Sut i baratoi ar gyfer cyfweliad am swydd

I ddechrau arni mewn unrhyw yrfa, bydd angen i chi gael cyfweliad am swydd. Mae’n bosib y bydd ymgeiswyr yn teimlo’n anghyfforddus, ond maen nhw’n rhan hanfodol o’r broses recriwtio ar gyfer unrhyw gyflogwr. Er mwyn bod yn llwyddiannus mewn cyfweliad, dylech baratoi’n dda a gwybod pa fath o gwestiynau y gellid eu gofyn i chi.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cyfweliad am swydd sy’n berthnasol i unrhyw ddiwydiant, ond yn sicr i’r maes adeiladu


Pam mae cyfweliadau am swyddi yn bwysig

Mae cyfweliadau am swyddi’n bwysig oherwydd dyma eich cyfle gorau i greu argraff ar gyflogwr o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd rydych wedi ymgeisio amdani. Pan fyddwch chi’n gwneud cais am swydd, eich amcan cyntaf yw cael cyfweliad.

Fel arfer, bydd cyflogwr yn seilio ei benderfyniad ynghylch a ddylid cyflogi ymgeisydd ar sail cryfder ei gyfweliad. Byddant yn edrych i weld a yw eich sgiliau, eich profiad a’ch personoliaeth yn bodloni gofynion y swydd.

Gwahanol fathau o gyfweliad am swydd

Mae'n bosib y byddwch yn cael nifer o wahanol fathau o gyfweliadau. Gall rhai swyddi gynnwys un neu ragor o gyfweliadau.

Cyfweliad un-i-un

Gall cyfweliadau wyneb yn wyneb fod ar sawl ffurf. Mewn cyfweliad un-i-un, cewch eich cyfweld gan un unigolyn o’r cwmni. Mae’n bosib y cewch chi eich cyflwyno i fwy o bobl, ond dim ond un fydd yn y cyfweliad ei hun.   

Cyfweliad panel

Mae’n gyffredin i fwy nag un gynnal cyfweliad y dyddiau hyn. Gelwir hyn yn gyfweliad panel. Yn aml, bydd y cyflogwr yn cael ei gynrychioli gan rywun y byddwch yn gweithio’n uniongyrchol iddo - fel arfer, eich darpar reolwr llinell, aelod o adran adnoddau dynol y cwmni, ac o bosibl unigolyn arall y byddwch yn gweithio gydag ef/hi os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus.

Cyfweliadau dros y ffôn a thros y we

Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn defnyddio dulliau dros y ffôn ac ar-lein i gynnal cyfweliadau. Gellir defnyddio’r rhain yn gynnar yn y broses recriwtio ac mae’n bosibl na fyddant yn para cyn hired â chyfweliad wyneb yn wyneb arferol. Mae cyfweliadau fideo yn eithaf cyffredin erbyn hyn, gan ddefnyddio Zoom neu Teams.

Bydd angen i chi gael cysylltiad â’r rhyngrwyd a dyfais addas i gynnal cyfweliad fel hyn, felly mae’n bwysig rhoi gwybod i’r recriwtiwr neu’r cyflogwr os gallai hyn fod yn anodd i chi. Dylent fod yn hyblyg yn yr amgylchiadau hyn a chynnig ffordd wahanol o wneud y cyfweliad.

Mathau o gwestiynau cyfweliad

Mae’n syniad da paratoi ar gyfer cyfweliad ymlaen llaw. Mae rhai cwestiynau cyffredin mewn cyfweliadau yn aml yn cael eu gofyn, felly os ydych chi wedi paratoi atebion, bydd yn rhoi mwy o hyder i chi.

Cwestiynau cryfderau a gwendidau

Mae'n debyg y bydd cyflogwr yn gofyn i chi siarad am eich cryfderau a'ch gwendidau. Gall hyn fod yn lletchwith i rai pobl oherwydd eu bod yn ei chael yn anodd siarad amdanynt eu hunain fel hyn, ond mae cyfweliadau’n ymwneud â gwerthu eich sgiliau, eich priodoleddau a’ch personoliaeth.

Wrth feddwl am eich cryfderau, ceisiwch eu cysylltu â'r disgrifiad swydd, a rhoi enghreifftiau o sut y dangoswyd y cryfderau hynny. Gall bod yn ymwybodol o’ch gwendidau ymddangos yn llawer anos i’w wneud, ond mae cyflogwyr yn gofyn y cwestiwn hwn gan eu bod eisiau gwybod am lefel eich hunanymwybyddiaeth, a’r potensial sydd gennych ar gyfer twf personol mewn swydd. Ceisiwch ganolbwyntio ar y meysydd hynny o’ch personoliaeth nad ydynt yn adlewyrchu’n wael arnoch chi eich hun ac a fyddai’n gwneud i rywun beidio â’ch cyflogi. Mae’n well dweud, er enghraifft, ‘Rydw i’n ormod o berffeithydd’, na ‘Rydw i’n colli’r gallu i ganolbwyntio’n hawdd’.

Cwestiynau am bersonoliaethau

Mae sgiliau a phrofiad yn ffactorau pwysig o ran eich addasrwydd ar gyfer swydd, ond bydd cyflogwr hefyd eisiau gwybod am eich personoliaeth. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwch ei restru ar CV ond bydd yn pennu pa mor dda y gallech chi weithio gyda phobl eraill neu sut gallech chi ddelio â sefyllfaoedd yn y gweithle.

Mae'n bosibl y bydd rhywun yn gofyn pethau fel:

  • Beth sy’n eich gwneud chi’n ymgeisydd unigryw?
  • Sut ydych chi’n rheoli dicter neu straen?
  • Beth ydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch?
  • Sut byddai eich ffrindiau’n eich disgrifio chi?
  • Sut ydych chi’n delio â beirniadaeth?

