Rwy’n gweithio i Redrow PLC, sef cwmni adeiladu tai ac adeiladu cyffredinol, a theitl fy swydd yw Dylunydd dan Hyfforddiant.

Mae pob diwrnod yn wahanol gan fod amrywiaeth o waith i’w wneud.

Case study
Category Information
Lleoliad Canolbarth Lloegr
Cyflogwr Redrow PLC

Pa lwybr addysg wnaethoch chi ei ddilyn o’r ysgol uwchradd i’r lle rydych chi heddiw?

Ymunais â Redrow ym mis Awst 2013, yn syth ar ôl i mi orffen fy arholiadau TGAU. Roeddwn yn chwilio am swyddi yn y diwydiant adeiladu ac eglurodd fy nghynghorwr gyrfaoedd yn yr ysgol fod cyfle posibl yma. Eu meini prawf oedd bod gennyf o leiaf bum gradd ‘C’ yn fy arholiadau TGAU.

Erbyn hyn, rwy’n rhan o’r adran Ddylunio, ac yn dysgu gan fy nghydweithwyr ac o brofiad ymarferol.

Rwy’n mwynhau ymweld â safleoedd a chael profiad o’r hyn sy’n digwydd y tu allan i’r swyddfa, gan ei fod yn fy helpu i ddeall mwy am sut mae’r agwedd dylunio yn cael ei chreu ar y safle.

Brianne Asbury

Dylunydd dan Hyfforddiant

Dywedwch ychydig yn fwy wrthym ni am yr hyn rydych chi’n ei wneud.

Mae’r adran rwy’n gweithio ynddi yn gymysgedd rhwng dylunio a pheirianneg. Rydw i wrthi’n hyfforddi i fod yn ddylunydd, gan greu cynlluniau ar gyfer stadau tai newydd i’w cyflwyno i gynghorau cynllunio. Mae’r cydlynwyr technegol yn delio ag unrhyw broblemau ar y safle ynghyd ag unrhyw geisiadau safle a allai ddod drwodd, ac mae’r peirianwyr yn delio â’r gwaith tir a’r pibellau, gan sicrhau bod y sylfeini, lefelau’r tir ac unrhyw wasanaethau sydd eu hangen yn cael eu rhoi mewn lle.

Dydw i byth yn cael diwrnod ‘arferol’ am fod fy swydd mor amrywiol ac rydw i’n cael profiad o lawer o bethau gwahanol. Rai diwrnodau byddaf yn ymweld â safleoedd. Ar ddiwrnodau eraill byddaf yn paratoi cynlluniau neu’n eistedd â phobl mewn swyddi peirianyddol i ddysgu mwy am eu rôl. Mae rhywfaint o’m gwaith yn cynnwys cwblhau rhestr o luniadau sy’n ofynnol ar gyfer safle penodol er mwyn gallu paratoi cais, a chwblhau gwaith ar gyfer aelodau eraill o’r adran.


Beth yw eich hoff beth am eich swydd?

Rwy’n mwynhau ymweld â safleoedd a gweld beth sy’n digwydd y tu allan i’r swyddfa, gan ei fod yn fy helpu i ddeall mwy am sut mae’r agwedd dylunio yn cael ei throsi a’i chreu ar y safle. Gall dysgu am swyddi newydd yn y diwydiant adeiladu fod yn heriol i ddechrau, ond ar ôl i mi eistedd i lawr gyda rhywun yn y rôl honno a gwrando arnyn nhw'n ei hegluro, mae’n dod yn llawer cliriach ac rydw i’n deall llawer mwy.


Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Roeddwn i’n mwynhau meysydd pwnc celf a dylunio a mathemateg yn fawr iawn, ac roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr amgylchedd adeiladu, felly roedd agwedd ddylunio’r diwydiant yn addas iawn i mi. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y meysydd hyn, yna mae’n werth cael golwg.

Rhowch gynnig ar ein Cwis Personoliaeth i gael gwybod pa un o’r nifer o yrfaoedd adeiladu sy’n addas i chi