Facebook Pixel

Ydw i’n rhy hen ar gyfer prentisiaeth?

Does neb yn rhy hen i ddechrau prentisiaeth. Mae’n gamsyniad cyffredin i feddwl mai dim ond ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol neu ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed y mae prentisiaethau, ond dydy hynny’n sicr ddim yn wir.

Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer dilyn cwrs prentisiaeth, a gyda phobl yn gweithio’n hirach, mae mwy o gyfleoedd i newid gyrfa nawr nag erioed o’r blaen. Mae prentisiaethau’n ffordd ddelfrydol o wneud hynny.

Beth yw’r gofynion oedran ar gyfer prentisiaeth?

Gallai unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn, sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac nad ydynt mewn addysg amser llawn ar hyn o bryd, fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth. Mae 2/3 o weithlu’r DU yn credu eu bod yn rhy hen i ddechrau prentisiaeth, felly mae’n bwysig deall bod y cyfleoedd hyn ar gael i bawb, beth bynnag fo’u hoedran.

Mae’r farchnad swyddi’n newid. Mae prinder sgiliau ar draws sawl sector, ac mae ffyrdd mwy hyblyg o weithio a dysgu ar gael. Gall pobl newid gyrfa ddwy neu dair gwaith yn ystod eu bywyd gwaith, ac mae’r syniad o ‘swydd am oes’ wedi mynd. Felly, hyd yn oed os ydych chi yn eich 30au, eich 40au, eich 50au neu’ch 60au, efallai mai prentisiaeth yw’r ffordd orau i chi ailhyfforddi.

Beth ddylech chi ei ystyried cyn dechrau prentisiaeth fel oedolyn?

Gwybod beth rydych chi eisiau ei gyflawni drwy gwblhau eich prentisiaeth. Ydych chi eisiau datblygu set arall o sgiliau i wella eich perfformiad yn eich swydd bresennol, neu ydych chi’n awyddus i newid eich gyrfa’n llwyr?

Oes gennych chi’r cymwysterau mynediad sydd eu hangen? Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae gwahanol lefelau o brentisiaethau – a bydd gan gyflogwyr ofynion mynediad gwahanol. Ond gallai hyn roi mantais i ymgeiswyr hŷn, gan ei bod yn bosibl bod ganddynt eisoes ystod o gymwysterau.

Ydych chi’n gallu ei fforddio? Mae prentisiaethau’n talu cyflog, ond mae cyflogwyr wedi arfer cael prentisiaid iau. Efallai y bydd rhai ond yn talu'r cyfraddau isaf y mae'n rhaid iddynt eu talu yn ôl y gyfraith, a hyd yn oed os ydynt yn talu cyflogau uwch na hyn dylech ddisgwyl y byddwch yn ennill llai nag oeddech chi yn eich swydd flaenorol.

Ar ôl cael profiad o fyd gwaith, dylai fod yn haws i chi addasu i ofynion prentisiaeth. Mae’n debyg bod gennych chi sgiliau nad oes gan y prentisiaid iau, ac yn yr un modd gallech ddysgu sgiliau newydd. Byddwch wedi cael mwy o brofiad o ysgrifennu CVs, o ymgeisio am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau hefyd.

Beth yw rhai o’r anfanteision o fod yn brentis hŷn?

Gallai tâl fod yn broblem.

Gan eich bod chi’n hŷn, bydd yn rhaid i gyflogwyr dalu mwy i chi fel prentis na rhywun iau. Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer person 25 oed yn Lloegr dros ddwywaith yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer person ifanc 16 oed. Hyd yn oed wedyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dderbyn cyflog sy’n sylweddol is na’r hyn rydych wedi arfer ag ef, yn enwedig os ydych wedi dod o ddiwydiant gyda chyflogau da.

Am y rhesymau hyn, efallai y bydd cyflogwr yn fwy parod i gynnig yr un brentisiaeth i rywun sy’n gadael yr ysgol na rhywun, er enghraifft, sydd yn eu 40au canol. Hefyd, bydd llawer o gyflogwyr am gael mwy yn ôl am eu buddsoddiad. Efallai y byddent yn teimlo bod hyfforddi person ifanc 16 oed yn cynnig mwy o botensial os bydd y gweithiwr hwnnw, ar ôl ei brentisiaeth, yn mynd ymlaen i weithio i’r cwmni am 20 neu 30 mlynedd.

Fel prentis hŷn, gallech chi fod yn dysgu ac yn gweithio gyda phobl lawer iau na chi. Gall hyn fod yn heriol i rai pobl; ond yn werth chweil i eraill.

Newid gyrfa drwy gael prentisiaeth

Mae mwy a mwy o bobl yn manteisio ar y cyfle i agor y drws i gyfleoedd gyrfa newydd. Rhai o’r prentisiaethau sydd fwyaf poblogaidd i’w dilyn pan rydych chi ychydig yn hŷn yw Cyllid, Peirianneg a Datblygu Meddalwedd, ond mewn gwirionedd, ychydig o swyddi ddylai fod wedi cael eu heithrio i rywun dros 25 oed. Yr unig swyddi a allai fod yn anaddas yw’r rhai lle mae angen lefel uchel o ffitrwydd corfforol. Yr unig swyddi a allai fod yn anaddas yw’r rhai lle mae angen lefel uchel o ffitrwydd corfforol, ond yn gyffredinol, nid yw oedran yn rhwystr rhag bod yn brentis!

Dod o hyd i brentisiaeth

Mae llawer o ffyrdd o chwilio am brentisiaethau. Gallech edrych ar wefannau fel Talentview, TotalJobs, Indeed neu wasanaeth prentisiaethau’r llywodraeth. Gallwch chi wneud cais am brentisiaethau drwy lanlwytho eich CV neu wneud cais yn uniongyrchol i’r cyflogwr.

Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu

Mae prentisiaethau adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant, beth bynnag fo’ch oedran. Mae gennym yr holl wybodaeth yma er mwyn i chi ddechrau arni, gan gynnwys canllawiau i dros 170 o wahanol swyddi. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r math o swyddi sy’n addas i chi, y sgiliau sydd gennych a’r sgiliau rydych chi am eu hennill.

Dyluniwyd y wefan gan S8080