Gyda chymaint o opsiynau gwahanol i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu, gall fod yn anodd penderfynu pa lwybr sydd orau i chi. 

Felly... gofynnom i dri o bobl ym maes adeiladu pa gyngor y bydden nhw’n ei roi i bobl sy’n ystyried ymuno â’r diwydiant ar ôl eu harholiadau TGAU, a chawsom wybod pa lwybr y gwnaethant ei ddilyn er mwyn cael eu rôl bresennol.

Zaid Abioye – Rheolwr Prosiect, Contractwyr Adeiladu OHOB

Sut i ddechrau arni ym maes adeiladu ar ôl sefyll eich TGAU

Mae unrhyw bwnc yn berthnasol

Roedd fy nhad yn gweithio yn swyddfa’r drafftsmon felly roedd gen i ddiddordeb mawr fel plentyn yn yr holl gynlluniau a’r glasbrintiau mawr.

Astudiais Saesneg, mathemateg, ffiseg, bioleg, cemeg a lluniadu technegol ar gyfer fy arholiadau TGAU.  Yna astudiais Lefel A mewn ffiseg, mathemateg a chemeg. Mae’n debyg mai mathemateg a ffiseg yw’r pynciau pwysicaf os ydych chi am fod yn beiriannydd.. A gall cemeg fod yn ddefnyddiol hefyd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn adeiladu cyffredinol, mae unrhyw bwnc yn berthnasol.

Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gallu cyfathrebu’n dda. Bydd hefyd angen i chi fod â diddordeb mewn pethau ymarferol, fel bod yn dda gyda’ch dwylo.

Astudiais yn y brifysgol am 4 blynedd a chefais rywfaint o brofiad ymarferol cyn dod yn aelod siartredig o’r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB)

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Ble bynnag rwy’n mynd, byddaf bob amser yn gadael cofeb y gallaf fynd yn ôl ati, strwythur ffisegol y gallaf ddweud fy mod yn rhan ohono. Mae hyn bob amser yn braf.


Byddaf yn ymweld ag ysgolion i siarad am y diwydiant adeiladu ac yn annog pobl ifanc i ymuno â’r proffesiwn.

Yn ddiweddar, mi es i Ysgol New Woodlands yn Bromley i gymryd rhan mewn cynllun sydd i fod i roi’r cyfle i fyfyrwyr ifanc ddeall y diwydiant adeiladu.

Dod yn beiriannydd

Os ydych chi eisiau bod yn beiriannydd, y dull gorau fyddai mynd i goleg technegol ar ôl eich TGAU. O fanno, gallwch fynd ymlaen i’r brifysgol i gwblhau eich astudiaethau.

Gallech hefyd ystyried dilyn prentisiaeth gyda chwmni a datblygu eich gyrfa gyda’r cwmni hwnnw.

Rosanna Giarraputo – Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned, Bell Group

Sut i ddechrau arni ym maes adeiladu ar ôl sefyll eich TGAU

Pam adeiladu?

Rydw i’n berson ymarferol iawn. Rydw i’n hoffi darganfod sut mae pethau’n gweithio ac esbonio hynny i’r bobl sy’n gweithio gyda fi, a’r bobl yn y gymuned.

Mae pob diwrnod yn wahanol yn y maes adeiladu. Un diwrnod, gallwn fod yn helpu i baentio ar brosiect cymunedol. Y diwrnod canlynol, byddaf yn sgwrsio â chleientiaid mewn cartref gofal. Rydw i wrth fy modd yn siarad â phobl ac yn clywed straeon am eu bywydau.

Newid gyrfa

Roedd mynd i fyd adeiladu yn newid gyrfa i mi. Treuliais flynyddoedd yn gweithio ym maes masnachu cadwyni cyflenwi ac roeddwn i wedi cyrraedd sefyllfa lle’r oeddwn i wedi gwneud popeth roeddwn i eisiau ei wneud yn broffesiynol. 

Rydw i wedi gweithio yn y swydd hon am gyfnod hirach nac ydw i wedi’i weithio i unrhyw gwmni. Dydi’r gwaith byth yn ddiflas – bob dydd rwy’n gweithio i wahanol bobl ar wahanol brosiectau ar gyfer gwahanol gleientiaid.


Sut wnaeth fy nghymwysterau TGAU helpu

Astudiais TGAU mewn mathemateg, Saesneg, bioleg, cerddoriaeth, hanes, astudiaethau crefyddol ac ieithoedd (Sbaeneg a Ffrangeg).  Es ymlaen i wneud lefel A mewn Saesneg, Sbaeneg a cherddoriaeth.

Wnes i ddim ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu tan yn ddiweddarach, ond roedd llawer o fy mhynciau TGAU yn berthnasol, yn enwedig Saesneg.

Fe wnaeth Saesneg fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu - rhywbeth sy’n allweddol i fy swydd fel cydlynydd ymgysylltu â’r gymuned.

Os ydych chi newydd orffen eich TGAU ac yn meddwl am yrfa ym maes adeiladu, ewch amdani. Mae’n ddiwydiant sy’n tyfu ac mae arian i’w wneud. Mae cwmnïau adeiladu bob amser yn chwilio am bobl frwdfrydig.

Hyfforddiant yn y gwaith

Fe ges i lawer o hyfforddiant yn y gwaith ar gyfer fy swydd. Mae bod allan gyda thîm ar y safle a chymryd rhan yn y lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol rydyn ni’n eu cynnig wedi fy helpu i ddysgu am adeiladu.

