Gall llythyrau eglurhaol deimlo fel tasg anodd, ond maent yr un mor bwysig â’ch CV wrth wneud cais am swydd. Meddyliwch amdanynt fel stori eich CV – byddwch yn ymhelaethu ar y pwyntiau byrrach a’r rhestrau bwled o’ch sgiliau ac yn dangos sut mae eich profiad yn eich gwneud yn ddelfrydol ar gyfer y rôl. 

Edrychwch ar rai llythyrau eglurhaol enghreifftiol ar ein tudalen help gyda gwneud cais, sy’n cynnwys rhai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cael swydd ym maes adeiladu. 

Pethau hanfodol mewn llythyr eglurhaol

Os wnewch chi gynnwys y pethau hanfodol yn gyntaf, a byddwch chi ar y trywydd cywir i gael llythyr eglurhaol rhagorol. Peidiwch â phoeni am y dudalen wag. Byddwch yn ei llenwi mewn dim o dro gyda’r holl sgiliau a’r profiad sydd gennych chi. 

Ysgrifennwch lythyr eglurhaol newydd ar gyfer pob cais

Gall fod yn demtasiwn copïo a phastio pan fydd gennych sawl cais am swydd i’w llenwi, ond dylai pob llythyr fod yn unigryw. Wedi’r cyfan, mae pob rôl yn wahanol, fel y mae pob cwmni rydych chi’n ymgeisio iddo. Mae’n iawn cael pwyntiau ac esboniadau tebyg am sgiliau, ond dylai pob llythyr ddechrau gyda thudalen wag.  

Peidiwch â bod ofn defnyddio templed

Gallwch ddod o hyd i nifer o dempledi ar-lein i’ch helpu chi, a chyn belled nad ydych chi’n copïo gwaith rhywun arall, mae’n iawn i chi ddefnyddio un. Mae pethau fel lle i gynnwys y dyddiad, i bwy rydych chi’n anfon y llythyr a’ch manylion cyswllt i gyd yn bwysig, a bydd templed yn dangos hyn i chi. Mae llawer o amrywiaeth ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod yr un rydych chi’n ei ddewis yn glir ac yn hawdd ei ddarllen – nid un bloc mawr o destun.  

Cadwch bethau’n fyr ac yn gryno

Hyd delfrydol llythyr eglurhaol yw un ochr dalen A4 – tua phum paragraff. Os bydd yn hirach na hyn, mae perygl y byddwch yn dechrau mwydro. Os mai dim ond un neu ddau o baragraffau rydych wedi eu hysgrifennu, fyddwch heb sôn digon am eich sgiliau a'ch profiad, nac wedi esbonio pam y dylent roi'r swydd i chi.  

Beth i’w gynnwys yn eich llythyr eglurhaol

Beth yn union ddylai llythyr eglurhaol ei gynnwys? Darllenwch rai enghreifftiau o sgiliau cyflogadwyedd i gael rhai awgrymiadau. 

Ewch y tu hwnt i’ch CV

Dylai eich llythyr eglurhaol yn sicr gynnwys y rhannau mwyaf perthnasol o’ch CV i ddangos pam mai chi yw’r person gorau ar gyfer y swydd, ond gallwch hefyd gyfeirio at bethau eraill. Os ydych chi wedi gwirfoddoli, os oes gennych chi ddiddordeb neu sgil diddorol, neu stori sy’n berthnasol i’r swydd, gallwch eu cynnwys. Wrth gwrs, dylai eich CV gynnwys unrhyw hyfforddiant swyddogol, ond gallai rhai pethau sydd wedi’ch datblygu chi fel person, neu sy’n dangos eich bod yn gallu mynd i’r afael â rhai sefyllfaoedd wneud i chi sefyll allan. 

Tynnwch sylw at beth allwch chi ei gynnig i’r cwmni

Beth sy’n eich gwneud chi’n gwbl berffaith i’r cwmni hwn? Oes un o’ch diddordebau chi sy’n cefnogi eu datganiad o genhadaeth? Allwch chi ddefnyddio eich sgiliau arwain i fynd â phrosiect yn ei flaen? Ydych chi wedi gwneud gwaith ymchwil penodol i’r peiriannau maen nhw’n eu defnyddio? Dylai eich llythyr gynnwys unrhyw beth a allai eu helpu yn eich barn chi.  

Ystyriwch ddefnyddio geirdaon

Weithiau, gall defnyddio geiriau pobl eraill fod yn ddefnyddiol iawn. Mae geirda am eich sgiliau neu’ch galluoedd gan athro, hyfforddwr neu weithiwr proffesiynol sy’n eich adnabod yn dda yn ffordd wych o ganmol eich talentau. Gallwch gynnwys hwn fel dyfyniad byr yn y llythyr, neu, os yw’n eirda hirach, fel tudalen ychwanegol i’ch llythyr eglurhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sylw at y ffaith ei fod wedi’i gynnwys fel nad yw’n cael ei golli.  

