Facebook Pixel

Peiriannwr pren

Mae peiriannwr pren yn torri ac yn paratoi pren ar gyfer prosiectau adeiladu. Gallan nhw gynhyrchu pren ar gyfer paneli, estyll llawr, cownteri cegin, bariau, canllawiau grisiau, sgyrtins, fframiau ffenestri a drysau, a mwy. Fel peiriannwr pren, byddai angen dealltwriaeth dda arnoch o wahanol fathau o bren a’u defnyddiau, a’r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer llaw a pheiriannau.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i fod yn beiriannwr pren?

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannwr pren. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannwr pren i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg i’ch helpu i ddod yn beiriannwr pren.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr creu cynhyrchion pren, neu brentisiaeth uwch fel peiriannwr coed.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol ym maes adeiladu, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i gael profiad fel peiriannwr pren. Gallech ddechrau ar eich gyrfa fel cynorthwyydd neu hyfforddai. Wrth i chi gael mwy o brofiad, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen yn y rôl.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannwr pren. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau sy’n ddymunol ar gyfer peiriannwr pren:

  • Gwybodaeth am wahanol fathau o bren a’u defnyddiau
  • Gallu defnyddio amrywiaeth o offer a pheiriannau
  • Sgiliau mesur manwl gywir
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Gallu darllen lluniadau technegol

Cymwysterau


Beth mae peiriannwr pren yn ei wneud?

Gan ddibynnu ar y prosiect, mae cyfrifoldebau peiriannwr pren yn amrywio o ddydd i ddydd.

Dyma rai o ddyletswyddau arferol peiriannwr pren:

  • Dilyn lluniadau technegol a thempledi.
  • Dewis y pren cywir ar gyfer tasg a chyfrifo faint sydd ei angen
  • Defnyddio rhaglenni dylunio neu weithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAD/CAM) neu feddalwedd rheoli cyfrifiadurol rhifiadol (CNC)
  • Defnyddio llif, plaenau a llwybryddion llaw i dorri a siapio pren
  • Paratoi, cynnal a gweithredu peiriannau gwaith coed
  • Cadw at ganllawiau iechyd a diogelwch caeth.
  • Gweithio mewn gweithdy neu felin lifio.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannwr pren?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannwr pren yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr pren sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall peirianwyr pren hyfforddedig ennill £20,000 - £35,000 *

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr pren:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannwr pren, gallech symud i rôl gysylltiedig fel gwaith saer, aseidydd neu gallech ddod yn ddodrefnwr siopau, yn osodwr ceginau neu’n osodwr ystafelloedd ymolchi. Neu, gallech chi addasu eich sgiliau i fod yn weithredwr CAD.

Gyda phrofiad, gallech chi symud ymlaen i swydd uwch fel goruchwyliwr, arweinydd tîm neu reolwr.


Dyluniwyd y wefan gan S8080