Cwestiynau seiliedig ar gymhwysedd

Gall cyflogwr hefyd ofyn cyfres o gwestiynau sy’n seiliedig ar gymhwysedd, sydd wedi eu cynllunio i weld pa sgiliau sydd gennych a sut rydych chi wedi eu dangos, naill ai yn y gwaith, mewn addysg neu mewn rhannau eraill o’ch bywyd.

Gallai cwestiynau cyfweliad sy’n seiliedig ar gymhwysedd gynnwys:

  • Dywedwch wrthyf am sefyllfa pan wnaethoch chi ddelio â gwrthdaro yn y gwaith
  • Disgrifiwch adeg pan ddangosoch chi arweinyddiaeth
  • Pa mor dda ydych chi’n ymdopi mewn adfyd?
  • Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yma?
  • Pryd wnaethoch chi ddangos eich bod chi’n gallu gwneud penderfyniadau da?

Cwestiynau llawn cymhelliad ar gyfer cyfweliadau

Tua diwedd cyfweliad, mae’n bosib y gofynnir cwestiynau fel: ‘beth yw eich uchelgais fwyaf?’, ‘beth ydych chi’n breuddwydio am ei wneud?’ neu ‘ble ydych chi’n gweld eich hun ymhen pum mlynedd?’

Gelwir y rhain yn gwestiynau cymell ac maent yn rhoi syniad i gyflogwyr o'r hyn sy'n ysgogi neu'n cymell ymgeisydd. Os yw rhywun yn swnio’n uchelgeisiol neu os oes ganddo nodau wedi eu diffinio’n glir, bydd hyn yn helpu cyflogwr i wneud penderfyniad am botensial datblygu ymgeisydd. Ydyn nhw’n fodlon datblygu eu sgiliau y tu hwnt i’w swydd bresennol, cymell eu cydweithwyr neu ddangos gallu i arwain?

Paratoi ar gyfer eich cyfweliad

Pan fydd y cyfweliad yn cael ei gadarnhau

Unwaith y byddwch chi’n gwybod dyddiad y cyfweliad, dechreuwch wneud rhywfaint o waith cynllunio cychwynnol. Mae ymchwilio i’r cwmni bob amser yn syniad da. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar eu gwefan a nodi rhai ffeithiau i’w defnyddio yn ystod y cyfweliad.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod sut i gyrraedd y man lle mae’r cyfweliad yn cael ei gynnal, a faint o amser y bydd y daith yn ei chymryd. Gofynnwch am ganiatâd i fynd i'r cyfweliad os oes angen i chi ddod o'ch ysgol, eich coleg neu oddi wrth eich cyflogwr presennol.

Ychydig ddyddiau ymlaen llaw

Cynlluniwch rai atebion i gwestiynau cyffredin y cyfweliad rydych chi wedi eu darllen uchod. Meddyliwch am gwestiynau i’w gofyn i’r cyflogwr – bydd dau neu dri yn ddigon. Mae hyn yn dangos eich bod chi wedi ymchwilio i’r cwmni a bod gennych chi ddiddordeb yn y swydd.

Y diwrnod cynt

Y diwrnod cyn y cyfweliad, gorffennwch eich gwaith paratoi. Bydd cwestiynau’n siŵr o godi na fyddwch chi wedi gallu eu rhagweld, ond nid ydych chi eisiau swnio’n rhy awtomatig wrth ateb. Bydd siarad yn naturiol ac yn fyrfyfyr yn datgelu mwy o’ch personoliaeth i’r cyfwelydd.

Ceisiwch grynhoi eich gwaith ymchwil a chynllunio i gyfres o bwyntiau bwled y gallwch eu cario gyda chi ar ddarnau bach o bapur neu gardiau, neu hyd yn oed ar eich ffôn symudol. Yn debyg i arholiadau, os ydych chi wedi adolygu digon, dylai’r pwyntiau bwled hyn fod yn ddigon i chi gofio’r hyn rydych chi wedi ymchwilio iddo ac wedi ei baratoi ar gyfer y cyfweliad.

Peidiwch â mynd i’r gwely yn hwyr y noson cyn y cyfweliad. Rydych chi eisiau cael noson dda o gwsg a theimlo’n barod ac yn effro eich meddwl yn y bore.

Diwrnod y cyfweliad

Ar ddiwrnod y cyfweliad ei hun, rhowch ddigon o amser i chi eich hun baratoi a theithio i’r cyfweliad. Mae’n debyg y byddwch chi’n teimlo’n nerfus, ond mae hynny’n naturiol. Gwisgwch yn daclus ac yn briodol – mae argraffiadau cyntaf yn cyfri.

Sut beth yw gweithio ym maes adeiladu?

Mae cyfweliadau swyddi yn y maes adeiladu yr un fath â’r rhan fwyaf o ddiwydiannau eraill. Mae’n bwysig paratoi’n dda, cael iaith y corff hyderus ac ateb y cwestiwn a ofynnir i chi gan y cyfwelydd. Mae pob cyfweliad yn brofiad da. Os nad ydych chi’n cael y swydd, peidiwch â phoeni’n ormodol. Gallwch ofyn am adborth gan y cyfwelydd – dysgwch beth wnaethoch chi’n dda a beth allwch chi ei wella ar gyfer eich cyfweliad nesaf.

Os yw adeiladu yn ddiwydiant rydych chi’n meddwl y gallai fod yn addas i’ch sgiliau a’ch diddordebau, gall Am Adeiladu ddarparu’r holl wybodaeth a chyngor am yrfa ym maes adeiladu.