Facebook Pixel

Cwestiynau Cyffredin

Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf poblogaidd sy’n cael eu gofyn.

Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r ateb rydych chi’n chwilio amdano, anfonwch e-bost atom gyda’ch cwestiwn yn skillbuild@citb.co.uk.


Gwybodaeth i gystadleuwyr

Rhaid i gystadleuwyr fod yn 16 oed o leiaf ers 1 Medi y flwyddyn flaenorol i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth.

Nid oes terfyn oedran ar gyfer cystadleuwyr.

Yn ogystal â chyfyngiadau oed, rhaid i gystadleuwyr fodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • Yn gyflogedig yn y DU ac wedi ennill cymhwyster perthnasol yn y DU yn ystod y 12 mis diwethaf
  • Yn astudio tuag at gymhwyster perthnasol yn y DU
  • Yn gweithio tuag at brentisiaeth yn y fasnach berthnasol yn y DU.

Na, gall y cystadleuydd fod yn astudio cymhwyster gan unrhyw sefydliad dyfarnu.

Na, gall y cystadleuydd fod yn fyfyriwr amser llawn a chymryd rhan yn SkillBuild.

Na, dim ond mewn un sgil y gallant gystadlu mewn rownd ranbarthol, does dim modd cofrestru ar gyfer mwy nag un gystadleuaeth.


Gwybodaeth Cofrestru

Os yw eich myfyriwr wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn y gorffennol ac wedi ennill medal aur yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild, nid oes ganddo hawl i gymryd rhan yng nghystadlaethau dilynol SkillBuild.

Os yw eich myfyriwr wedi cael ei ddewis gan WorldSkills UK ar gyfer Carfan y DU neu Dîm y DU, nid oes ganddo hawl i ailymuno â chylch y gystadleuaeth.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich myfyriwr yn gymwys i gymryd rhan, cysylltwch â ni a byddwn yn gallu cadarnhau hynny i chi.

Pan fydd cystadleuwyr yn cofrestru ar gyfer cystadleuaeth, byddant yn cael e-bost cadarnhau yn cynnwys amserlen y diwrnod a rhestr offer.

Mae cystadlaethau Rowndiau Rhanbarthol SkillBuild am ddim i gystadleuwyr, ond byddwch yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau teithio, cynhaliaeth a llety sy’n codi wrth gymryd rhan yn y cystadlaethau.

Ar gyfer y rhai sy’n cystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild, rydym yn talu am gostau eich llety ac yn darparu lwfans cynhaliaeth, ond nid ydym yn talu am eich costau teithio i’r lleoliad ac oddi yno.

Nid oes gennym unrhyw gyfyngiad ar faint o gystadleuwyr sy’n gallu cymryd rhan ar gyfer unrhyw gyflogwr, coleg addysg bellach neu ddarparwr hyfforddiant.

Os bydd cystadleuydd yn methu â mynychu cystadleuaeth ranbarthol, ac nad yw’n rhoi gwybod i SkillBuild yn ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad y gystadleuaeth, mae SkillBuild yn cadw’r hawl i godi ffi o £150 ar y cystadleuydd neu’r sefydliad cofrestredig am beidio â mynychu.

Os yw cystadleuydd yn cael ei ddewis ar gyfer Rownd Derfynol Genedlaethol y gystadleuaeth, bydd angen iddo ysgrifennu at SkillBuild i ganslo ei le o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad dechrau’r Rownd Derfynol Genedlaethol. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu y bydd unrhyw arian a gollir yn cael ei dalu gan y cystadleuydd neu gan ei sefydliad cofrestredig a gall fod yn ffi o hyd at £1,500.

Gall cystadleuwyr gofrestru ar y wefan hon ac mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom wedi’i chynnwys ar y ffurflen gofrestru. Byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i gael unrhyw wybodaeth na ofynnwyd amdani ar y ffurflen gofrestru.


Gwybodaeth am y Rowndiau Rhanbarthol

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn lleoliad sy’n cynnal cystadleuaeth SkillBuild yn y dyfodol, gofynnwch am becyn ymgeisio gan skillbuild@citb.co.uk.


Gwybodaeth am Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 

Ar ôl pob Rownd Ranbarthol, bydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn sicrhau ansawdd ac yn cymedroli sgoriau’r gystadleuaeth. Rydym yn anfon gwahoddiad at yr unigolion sydd wedi cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol y DU ar ôl i’r rowndiau rhanbarthol ddod i ben.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch cystadleuydd yn rhoi cyfeiriad e-bost y gallwch chi ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y tu allan i’r tymor.

I fod yn gymwys i gymryd rhan yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, rhaid i gystadleuwyr fod ymysg yr wyth cystadleuydd sydd wedi cael y sgoriau uchaf ar draws pob rownd ranbarthol.

Mae hyn yn golygu nad yw ennill cystadleuaeth ranbarthol SkillBuild yn gwarantu lle yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, ac ar y llaw arall, mae’n bosibl y bydd y rheini nad ydynt wedi cael lle mewn Rownd Ranbarthol wedi cael marc ddigon uchel i gael eu gwahodd i gystadlu yn y rownd derfynol.

Dyluniwyd y wefan gan S8080