Rhwng 8 a 14 Chwefror, bydd y DU yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021.  

“Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ddysgu wrth ennill cyflog,” meddai’r Gweinidog dros Brentisiaethau a Sgiliau, Gillian Keegan, “ac maen nhw’n agor llwybrau gyrfa newydd a chyffrous a all drawsnewid bywydau”. 

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle cyffrous, felly rydyn ni wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i chi gael gweld beth fydd yr wythnos yn ei gynnwys a sut gall eich helpu chi. 

Beth yw Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (NAW)?

I’r rhai sy’n awyddus i ddechrau prentisiaeth, neu i ddysgu mwy am y rhai sydd ar gael, mae NAW yn hanfodol. Yn ystod yr wythnos ceir cymysgedd o sgyrsiau, digwyddiadau a chyngor gan ffigyrau allweddol am sut i wneud cais am brentisiaeth a’i defnyddio er budd eich gyrfa.  

Mae thema newydd bob blwyddyn, sy’n tynnu sylw at agwedd benodol ar brentisiaethau, i helpu i hoelio’r drafodaeth. Yn anad dim, mae NAW yn agored i bawb.  

Logo NAW

Beth yw thema NAW 2021?

Y thema ar gyfer 2021 yw ‘llunio’r dyfodol’. “Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, ond rydyn ni eisiau i’r thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021 fod yn sbardun i edrych ymlaen at y ffordd y gall prentisiaethau ddiogelu gweithluoedd i’r dyfodol a hybu gyrfaoedd”, meddai Keegan.  

Mae hyn yn golygu y bydd yr wythnos yn talu sylw penodol i’r effaith y gall prentisiaethau ei chael ar gymunedau, busnesau ac economïau lleol ymhell i’r dyfodol.  

Byddwn hefyd yn edrych ar dechnolegau a datblygiadau newydd arloesol ym maes hyfforddiant prentisiaeth, yn enwedig gan y bydd y pandemig parhaus yn effeithio ar y flwyddyn hon. 

Mae unigolion yn dibynnu mwy nag erioed ar dechnoleg a rhith-gyfarfodydd, felly bydd NAW 2021 yn wahanol, ond yr un mor gyffrous. Yn sicr, bydd ffocws ar y straeon ynghylch sut mae prentisiaid wedi helpu busnesau i addasu a datblygu yn ystod blwyddyn anodd. 

Ceisiadau allweddol

Er mwyn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021, mae pawb o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chymunedau yn cael eu hannog i ddathlu prentisiaethau mewn tair ffordd benodol: hyfforddi, cadw a chyflawni.  

  1. Dangos sut maen nhw’n hyfforddi prentisiaid, yn ogystal â diogelu eu gweithlu a’u gyrfaoedd at y dyfodol drwy brentisiaethau.
  2. Rhoi enghreifftiau o sut maen nhw’n cadw prentisiaid, yn enwedig sut maen nhw’n ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar y busnes, yn ogystal â dangos sut mae prentisiaid yn ffynnu ac yn cael effaith ar y busnes ar yr un pryd.  
  3. Rhannu sut maen nhw’n elwa go iawn ar fuddsoddi mewn prentisiaid, gan wireddu manteision busnes prentisiaethau, gyda phrentisiaid yn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd dewisol.

Ffyrdd o gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Mae’r canllaw hwn y gellir ei lwytho i lawr yn egluro sut gallwch chi gymryd rhan ar y cyfryngau cymdeithasol a drwy ddigwyddiadau ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth a phecyn adnoddau hefyd ar gael yn gov.uk

Ffordd dda o gymryd rhan yw llenwi Arolwg Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021, a rhannu’r gweithgareddau rydych chi wedi’u cynllunio.  

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021 drwy ddilyn @Apprenticeships ar Twitter, a’r Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol ar LinkedIn

Yr hashnodau i'w defnyddio ac i chwilio am y newyddion diweddaraf yw #NAW2021 #BuildTheFuture #ASKSeries ac #AskAnEmployer. 

Mae’r hashnod #AskAnEmployer yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer clywed sut mae prentisiaethau wedi helpu busnesau i ffynnu. Bydd y sgwrs ar Twitter ddydd Mawrth y 9fed rhwng hanner dydd a 2pm. 

Hoffech chi rannu eich profiad fel prentis? Defnyddiwch yr hashnod #AskAnApprentice ar Twitter rhwng hanner dydd a 2pm ddydd Mercher y 10fed ac annog darpar brentisiaid i’ch holi am eich prentisiaeth. 

Ar Ddydd San Ffolant, bydd pobl yn cael eu hannog i greu postiad ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu’r hyn maen nhw’n ei hoffi am brentisiaethau.  

Digwyddiadau NAW 2021

Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein, gyda phawb sy’n ymwneud â phrentisiaethau’n cael eu hannog i rannu eu straeon a’u profiadau. Mae sesiynau Holi ac Ateb a chyflwyniadau byw yn ffordd wych o ddechrau, ond mae rhai digwyddiadau swyddogol yn cael eu cynnal: 

Digwyddiadau NAW

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau adeiladu

Ar gyfer prentisiaethau sy’n benodol i’r diwydiant adeiladu, ewch i’n tudalennau defnyddiol: 

Beth yw prentisiaeth adeiladu? a Pa brentisiaethau sydd ar gael? Mae tudalennau penodol ar gyfer gwneud cais am brentisiaethau yn yr Alban neu yng Nghymru.  

A chofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol: FacebookTwitterInstagram, a YouTube