â Pluss

Menter gymdeithasol o Ddyfnaint yw Pluss, sy’n cefnogi miloedd o bobl ag anableddau, ac yn dod â nhw yn ôl i’r byd gwaith. 

Dysgwch fwy am y gwaith y mae Pluss yn ei wneud


Chwalu’r muriau

Mae Andy wedi chwalu unrhyw ragfarnau ers iddo fod yma. Yn y diwydiant hwn, byddwch yn gweld bod diffyg dealltwriaeth o’r rheini sydd â galluoedd gwahanol.

Ond, ers i Andy ddechrau gyda ni, mae ei gydweithwyr wedi dod yn ffrindiau iddo, ac maen nhw wedi ei wneud yn rhan o’r tîm. Maen nhw’n ei gynnwys o, ac mae’n eu helpu gydag amryw o bethau. Mae wedi agor eu llygaid i bobl ag anableddau ac mae rhywun yn siarad â fo fel rhywun cyfartal.

Mae newid ein ffordd o feddwl yn beth mawr yn y diwydiant adeiladu, ac mae Andy wedi gwneud hynny gyda ni. 

Dyluniwyd y wefan gan S8080