Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda’r pensaer a’r isgontractwyr i sicrhau bod y darluniau’n cael eu dilyn yn drylwyr - yn aml mae rhai anghysondebau lle mae angen crafu pen a datrys y problemau!

Fe wnes i reoli isgontractwyr o wahanol grefftau ar y safle, gan fonitro ansawdd eu gwaith, eu deilliannau ac iechyd a diogelwch.

Mae iechyd a diogelwch yn rhan enfawr o’m swydd, a’r diwydiant, ac rwy’n gwneud yn siŵr yn aml fod yr holl archwiliadau a’r gwaith papur yn ei le cyn i’r gwaith ddechrau. Rydw i hefyd yn gweithio ar adroddiadau cleientiaid ac yn trosglwyddo gwybodaeth o’r safle i’m rheolwr prosiect er mwyn eu rhoi i’r cleient. 

Mae’n werth chweil gweld y cynnydd ar ddiwedd y dydd, gan edrych ar y gwaith mae’r crefftwyr wedi’i wneud a mynd gam yn nes at gael y cynnyrch gorffenedig yn barod ar gyfer y cleient.

Case study
Category Information
Lleoliad Caerdydd
Cyflogwr Willmott Dixon Housing

I ba gwmni ydych chi’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud?

Rwy’n gweithio i Willmott Dixon Housing, gan weithio ar draws rhanbarthau Llundain a De Lloegr yn y sector preswyl. Mae gennym bortffolio helaeth o ansawdd uchel sy’n cynnwys blociau o randai, cartrefi gofal a phentrefi ymddeol, yn ogystal â llety myfyrwyr. Ni yw un o gontractwyr preifat mwyaf y DU, a throsiant grŵp yw £1.2 biliwn.

Mae adeiladu’n ddiwydiant gwych lle mae pethau’n newid drwy’r amser; bydd bob amser angen i bobl gael rhywle i fyw, lle i weithio, canolfannau hamdden a siopau i ymweld â nhw.

Christopher Lloyd-Evans

Rheolwr adeiladu dan hyfforddian

Pa lwybr addysg wnaethoch chi ei ddilyn o’r ysgol uwchradd i’r lle rydych chi heddiw?

Fe wnes i adael yr ysgol yn 18 oed ar ôl cwblhau fy arholiadau TGAU a Lefel A, a chymerais flwyddyn allan o’r byd addysg i deithio, heb wybod beth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy ngyrfa. Yn ystod fy mlwyddyn allan, meddyliais am yr hyn roeddwn i’n ei fwynhau ac wedi’i brofi’n barod yn fy mywyd.

Rydw i wrth fy modd ag adeiladau a bod yn ymarferol, ac wedi gweithio’n aml yn adnewyddu cartrefi teulu a ffrindiau ac fel labrwr ar benwythnosau. Daeth popeth at ei gilydd, a sylweddolais fy mod am ganolbwyntio ar gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu, a rheoli prosiectau yn enwedig.  

Y mis Medi canlynol, dechreuais yn y brifysgol ym Mryste ac es ymlaen i gwblhau fy mlwyddyn gyntaf a’m hail flynyddoedd. Yn ystod fy ail flwyddyn, trefnais i gymryd blwyddyn allan o’m gradd i wneud lleoliad gwaith er mwyn cael rhagor o brofiad ymarferol o weithio ar safle adeiladu.

Yn ystod y flwyddyn hon, gweithiais ar ailddatblygu ysbyty rhestredig Gradd II yng nghanol dinas Caerdydd, gan droi’r adeilad segur yn gyfleuster gofal iechyd cyhoeddus modern. Dysgais gryn dipyn o wybodaeth uniongyrchol, a sut i gymhwyso’r hyn roeddwn wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i sefyllfaoedd go iawn. Fe wnaeth hefyd fy helpu i ehangu fy sylfaen wybodaeth yn yr ystafell ddosbarth yn ystod fy mlwyddyn olaf o astudio yn y brifysgol.

Pan raddiais i, roeddwn yn ffodus o gael fy nerbyn ar raglen hyfforddai rheoli nodedig yn Willmott Dixon. Mae’r cynllun yn wych, ac mae’n eich galluogi i weithio ym mhob disgyblaeth ym maes adeiladu er mwyn cael dealltwriaeth fwy cyflawn o’r diwydiant. 


Beth yw eich hoff beth am eich swydd?

Rydw i wrth fy modd â newid. Rydw i wir yn mwynhau creu mannau i ddefnyddwyr fyw ynddynt a’u defnyddio, gan droi tir gwastraff neu fannau ac adeiladau segur yn ofodau newydd. Mae’n bleser gweithio tuag at nod terfynol gyda chynifer o bobl, yn gydweithwyr ac yn isgontractwyr.


Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?

Mae’n werth chweil gweld y cynnydd ar ddiwedd y dydd, gan edrych ar y gwaith mae’r crefftwyr wedi’i wneud a mynd gam yn nes at gael y cynnyrch gorffenedig yn barod ar gyfer y cleient.  


Ble hoffech chi i’ch gyrfa fynd â chi?

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio tuag at fod yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), sy’n ei gwneud yn ofynnol i mi gyflwyno portffolio o fodiwlau gwaith tystiolaeth – rwy’n gobeithio y byddaf wedi cwblhau hyn cyn i mi orffen fy rhaglen hyfforddi yn 2016. Drwy weithio’n galed, rwy’n gobeithio camu i fyny i swydd uwch ymhen ychydig flynyddoedd. Dim ond drwy gael mwy o wybodaeth am amrywiaeth o safleoedd a phrosiectau y gallwch chi gyflawni hyn, ac rwy’n bwriadu rhedeg fy mhrosiect fy hun mewn ychydig flynyddoedd. Bydd yn waith caled, ond bydd yn werth yr ymdrech.  


Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Mae adeiladu’n ddiwydiant cyffrous i weithio ynddo. Mae’r farchnad ar i fyny ar ôl y dirwasgiad, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ym mhob man. Mae mwy o rolau ar gael nag y byddech yn tybio, gyda swyddi ym maes dylunio, cynllunio, marchnata a gwerthu, arolygu, rhoi amcan brisiau, adnoddau dynol, prynu, gwasanaethau cwsmeriaid ... mae’n llawer mwy na dim ond brics a morter. Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio gyda llawer o bobl wybodus yn y diwydiant, a gallwch ddysgu llawer ganddynt.


A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu, a fyddai’n ysbrydoli eraill i ddilyn y llwybr gyrfa o’u dewis?

Dydy hi byth yn rhy hwyr dewis eich llwybr gyrfa. Doeddwn i ddim wir yn deall i ba gyfeiriad roeddwn i am fynd nes fy mod i bron yn 19 oed. Mae’n rhaid i mi argymell eich bod yn gwneud pynciau rydych chi’n eu mwynhau yn yr ysgol, yn hytrach na’r hyn y mae pobl eraill yn meddwl y dylech chi ei wneud. Mae adeiladu’n ddiwydiant gwych lle mae pethau’n newid drwy’r amser; bydd bob amser angen i bobl gael rhywle i fyw, lle i weithio, canolfannau hamdden a siopau i ymweld â nhw. Rydyn ni’n edrych ar syniadau newydd drwy’r amser, ffyrdd newydd o adeiladu ac arloesi yn ein rolau. Mae’n yrfa berffaith i mi ac rwy’n siŵr y bydd yn addas i chi hefyd.