Bydd gradd peirianneg fecanyddol yn agor llawer o lwybrau gyrfa i chi ar ôl graddio. Mae’n debygol y byddwch wedi gwneud rhywfaint o brofiad gwaith yn ystod eich gradd neu fod gennych rai syniadau ynglŷn â’r llwybr yr hoffech ei ddilyn, ond dyma rai o’r gyrfaoedd sydd ar gael i’ch ysbrydoli ymhellach.

Peiriannydd Mecanyddol

Efallai fod hyn yn ymddangos yn amlwg gan ei fod yn llwybr syml o radd i rôl swydd, ond os mai mathemateg, gwyddoniaeth a thechnolegau newydd sy'n mynd â'ch bryd, gallai hyn fod yn ddelfrydol. Mae peirianwyr mecanyddol yn bobl greadigol. Maen nhw’n dylunio ac yn datblygu dyfeisiau mecanyddol, sy’n cael eu defnyddio mewn injans, offer trydanol, a chyfarpar, ac yn defnyddio eu sgiliau ar draws nifer o ddiwydiannau. Gallai’r rôl hon olygu eich bod yn gweithio mewn ffatri, yn helpu i gynhyrchu rhannau o beiriannau, neu hyd yn oed fel rhan o dîm sy’n adeiladu gwenoliaid gofod neu awyrennau.

Peiriannydd Biofeddygol/Biotechnolegydd Meddygol/Peiriannydd Biotechnoleg

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gofal iechyd yn ogystal â pheirianneg, dyma gyfuniad a fyddai’n addas i chi. Mae datblygiadau arloesol meddygol a meddalwedd newydd yn cael eu dylunio a’u datblygu gan beirianwyr biofeddygol, sy’n golygu eich bod yn cael dylanwadu ar y sector gofal iechyd a gwneud gwahaniaeth gyda’ch gwaith. Mae peiriannau meddygol yn hanfodol, ond gallech hefyd fod yn gweithio ar brosthetigau, organau artiffisial, neu roboteg lawfeddygol. Mae rhai peirianwyr biofeddygol hefyd yn gweithio mewn ymchwil y tu ôl i ddyfeisiau meddygol newydd i wella eu dyluniad i’r dyfodol, felly mae angen sgiliau dadansoddi yn y rolau hyn hefyd.

Peiriannydd Modurol  

Mae’r dechnoleg y tu ôl i’r diwydiant modurol yn datblygu drwy’r amser. Fel peiriannydd yn y maes hwn, gallech fod yn helpu i ddatblygu technoleg diogelwch newydd, rhannau newydd, gweithio ar effeithlonrwydd tanwydd neu unrhyw nifer o ddatblygiadau arloesol. Mae hon yn rôl greadigol arall, gan y byddwch yn dod o hyd i atebion ac yn ysgogi newid. Mae peirianwyr modurol yn creu, yn golygu ac yn gwella dyluniadau gan ddefnyddio meddalwedd CAD (cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur) ac yn profi cydrannau a phrototeipiau. Maen nhw hefyd yn ysgrifennu adroddiadau manwl ar eu canfyddiadau ac yn ymgynghori ar gostau, deunyddiau a therfynau amser. Mae hyn yn golygu y gallai sgiliau rheoli prosiectau eich helpu yn y rôl hon.

Technegydd Peirianneg Fecanyddol

Mae technegwyr peirianneg fecanyddol yn helpu peirianwyr mecanyddol i ddylunio, datblygu, profi a gweithgynhyrchu dyfeisiau mecanyddol. Mae dadansoddi data a phrofi yn rhan fawr o’r rôl hon. Bydd technegydd yn trefnu cynlluniau, yn tynnu brasluniau, ac yna’n defnyddio amcangyfrifon a chyfrifiadau i wneud yn siŵr bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn bosibl. Mae Technegwyr Peirianneg Fecanyddol yn gweithio mewn timau i drafod newidiadau i offer neu beiriannau yn y dyfodol, ac yn cefnogi prosiectau i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cwblhau’n ddiogel ac o fewn y gyllideb. Mae sgiliau cyfathrebu a rheoli prosiectau yn bwysig ar gyfer y rôl hon.

Peiriannydd Diwydiannol

Os ydych chi’n mwynhau cynllunio pethau’n ofalus a chwblhau prosiect mor effeithlon â phosibl, dyma’r llwybr gyrfa i chi. Mae Peirianwyr Diwydiannol yn defnyddio eu harbenigedd peirianneg fecanyddol a mathemategol i ddatrys problemau sy’n codi wrth gynhyrchu neu weithgynhyrchu cynnyrch. Maen nhw’n rhoi cyngor ar ddeunyddiau a gweithdrefnau profi i sicrhau bod tasgau’n cael eu cwblhau’n brydlon ac yn sicrhau bod prosiectau’n rhedeg yn esmwyth. Gallai’r rôl hon olygu eich bod yn gweithio ar draws pob math o feysydd yn y diwydiant adeiladu, fel gofal iechyd neu drafnidiaeth, ond y nod bob amser yw gwella effeithlonrwydd y llif gwaith.

Peiriannydd Gwresogi, Awyru ac Aerdymheru (HVAC)

Mae’r math yma o beiriannydd yn gweithio gyda’r systemau sy’n rheoli ansawdd yr aer a’r amgylcheddau lle maent yn cael eu defnyddio. Mae’r technolegau yn y maes hwn yn datblygu wrth i’r byd ddod yn fwyfwy ymwybodol o effeithiau cynhesu byd-eang ar ansawdd yr aer. Mae peirianwyr HVAC yn gosod, yn cynnal, ac yn atgyweirio’r systemau sy’n rheoli tymheredd ac ansawdd yr aer, sy’n golygu eu bod yn gweithio ar draws amrywiaeth eang o sectorau yn y diwydiant adeiladu ac yn datrys problemau wrth iddynt godi. Mae rhai ohonynt yn canolbwyntio eu gwaith ar un math o system, fel gwresogi neu aerdymheru, tra bo eraill yn ymdrin â phob dull.  

Dechrau eich gyrfa ym maes Peirianneg Fecanyddol

CITB yw bwrdd hyfforddi’r diwydiant adeiladu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os nad oes gennych radd mewn peirianneg fecanyddol, ond yn dymuno cael gwybod am hyfforddiant neu gyrsiau i’ch helpu i ddechrau llwybr gyrfa, dewch i gysylltiad. 

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Cymrwch sbec ar ein prentisiaethau neu gyrsiau a chymwysterau CITB, neu darllenwch ein blogiau eraill i gael ysbrydoliaeth.