Nid lles corfforol yw’r unig ystyriaeth gyda iechyd a diogelwch, mae diogelu iechyd meddwl yr unigolyn yr un mor bwysig hefyd. Felly dyma gipolwg ar y ffordd mae’r diwydiant adeiladu yn delio â’r pwnc hwn...

Pam mae iechyd meddwl yn un o brif flaenoriaethau’r diwydiant adeiladu

Oherwydd natur ymarferol llawer o brosiectau adeiladu, mae iechyd a diogelwch corfforol wedi bod yn ganolbwynt i’r diwydiant ers tro byd. Mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth gynyddol ar draws sector adeiladu’r DU, a sylweddolodd cyflogwyr a gweithwyr ei bwysigrwydd yn fuan iawn.

Mae data diweddar yn awgrymu bod bron i ddau berson o bob tri wedi cael problemau iechyd meddwl, felly mae cyflogwyr yn targedu cyflyrau fel straen, iselder a gorbryder yn gynyddol er mwyn archwilio opsiynau i fynd i’r afael â hyn.

Pam mae iechyd meddwl mor bwysig?

Mae mwy i les meddyliol da na bod yn hapus. Yn wir, gall ddod ag amrywiaeth eang o fanteision – gan roi hwb i’ch hyder, helpu i feithrin perthnasoedd cryf a’ch galluogi chi i ddelio â newid yn fwy effeithiol. Yn y gweithle, gall arwain at well morâl, mwy o gymhelliant a gwell cynhyrchiant.

Ond ar yr ochr arall, efallai y bydd mwy o berygl i’ch prydlondeb fod yn wael, absenoldeb o'r gwaith a salwch os nad yw eich pen yn y lle iawn. Hyd yn oed os ydych chi mewn cyflwr da yn gorfforol, gallai cyflwr iechyd meddwl ei gwneud yn anodd iawn i gyflawni eich potensial.

Sut mae’r diwydiant adeiladu yn mynd i’r afael â’r mater...

Yn y gorffennol, mae llawer o ddiwydiannau wedi ystyried iechyd meddwl yn bwnc tabŵ, ond mae’r meddylfryd hwn yn newid erbyn hyn. Bellach, mae’r diwydiant adeiladu’n codi mwy o ymwybyddiaeth ymysg y rheini sy’n gweithio ynddo ynghylch pa gymorth sydd ar gael, a sut mae annog a chefnogi’r rheini sy’n brwydro â’u hiechyd meddwl i ddod ymlaen. Dyma rai o’r cynlluniau sy’n bodoli:

  • Mates in mind – maen nhw’n ceisio hyrwyddo lles meddyliol da, ac yn annog gweithwyr i siarad os ydyn nhw’n cael problemau. Gyda chefnogaeth y Grŵp Arweinyddiaeth Iechyd mewn Adeiladu a Chyngor Diogelwch Prydain, mae’r ymgyrch yn cynnig rhaglenni hyfforddi a deunyddiau hyrwyddo.
  • Spotlight on... Mental Health – sy’n tynnu sylw at sut mae cyflyrau iechyd meddwl yn effeithio ar bob person beth bynnag fo’u hoedran, eu rhyw, eu crefydd a’u hethnigrwydd. Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei rhedeg gan y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol, yn dangos sut mae iechyd meddwl gwael yn gallu achosi problemau fel straen, pryder ac iselder personol a chysylltiedig â gwaith.
  • Mind Matters – cyfres o arolygon ac erthyglau a luniwyd gan Construction News i annog gwelliant parhaus mewn iechyd meddwl ym maes adeiladu.

Alla i wneud unrhyw beth?

Mae’r ymgyrchoedd uchod yn dangos bod y sector adeiladu o ddifri am iechyd meddwl. Ond gall y pwnc hwn effeithio ar bob un ohonom. Felly, dyma rai awgrymiadau ymarferol os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, neu eich bod yn meddwl y gallai rhywun rydych chi’n ei adnabod fod yn cael trafferth:

  1. Mae rhywfaint o wybodaeth arbenigol ar-lein - Mae The Construction Industry Helpline yn rhoi arweiniad ar iechyd galwedigaethol a lles meddyliol, ochr yn ochr â phethau fel cymorth cyfreithiol ac ariannol. Gall elusennau fel Mind a YoungMinds hefyd ddarparu cymorth.
  2. Nid yw cyflyrau iechyd meddwl yn golygu eich bod yn wan – Gall byw gydag iselder neu bryder deimlo fel profiad sy’n eich ynysu. Ond y gwir yw bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn. P’un ai a ydych chi’n delio â chyflwr eich hun neu’n dymuno cefnogi cydweithiwr, mae’n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun.
  3. Ewch ati i greu cysylltiad – Mae llawer ohonom yn dewis cronni’n problemau y tu mewn i ni, yn hytrach na rhannu’r baich ag eraill. Ond mae hyn yn debygol o wneud pethau’n waeth. Gall siarad â phobl eraill, mwynhau bywyd cymdeithasol da a bod yn agored pan fydd angen cymorth arnoch wella eich lles meddyliol.
  4. Ceisiwch sicrhau cydbwysedd – Mae’r sector adeiladu’n llawn pobl angerddol, sy’n fodlon mynd yr ail filltir i gwblhau’r gwaith. Ond gall y lefel hon o ymroddiad gymylu’r ffiniau weithiau rhwng gwaith a bywyd teuluol – a gallai canlyniadau hyn fod yn niweidiol i iechyd meddwl. Felly, mae sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â straen a chadw popeth mewn persbectif.
  5. Gall geiriau fod yn bwerus yn y diwylliant rydych chi’n ei greu – Mae cyflyrau iechyd meddwl yn aml wedi’u cuddio o’r golwg, sy’n golygu nad ydych chi byth yn gwybod pwy allai fod yn dioddef yn dawel. O ganlyniad, dylech ddefnyddio iaith barchus yn y gweithle bob amser er mwyn osgoi brifo teimladau unrhyw un. Drwy ddatblygu amgylchedd sensitif a gwirioneddol ofalgar, mae’r rhai sy’n cael trafferth gyda chyflyrau yn llawer mwy tebygol o ddod ymlaen i siarad am eu problemau.

Hoffech chi gael gwybod mwy?

Edrychwch ar ein tudalen ar y Newid Diwylliant yn y Maes Adeiladu