Roeddwn i'n gwybod erioed fy mod eisiau mynd i brifysgol i astudio, felly ar ôl i mi gwblhau fy arholiadau TGAU es ymlaen i astudio fy arholiadau Safon Uwch yn fy ngholeg lleol. Doeddwn i ddim mor sicr am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud, felly dewisais bynciau roeddwn i’n gwybod fy mod yn eu mwynhau ac eisiau dysgu mwy amdanyn nhw; Hanes, Gwleidyddiaeth, y Gyfraith a Bioleg. Ar ôl i mi gwblhau’r rhain, es i Brifysgol Hull i astudio’r Gyfraith.

Pan fydd pobl yn darganfod fy mod wedi astudio’r Gyfraith, maen nhw’n gofyn pam fy mod bellach yn gweithio mewn swydd adeiladu, ond dwi’n grediniol nad oes ots o reidrwydd pa bynciau rydych wedi’u hastudio o’r blaen – mae’n ymwneud yn fwy â’r sgiliau y gallwch eu cyflwyno i’r diwydiant a’r cwmni adeiladu rydych yn gweithio iddo. Mae’r dull hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn imi wrth ddefnyddio’r hyn rwyf wedi’i ddysgu o’m gradd, yn enwedig ar gynllun mynediad fel yr un rwy’n ei ddilyn.

Does dim angen dilyn llwybr penodol i ymuno â’r diwydiant adeiladu ac i ddechrau adeiladu gyrfa.

Case study
Category Information
Lleoliad Nottingham
Cyflogwr Barratt Developments PLC

I ba gwmni ydych chi’n gweithio a beth maen nhw’n ei wneud?

Rwy’n gweithio mewn swydd adeiladu yn Barratt Developments PLC – sef enw cyffredinol y cwmni sy’n cynrychioli’r busnes adeiladu tai mwyaf yn y DU. Barratt Homes, David Wilson Homes, Barratt London, Ward Homes a Wilson Bowden ydy rhai o’r brandiau eraill sy’n dod o dan yr ymbarél hwn.

Ni waeth beth yw eich cefndir, mae’n debygol y bydd rôl yn y maes adeiladu sy’n cyd-fynd â’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.

Charlotte Readman-Holland

Graddedig

Dywedwch ychydig yn fwy wrthym ni am y rôl rydych chi’n ei gwneud.

Ar hyn o bryd rydw i’n cwblhau fy mlwyddyn gyntaf o Raglen Graddedigion Barratt Developments. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae’n rhaid i chi gwblhau cyfres o gylchdroadau 6-8 wythnos ym mhob un o’r adrannau yn un o’r Swyddfeydd Adrannol ledled y DU. Mae’r cylchdroadau’n cynnwys Tir a Chynllunio, Technegol, Masnachol, Adeiladu, Gwerthiannau a Chyllid. Ar ôl i mi gwblhau fy mlwyddyn gyntaf ar y cynllun, byddaf wedyn yn arbenigo yn yr adran Tir a Chynllunio, sef yr hyn rwyf am ei wneud fel y ddisgyblaeth o’m dewis. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu fy mhrofiad, a gobeithio yn arwain at rôl yn yr adran ar ôl i mi gwblhau fy Nghynllun i Raddedigion dros ddwy flynedd.


Beth ydych chi wrth eich bodd yn ei wneud yn eich swydd?

Mae’n anhygoel gweld darn o waith yn datblygu dros gyfnod o amser. Does dim llawer o ddiwydiannau lle rydych chi’n gweld dechrau prosiect – h.y. darn agored o dir, safle tir llwyd gwag – ac yn gweld y prosiect yn symud ymlaen drwy'r camau dylunio a pheirianneg i’r cam adeiladu ei hun. Dyna pryd y byddwch chi’n gweld y canlyniad go iawn a gweladwy. Rwy’n credu bod y diwydiant adeiladu tai yn faes adeiladu cyffrous gan eich bod yn rhan o ddiwydiant sy’n cyflawni rhywbeth sy'n angenrheidiol i gymdeithas ac yn helpu i ddatblygu cymunedau parhaol.

Mae yna gymaint o amrywiaeth wrth weithio ym maes adeiladu. Wrth gwrs, mae gennych chi rôl ddiffiniedig gyda chyfrifoldebau diffiniedig. Fodd bynnag, o ddydd i ddydd ni allwch chi fyth fod yn sicr o’r hyn sy’n mynd i ddigwydd. Ond dyna’n union beth sy’n gwneud swyddi adeiladu yn gyffrous ac yn annisgwyl.


Ble ydych chi’n gweld eich gyrfa yn datblygu?

Ar hyn o bryd, rwy’n canolbwyntio ar gwblhau’r Cynllun i Raddedigion a dysgu cymaint â phosibl am weithio ym maes adeiladu, yn ogystal â Barratt Developments PLC fel cwmni. Rydw i hefyd yn awyddus i ddatblygu fy ngwybodaeth ymhellach am fy newis ddisgyblaeth. Rwy’n bwriadu parhau i ddatblygu fy sgiliau i symud ymlaen ar hyd yr ysgol yrfa, ac rwy’n gobeithio cael swydd reoli yn nes ymlaen.


Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Peidiwch â chredu’r hyn a gredir yn draddodiadol am swyddi adeiladu a gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae camsyniadau wedi bodoli erioed am y diwydiant, gyda phobl ond yn gweld y swyddi ar safleoedd, fel gosod brics a gwaith coed, a meddwl mai dyna’r diwydiant yn ei gyfanrwydd. Ond mae llawer mwy o rolau yn y diwydiant adeiladu nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt, oherwydd eu bod y tu ôl i’r llenni, rolau fel Peirianneg, Pensaernïaeth, Gwerthiannau, Mesur Meintiau, Rheoli Prosiectau, TG, Cyfreithiol, Cyllid, Adnoddau Dynol a Marchnata i enwi dim ond rhai! Ond mae hyd yn oed yn fwy na hynny. Ni waeth beth yw eich cefndir, mae’n debygol y bydd rôl yn y maes adeiladu sy’n cyd-fynd â’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.

Y peth pwysig i’w gofio yw nad oes angen dilyn llwybr penodol i ymuno â’r maes adeiladu, ac i ddechrau adeiladu gyrfa. Mae nifer o wahanol lwybrau ar gael i gyd-fynd â gofynion neu ddewisiadau gwahanol unigolion. Gallwch ddewis dilyn llwybr mwy traddodiadol, sef ennill cymwysterau Safon Uwch cyn mynd i’r brifysgol i astudio am radd, neu fel arall gallech ymuno â chwmni ar brentisiaeth adeiladu, neu ar gynllun i hyfforddeion.

Y peth pwysicaf yw dewis y llwybr a fydd orau i chi a’r llwybr a fydd yn eich galluogi i gyrraedd eich llawn botensial. 

Rhowch gynnig ar ein Cwis Personoliaeth i gael gwybod pa un o’r nifer o yrfaoedd adeiladu sy’n addas i chi