Fel syrfëwr meintiau, rwy’n gyfrifol am reoli a chofnodi symudiadau ariannol ar brosiect adeiladu.

Rwy’n sicrhau bod costau’r prosiect yn cael eu monitro’n gywir a’n bod yn cwrdd â’r llif arian drwy gydol cam adeiladu unrhyw brosiect.

Rydw i hefyd yn ymwneud â rheoli isgontractwyr sy’n gweithio ar y prosiect, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon gywir ac yn cael y swm cywir o dâl am y gwaith maen nhw’n ei gwblhau.

Rwy’n gallu gweld yr adeilad yn datblygu bob dydd, a chael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiect llwyddiannus.

Case study
Category Information
Lleoliad Caeredin
Cyflogwr Laing O’Rourke

Pa lwybr addysg wnaethoch chi ei ddilyn o’r ysgol uwchradd i’r lle rydych chi heddiw?

Ar ôl fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd, es i Goleg Carnegie yn Dunfermline, gan astudio HNC mewn Technoleg Bensaernïol. Ar ôl i mi lwyddo yn fy HNC, cefais fy nerbyn ar ail flwyddyn y Radd BSc (Anrh) Syrfeo Meintiau ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin. Wedi graddio gyda 2:1, cefais fy nerbyn wedyn ar raglen ddatblygu graddedigion Laing O’Rourke: rhaglen ddwy flynedd sydd â’r nod o ddatblygu talent Laing O’Rourke. Rydw i bellach yn dechrau ar ail flwyddyn y rhaglen. 

Rwy’n credu y gall y diwydiant adeiladu ddarparu ar gyfer pob unigolyn, beth bynnag fo’u cefndir neu lefel eu haddysg.

Callum Gemmell

Syrfëwr meintiau cynorthwyol

Beth yw eich hoff beth am eich swydd?

Gan fy mod yn gweithio ar y safle, rwy’n cael gweld cynnydd y gwaith adeiladu bob dydd, ac yn cael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg a ddefnyddir i gyflawni prosiect llwyddiannus.


Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?

Mae fy rôl yn amrywiol iawn felly mae pob diwrnod yn wahanol. Petai’n rhaid i mi ddewis hoff weithgaredd, y gweithgaredd hwnnw fyddai adolygu’r dogfennau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiect adeiladu.


Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Mae’r diwydiant adeiladu yn cynnwys amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, o weithwyr ar y safle i reolwyr a pheirianwyr adeiladu. I lenwi’r swyddi hyn, mae angen grŵp amrywiol o bobl arnom. Felly, rwy’n credu y gall y diwydiant adeiladu ddarparu ar gyfer pob unigolyn, beth bynnag fo’u cefndir neu lefel eu haddysg.


A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu, a fyddai’n ysbrydoli eraill i ddilyn y llwybr gyrfa o’u dewis?

Doeddwn i ddim yn gallu cael y lefel iawn o addysg er mwyn mynd yn syth i’r brifysgol o’r ysgol uwchradd. Fodd bynnag, wnaeth hynny ddim fy nigalonni, ac fe wnes i ddod o hyd i ffordd arall o gyrraedd y swydd rydw i ynddi ar hyn o bryd. Pe bawn yn rhoi un darn o gyngor, y cyngor hwnnw fyddai bod llawer o lwybrau gwahanol yn arwain at yr un canlyniad.