Sylw i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBTQ+) ar safleoedd: dod allan yn y diwydiant adeiladu

Yn ystod Mis Hanes LGBTQ+ (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol), rydyn ni’n dysgu sut beth yw dod allan yn y diwydiant adeiladu. Mae’r arweinydd a’r actifydd, Christina Riley, Uwch Gynllunydd yn Kier Group, yn sgwrsio â ni am ei phrofiadau.

Thema Mis Hanes LGBTQ+ eleni yw heddwch, actifiaeth a chymodi, a byddwn yn ymchwilio i’r rhain yn ein cyfres 3 rhan.

Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, mae taith bersonol Christina Riley wedi cyffwrdd â’r tri.

“Pan ddechreuais yn y diwydiant adeiladu, roedd mwy o ddynion yn gweithio yno na menywod. Mae hynny’n dal yn wir – ond mae pethau wedi dod yn bell. Bryd hynny, doedd dim croeso o gwbl i bobl LGBT,” meddai.

Ar ôl graddio ym 1993, sylweddolodd ei bod hi’n teimlo’n hapusach ac yn fwy cyfforddus fel menyw. Ond roedd celu ei theimladau’n faich ofnadwy.

Christina Riley

Doeddwn i ddim yn gallu dweud wrth neb oherwydd roedd arna i ofn i bobl fy ngwrthod. Roeddwn i mewn lle drwg.

“Wrth i amser fynd yn ei flaen, sylweddolais fwy a mwy fy mod eisiau byw fel menyw. Ond doeddwn i ddim yn gallu dweud wrth neb, yn enwedig yn y gwaith, oherwydd roedd arna i ofn cael fy ngwrthod ac i bobl chwerthin am fy mhen.”

“Fe wnes i gadw popeth i mi fy hun am tua 15 mlynedd. Cuddiais yn y gwaith, gan deimlo dan fwy o straen ac yn bryderus. Roeddwn i’n cael pyliau o banig, a bob tro roedd y panig hwnnw’n achosi mwy o banig. Roeddwn i mewn lle drwg.”

Heddwch

“Newidiodd popeth i mi un diwrnod pan welais hysbyseb yn nerbynfa’r swyddfa am gyfarfod rhwydwaith LGBT+,” meddai Christina.

Ar y pryd, roedd yn gweithio yn Balfour Beatty, a oedd newydd lansio un o’r rhwydweithiau LGBT cyntaf yn y diwydiant adeiladu.

“Roedd pobl mewn swyddi uchel iawn yno, a oedd yn dangos bod cefnogaeth wirioneddol ar gael. Cynigiodd y cyfarfod le diogel go iawn – a rhoddodd hyder o’r newydd i mi”.

“Roeddwn i’n gwybod ar unwaith fy mod i eisiau mynd drwy broses drawsnewid yn y gwaith. Mae hynny’n anghyffredin. Mae llawer o bobl sy’n mynd drwy broses drawsnewid yn newid swydd er mwyn cychwyn o’r newydd.”

“Ond ar ôl i mi ddod allan i’m cydweithwyr, rhoddodd y rhyddid i mi symud ymlaen i ailbennu rhywedd a thrawsnewid gyda’r GIG. Dod allan oedd y peth gorau i mi ei wneud erioed.

“Diflannodd y pryder a’r pyliau o banig. Roeddwn i’n teimlo’n hapusach ac yn iachach nag erioed. Wnes i ddim dod ar draws y problemau a’r cellwair roeddwn i’n ei ddisgwyl. O’r diwedd, roeddwn i’n teimlo’n dawel ynof fi fy hun.”

Cadwch lygad am Sylw i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBTQ+) ar safleoedd: Actifiaeth, y rhan nesaf yn ein cyfres fer LGBTQ+.

Dod allan yn y gwaith oedd y peth gorau i mi ei wneud erioed.


Meithrin Cydraddoldeb

Cael cymorth

Dywedodd Christina ei bod hi’n haws nag erioed i gael cymorth yn y sector.

“Dewch draw i ddigwyddiadau rhwydwaith LGBT+, oherwydd mae digon yn digwydd ac maen nhw’n fannau diogel i bobl LGBT yn ein diwydiant. Mae gan rai crefftau a phroffesiynau eu grwpiau eu hunain hefyd, fel InterEngineering ar gyfer peirianwyr. Mae llawer o gyngor ar gael a llawer o bobl sy’n gallu cynnig cymorth.”

Cael ysbrydoliaeth

Cyfres fer LGBTQ+:

Darllenwch am hanes LGBTQ+ yn yr amgylchedd adeiledig.

Tarwch olwg ar ein cyfranwyr #TakeoverTuesday gwych ar Instagram sy’n cynnig cipolwg ar eu diwrnod gwaith, gan gynnwys Christina!