Facebook Pixel

Profwr trydanol

A elwir hefyd yn -

Peiriannydd profi trydanol, profwr PAT

Mae profwyr trydanol yn arolygu, yn profi ac yn archwilio gosodiadau trydanol mewn cartrefi a busnesau. Maent yn dod o hyd i namau ac yn cwblhau adroddiadau prawf i gadarnhau pa offer sy’n gweithio’n ddiogel ac yn effeithlon a pha rai sy’n cael eu condemnio fel rhai sy’n anniogel i’w defnyddio.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£36000

Oriau arferol yr wythnos

30-40

Sut i fod yn brofwr trydanol

Mae sawl ffordd o ddod yn brofwr trydanol. Gallech ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs coleg neu brentisiaeth, neu gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych rywfaint o brofiad blaenorol. 

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn brofwr trydanol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.  

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau Diploma Lefel 2 neu 3 City & Guilds mewn Gosod Trydanol i’ch helpu i ddod yn brofwr trydanol. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallwch ennill y sgiliau i fod yn brofwr trydanol drwy gwblhau prentisiaeth gosod trydanol canolraddol neu uwch. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, a sgiliau ymarferol da, gallech wneud cais am swydd fel mêt, hyfforddai neu gynorthwy-ydd trydanwr. Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i hyfforddi i gymhwyso'n llawn, a’ch galluogi i symud i rôl fel profwr trydanol. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel profwr trydanol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel profwr trydanol:  

  • Y gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill 
  • Sylw rhagorol i fanylion 
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid da 
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cryf.

Cymwysterau


Beth mae profwr trydanol yn ei wneud?

Fel profwr trydanol, byddwch yn gyfrifol am archwilio systemau ac offer trydanol mewn cartrefi a busnesau i ddod o hyd i namau. Efallai y byddwch yn cynnal archwiliadau ansawdd ar adeiladau newydd neu’n cynnal profion dyfeisiau cludadwy (PAT) yn rheolaidd ar beiriannau sy’n cael eu defnyddio’n aml. 

Mae swydd profwr trydanol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Arolygu, profi ac archwilio gosodiadau trydanol 
  • Cynnal profion dyfeisiau cludadwy (PAT) 
  • Cadw at ganllawiau’r llywodraeth a rheoleiddwyr 
  • Dod o hyd i namau neu aneffeithlonrwydd 
  • Trwsio namau neu drefnu iddynt gael eu trwsio 
  • Gweithio yn unol â safonau iechyd a diogelwch 
  • Cael dyfynbrisiau ar gyfer tasgau trwsio 
  • Cwblhau adroddiadau profi a thystysgrifau trydanol 
  • Cysylltu â chleientiaid a chydweithwyr. 

Faint allech chi ei ennill fel profwr trydanol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i brofwr trydanol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall profwyr trydanol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000
  • Gall profwyr trydanol profiadol ennill £36,000* 
  • Profwyr trydanol hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer profwr trydanol:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel profwr trydanol, gallech symud ymlaen i fod yn arweinydd tîm neu’n oruchwylydd, gweithio ym maes rheoli cyfleusterau, neu ar brosiectau trydanol mwy. 

Neu, gallech sefydlu eich hun fel gweithiwr hunan-gyflogedig. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080