Defnyddio goslef llais cywir

Pan fyddwn yn darllen, byddwn yn defnyddio goslef. Dylai goslef y llais mewn llythyr eglurhaol fod yn argyhoeddi, yn gyfeillgar, yn agos-atoch, ac yn hyderus. Dyma sut mae cyflawni hyn. 

Ceisiwch beidio â bod yn rhy ffurfiol

Gall fod yn demtasiwn bod yn hynod ffurfiol mewn llythyr, ond ceisiwch gofio mai bod dynol yw’r person sy’n ei ddarllen! Dylai adrodd stori ddiddorol am eich gyrfa a’u perswadio i’ch cyflogi, nid eu drysu gyda dewis cymhleth o eiriau neu frawddegau ffurfiol. 

Ysgrifennwch yn ‘llais’ y cwmni

Dylai eich llythyr fod yn eich iaith chi a dylai, yn y pen draw, swnio fel chi. Fodd bynnag, mae gan bob cwmni oslef llais, a bydd geiriau neu ymadroddion penodol yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i adlewyrchu gwerthoedd y brand. Os gallwch chi gynnwys y rhain yn naturiol yn eich llythyr, gwnewch hynny. Dewch o hyd i eirfa neu eiriau cyffredin maen nhw’n eu defnyddio ar eu gwefan neu eu sianeli cymdeithasol a’u defnyddio yn eich llythyr eglurhaol. Darllenwch drosto – os nad yw’n swnio’n naturiol, dylech ei olygu neu ei addasu. 

Ceisiwch ysgrifennu’r llythyr o safbwynt eich ffrind gorau

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwerthu eich hun neu eich talentau, dychmygwch mai eich ffrind gorau sy’n ysgrifennu amdanoch chi. Mae’n debyg y byddent yn dweud wrth y cwmni y dylech gael y swydd yn seiliedig ar eich gallu, ac yn egluro pa mor dda oedd y gwaith a wnaethoch mewn sefyllfaoedd penodol. Maen nhw’n eich gweld chi mewn golau da, felly bydd yn rhoi goslef gadarnhaol i’ch llythyr.  

Eich geiriau olaf . . . gorffen eich llythyr

Dyma'r paragraff olaf a'ch cyfle olaf i greu argraff, felly mae'n bwysig gwneud hyn yn iawn.

Gorffennwch yn gryf!

Peidiwch â gorffen yn swta, gorffennwch gyda phwynt terfynol am sgil neu pam rydych chi mor awyddus i gael y swydd. Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am y cwmni hwn? Dywedwch hyn wrthyn nhw! Gorffennwch drwy ddiolch iddyn nhw am roi o’u hamser i ddarllen eich llythyr a defnyddio ‘yn gywir’ neu ‘cofion’ i lofnodi eich llythyr. Darllenwch eich paragraff olaf ychydig o weithiau’n uchel i weld sut mae’n swnio – dylai deimlo fel diweddglo naturiol i’ch llythyr. 

Golygwch

Ysgrifennwch ddrafft cyntaf mewn un eisteddiad os gallwch chi. Yna, ewch yn ôl a gwneud ‘rownd’ o olygu. Gallwch gael saib yn y canol cyn gwneud hyn i roi amser i chi brosesu’r hyn rydych am ei newid neu ei ddatblygu. Bydd cymryd seibiant o’r llythyr a dod yn ôl ato yn dangos i chi lle mae angen golygu pethau. Dylech hefyd ddefnyddio rhaglenni fel Grammarly neu Hemmingway Editor i wirio gwallau gramadeg a sillafu. Bydd Hemmingway hefyd yn dangos i chi lle gallai eich brawddegau fod yn fyrrach neu’n gliriach.   

Gofyn i rywun wirio eich llythyr

Gofynnwch i fwy nag un person wirio eich llythyr eglurhaol os oes modd. Byddai rhywun sy’n gweithio mewn diwydiant tebyg yn ddelfrydol, ond byddai ffrind neu berthynas a fydd yn rhoi adborth gonest i chi hefyd yn ddefnyddiol. Darllenwch y llythyr yn uchel hefyd, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i glywed brawddegau clogyrnaidd neu letchwith, neu dynnu sylw at eiriau coll a gwallau sillafu. 

Mwy o awgrymiadau a chyngor  

Cofiwch daro golwg ar ein 20 cyngor gorau ar gyfer ceisiadau, cyfweliadau a llythyrau eglurhaol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyfforddiant neu am loywi eich sgiliau, cysylltwch â ni. 

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook, Twitter, YouTube neu Instagram