Os ydych chi'n astudio ar gyfer TGAU neu Safon Uwch ac am fynd ymlaen i astudio yn y brifysgol, efallai eich bod yn gwybod yn union ym mha faes pwnc rydych chi am arbenigo ynddo. Gallai fod yn bwnc rydych chi'n ei fwynhau fel Saesneg, Hanes neu Fathemateg, neu efallai'n bwnc rydych chi'n meddwl a allai fod yn fwy defnyddiol ym myd gwaith, fel Gwyddoniaeth neu Beirianneg.  

Yn yr un modd, efallai nad ydych chi’n hollol siŵr beth rydych chi eisiau ei ddewis i’w astudio yn y brifysgol, ac nid chi yw’r unig un sy'n teimlo felly.  


Os nad ydych chi’n siŵr, gwnewch ein Cwis Personoliaeth 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes adeiladu ond am gael rhywfaint o awgrymiadau ynghylch pa fath o yrfa y gallai eich personoliaeth eich gwneud chi’n addas ar ei chyfer, ac felly pa radd i’w dilyn, beth am gymryd rhan yn ein Cwis Personoliaeth? Gofynnir cyfres o gwestiynau eithaf ar hap i chi (fel eich hoff bocs set i wylio un bennod ar ôl y llall, neu beth i’w wneud mewn apocalyps sombi) i ddatgelu pa fath o bersonoliaeth ydych chi.  

Gallech chi fod yn drwsiwr, yn rheolwr neu'n rhywun creadigol!  

Os oes gennych chi syniad, defnyddiwch ein Chwilotwr Gyrfa

Mae gennym adnodd gwych arall i’ch helpu i ddod o hyd i’r swydd iawn yn y diwydiant adeiladu, yn seiliedig ar eich diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau. Mae ein Chwilotwr Gyrfa yn gofyn cyfres o gwestiynau mewn amrywiaeth o gategorïau, fel lle mae’n well gennych weithio, y meysydd gwaith sydd o ddiddordeb i chi fwyaf, eich sgiliau gorau a’r cymwysterau sydd gennych.  

Dim ond ychydig o funudau y bydd y cwis yn ei gymryd ac ar y diwedd bydd gennych awgrym o swydd adeiladu. Efallai nad yw’n yrfa yr oeddech chi erioed wedi meddwl amdani neu wedi clywed amdani, ond gallai fod yn swydd i chi ymchwilio mwy iddi. Gallai hefyd eich helpu i benderfynu pa gwrs prifysgol i wneud cais amdano.  

Pa raddau sydd fwyaf poblogaidd?

Ceir nifer o wahanol arolygon am y cyrsiau israddedig mwyaf poblogaidd yn y DU, ond dyma'r pynciau sy'n codi amlaf: Nyrsio, Gwyddor Chwaraeon, Rheoli Busnes, Cyfraith, Meddygaeth, Peirianneg, Cyfrifiadureg, Seicoleg, y Cyfryngau, Lletygarwch a Thwristiaeth.  

Pa raddau sy’n costio leiaf?

Rhaid i ni fod yn onest – mae mynd i’r brifysgol yn ddrud. Caiff prifysgolion yn y DU godi hyd at £9,250 o ffioedd dysgu y flwyddyn ar gyfer cyrsiau gradd tair blynedd, a all adael myfyrwyr â dyledion o bron i £30,000 erbyn iddynt orffen eu cwrs prifysgol. Dim ond nes byddant yn ennill lefel benodol o gyflog y bydd yn rhaid i raddedigion ddechrau ad-dalu’r benthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu.  

Fodd bynnag, mae rhai prifysgolion yn codi ffioedd dysgu is na’r lefel uchaf hon.  

https://www.goconstruct.org/construction-careers/what-jobs-are-right-for-me/Gradd-brentisiaethauhttps://www.goconstruct.org/cy-gb/dechrau-arni-ym-maes-adeiladu/prentisiaethau/gwahanol-lefelau-o-brentisiaethau/ sy’n gwneud y synnwyr ariannol mwyaf. Gan fod y rhain yn brentisiaethau, byddwch yn cael cyflog, ond byddwch hefyd yn cael astudio yn y brifysgol ochr yn ochr â'r amser y byddwch yn ei dreulio yn gweithio. 

Pa raddau yw’r byrraf?

Yn draddodiadol, mae cyrsiau gradd yn dair blynedd o hyd, ac mae rhai yn bedair neu'n hwy (yn achos meddygaeth neu bensaernïaeth). Ond gallech ddilyn cwrs gradd dwy flynedd, sy'n rhywbeth cymharol newydd ym mhrifysgolion y DU. Mae prifysgolion yn codi’r un faint o ffioedd dysgu ag y byddent yn ei wneud ar gyfer cwrs tair blynedd, ond byddai israddedigion yn arbed costau byw am y drydedd flwyddyn.  


Pa raddau sy’n cynnig sgiliau trosglwyddadwy? 

Mae gan bron pob gradd rai elfennau neu sgiliau y gellir eu trosglwyddo i ddisgyblaeth, swydd neu bwnc arall. Gallai gynnwys sgiliau llythrennedd neu rifedd, meddwl yn ddadansoddol, sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, rheoli amser, sgiliau trefnu a sylw i fanylion. Felly, os ydych chi'n astudio pwnc Celfyddydau neu Wyddoniaeth, cwrs galwedigaethol neu academaidd, bydd o fudd mawr i chi yn eich gyrfa yn y dyfodol.  

Cael gwybod mwy am raddau a phrifysgol