Dychmygwch y cynnwrf o ddringo un o’r tyrbinau gwynt uchaf ar y môr ym Mhrydain i osod llafn rotor newydd.

Byddech chi’n meddwl mai dim ond gweithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â digon o brofiad fyddai’n gallu gwneud y math anodd a thechnegol hwn o waith. Fyddai hwn ddim yn lle i ddechreuwr pur, na fyddai?

Rhith-wirionedd i gael profiad go iawn

Anghywir – gyda datblygiadau newydd mewn technolegau hyfforddiant trochol gan ddefnyddio rhith-wirionedd (VR) a realiti estynedig (AR), gall unrhyw un sy’n dechrau arni ym maes adeiladu brofi sefyllfaoedd o’r fath heb y risgiau, y peryglon na’r costau.

Drwy drochi mewn amgylcheddau hyfforddi artiffisial ond realistig, gallwch gael y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch heb orfod bod ar y safle neu ddefnyddio offer drud, a allai fod yn beryglus.

Nid yw wedi’i gyfyngu i dyrbinau gwynt chwaith. Mae cannoedd o alwedigaethau yn y diwydiant a allai elwa o ddysgu trochol, o yrru tryciau fforch-godi i ddylunio ysbytai i osod llinellau gwasanaeth mewn nendwr.

Dyna sy’n wych am y diwydiant adeiladu – mae cymaint o wahanol swyddi, a gall technoleg arloesol fod yn rhan o lawer ohonynt.

Dysgwch fwy am yr amrywiaeth enfawr o swyddi adeiladu sydd ar gael, neu rhowch gynnig ar ein cwis personoliaeth i gael gwell syniad o beth allai weithio i chi.

Sut mae rhith-wirionedd yn gweithio

Mae’n siŵr eich bod wedi gweld pensetiau rhith-wirionedd yn y cyfryngau yn cael eu defnyddio ar gyfer chwarae gemau neu adloniant – ond efallai nad ydych wedi gweld am yr hyblygrwydd eithriadol maen nhw’n ei gynnig i ddysgu a hyfforddi.

Rhowch un ymlaen a gafaelwch mewn darn llaw cydnaws, ac yn sydyn gallech chi fod, dyweder, yn weldio arc ar uniad rhigol. Gallwch weld a chlywed popeth sy’n digwydd yn union fel y byddech chi pe baech chi’n weldio yn y byd go iawn – does dim ots os byddwch chi’n gwneud camgymeriad a does dim deunyddiau i’w gwastraffu.

Realiti estynedig

Mae hyfforddiant drwy ddefnyddio realiti estynedig yn gweithredu mewn ffordd debyg, ond ei fod yn troshaenu fideo, sain neu graffeg i’r byd go iawn. Er enghraifft, gallech chi daflunio eich dyluniad weirio trydanol ar gragen fewnol adeilad go iawn.

Gan fod y cyfan yn artiffisial, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ctrl a ‘z’, dadwneud, ailgychwyn neu ailosod i roi cynnig arall arni. Does dim angen darnau neu gynnyrch newydd arnoch chi, nac aros misoedd am y cyfle i ddefnyddio peiriannau ac offer drud.

Gêm hyfforddi

Nid yw’n ddamwain os yw hyn i gyd yn eich atgoffa o chwarae gemau cyfrifiadur. Mae hyfforddiant trochol yn defnyddio rhai o elfennau allweddol gemau cyfrifiadurol i greu amgylchedd dysgu hwyliog ac atyniadol, gan annog myfyrwyr i gydweithio, cyfathrebu a rhyngweithio i ddatrys problemau.

Mae rhai systemau hyfforddi rhithwir yn golygu bod nifer o hyfforddeion yn gweithio gyda’i gilydd mewn gwahanol rolau i gwblhau un dasg. Gallai efelychiad gynnwys, er enghraifft, goruchwyliwr craen, gweithredwr craen a banciwr yn gweithio ar wahanol sgriniau i gwblhau’r un tasg.

Gallwch hefyd weld eich cynnydd yn haws drwy ddefnyddio systemau dysgu trochol, sy’n gallu olrhain pa mor dda rydych chi’n gwneud – yn eithaf tebyg i ystadegau gemau. Mae’n golygu eich bod yn gwybod beth yw eich cynnydd ac yn cael cymorth wedi’i dargedu lle bynnag y bydd ei angen arnoch.

Yn dda i chi, ac i’ch cyflogwyr

Mae cwmnïau mawr, fel Laing O’Rourke, eisoes yn dweud bod dysgwyr trochol yn fwy ymwybodol o ddiogelwch ac yn fwy cywir na hyfforddeion eraill. Gallwch ddarllen mwy am yr ymchwil yn ein hadroddiad ar ddysgu trochol.

Mae’r ffordd hon o ddysgu yn ddifyr ac yn effeithiol i hyfforddeion, gan gynhyrchu gweithwyr sy’n barod a gyda’r sgiliau iawn i weithio – ac mae hefyd yn fwy cost-effeithiol i gyflogwyr o ran offer, deunyddiau a goruchwyliaeth.

Mae’n creu cyfleoedd i ymarfer sgiliau ar y safle, rhywbeth sy’n gallu bod yn anodd eu cael mewn bywyd go iawn, ac mae’n dangos bod y diwydiant yn ei gyfanrwydd yn canolbwyntio ar y dyfodol, gan ddefnyddio technolegau arloesol i sicrhau bod gan y DU’r gweithlu hyfforddedig sydd ei angen arni er mwyn wynebu heriau yfory.

Adeiladu ar gyfer y dyfodol

Mae angen pobl ifanc dalentog sy’n barod i weithio ar gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu. Maen nhw hefyd yn gwybod bod y genhedlaeth nesaf yn adnabod, yn deall ac eisiau defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn eu gyrfaoedd.

Beth am gael rhagor o wybodaeth am weithio ym maes adeiladu gyda’n Chwilotwr Gyrfa a gwylio ein fideo ar sut mae dysgu trochol yn helpu pobl eraill i symud ymlaen yn y sector.