Bod yn gennad adeiladu

Fel Cennad Adeiladu, rydw i’n siarad â phobl ifanc ac mae cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiynau i mi am sut mae’r ‘byd adeiladu’ yn gweithio.

Mae rhai pobl ifanc wir yn gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud, ond dydi eraill ddim yn siŵr, ond mae cymaint o wahanol rolau ym maes adeiladu – o beintio ac addurno, i fy rôl i, sef ymgysylltu â’r gymuned.

Mae sawl ffordd o ddechrau arni ym maes adeiladu - y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw darganfod beth sy'n gweithio i chi.

Jennifer Kinsella - Gweinyddydd Swyddfa, Grŵp SPV

Sut i ddechrau arni ym maes adeiladu ar ôl sefyll eich TGAU

Busnes teuluol

Fe wnes i adael yr ysgol pan oeddwn i’n 16 oed a gweithio fel nyrs ddeintyddol, ac fe wnes i sylweddoli’n gyflym nad dyna oeddwn i eisiau ei wneud am weddill fy oes.

Roedd fy nhad, fy ewythr a’m cefndryd i gyd yn gweithio ym maes adeiladu. Byddwn bob amser yn eu clywed yn siarad am y llefydd y buon nhw’n gweithio ynddyn nhw, mewn llawer o wahanol swyddi ledled y sir.

Pan oeddwn i’n 17 oed, roedd swydd derbynnydd yn mynd gyda Howard Evans Roofing (rhan o Grŵp SPV) felly fe wnes i gais. 

Dysgu yn y gwaith

Cefais 5 TGAU, ond doedd gen i ddim cymwysterau swyddogol yr oedd eu hangen arnaf i ddechrau arni.

Mae llawer o’r gwaith yn cael ei ddysgu ar y safle. Mae gwaith adeiladu’n ymarferol iawn. Roedd gen i fentor da iawn, Kate Whatley, sy’n dal i fod yn fentor i mi 15 mlynedd yn ddiweddarach.

Ar ôl ychydig o flynyddoedd, roedd hi’n amlwg bod angen i mi gael rhyw fath o gymhwyster gweinyddol, felly astudiais NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes. Roeddwn yn astudio gyda’r nos tra’n gweithio’n llawn amser.

Es ymlaen i fod yn nyrs iechyd meddwl ac mae hyn yn fy helpu i ddiogelu iechyd meddwl y peirianwyr sy’n cydweithio’n agos gyda mi.

Rydw i bob amser yn wynebu heriau newydd a dysgais lawer drwy gael fy nhaflu i’r pen dwfn.

Mae llawer o bobl yn dod i mewn i’r diwydiant adeiladu oherwydd y cyfleoedd i symud ymlaen nad ydych chi’n eu cael yn unman arall.


Prinder sgiliau

Rydyn ni’n mynd allan i leoliadau arddangos fel yr NEC, Birmingham lle mae gennym ni (Grŵp SPV) stondin, ac rydyn ni’n siarad â phobl ifanc am gyfleoedd ym maes adeiladu.

Penderfynom sefydlu canolfan hyfforddi ar ôl i ni sylwi bod y bwlch sgiliau’n ehangu. Rydyn ni’n helpu unrhyw un rhwng 16 a 18 oed sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes adeiladu. Eleni, rydyn ni’n helpu 20 o bobl ifanc i baratoi am y safle adeiladu er mwyn iddyn nhw allu cael gwaith neu ddilyn prentisiaeth. Rydyn ni’n gweithio gyda busnesau lleol i gael gwybod pa sgiliau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw.

Ar ddiwedd y 24 wythnos, bydd ein myfyrwyr yn cael eu Cerdyn CSCS ac wedi cael hyfforddiant ymarferol sy’n benodol i’r diwydiant. Bydd ganddynt hefyd Gyflwyniad i Adeiladu Lefel 1 a chymwysterau codi a chario ac ymwybyddiaeth am asbestos. Gall myfyrwyr hefyd ailsefyll TGAU neu ennill cymwysterau Saesneg a mathemateg.

Rydyn ni wedi llwyddo i ddod o hyd i’n holl swyddi dan hyfforddiant a’n prentisiaethau yn y diwydiant adeiladu.

Does dim un TGAU na Lefel A y mae’n rhaid i chi ei wneud

Mae llawer o bobl sy’n gorffen yn yr ysgol yn teimlo nad ydynt eisiau mynd yn ôl i amgylchedd academaidd.

Fy nghyngor i yw eich bod yn dangos hyder. Peidiwch â phoeni gormod am eich canlyniadau. Os ydych chi'n dymuno cymhwyso fel arolygydd meintiau, gallwch wneud hynny'n nes ymlaen.

Byddwch yn ymarferol a pheidiwch â phoeni am beidio gwneud pethau’n iawn. Mae’n ddiwydiant ymarferol iawn.

Dod o hyd i yrfa yn y diwydiant adeiladu

Dysgwch pa swyddi adeiladu sy’n addas i’ch sgiliau a’ch diddordebau drwy ddefnyddio ein Chwilotwr Gyrfa.

Rhowch gynnig ar ein Chwilotwr Gyrfa

Dod yn brentis

Enillwch gyflog wrth ddysgu drwy ddechrau prentisiaeth.