Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn drydanwr, mae llawer o gyfleoedd gan fod sawl gwahanol fath o drydanwr.  

Gallech arbenigo mewn gweithio mewn lleoliadau preswyl neu ar osodiadau masnachol. Gallech ddylunio systemau trydanol cyfan neu brofi offer i weld a ydynt yn ddiogel i’w defnyddio.  

Mae ein canllaw isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o drydanwyr sydd ar gael, a’r lefelau maen nhw’n gweithio arnynt. 


Mathau o drydanwyr yn ôl lefel

Lefel

Disgrifiad

Is-drydanwr  Fel y gris cyntaf ar yr ysgol yrfa drydanol, mae is-drydanwr yn gweithio gyda goruchwyliaeth gan drydanwr cymwysedig. Nid yw’n astudio ar gyfer cymwysterau ffurfiol fel prentis, ond mae wedi cael digon o brofiad gwaith i gyflawni tasgau gosod ymarferol. Fel arfer, bydd yn meddu ar y Diploma Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol.  
Prentis Mae prentisiaeth yn golygu dysgu sut i wneud math penodol o swydd neu grefft drwy weithio ac astudio ar yr un pryd. Disgwylir i drydanwyr prentis weithio o leiaf 30 awr yr wythnos a threulio gweddill ei amser mewn coleg neu gyda darparwr hyfforddiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3. Mae prentisiaethau trydanol fel arfer yn cymryd 3-4 blynedd i’w cwblhau.  
Trydanwr  Gallwch chi alw eich hun yn drydanwyr ar ôl cwblhau prentisiaeth neu ar ôl pasio Diploma Gosodiadau Trydanol Lefel 3. Bydd trydanwr wedi gweithio yn y diwydiant trydanol am sawl blwyddyn cyn ennill y cymwysterau galwedigaethol hyn, a bydd ganddo’r profiad i weithio mewn amgylcheddau domestig, masnachol a diwydiannol heb oruchwyliaeth.  
Trydanwr cymeradwy I fod yn ‘ drydanwr cymeradwy’, bydd gennych y cymhwyster Lefel 3 mewn archwilio, profi a dilysu cychwynnol. Byddwch hefyd yn gallu dylunio, gosod a dilysu amrywiaeth eang o osodiadau trydanol yn effeithlon ac yn economaidd. Bydd gan drydanwyr cymeradwy ddealltwriaeth dda iawn o reoliadau gwifro’r 18fed Argraffiad, a elwir hefyd yn BS 7671.  

 

Rolau trydanwyr arbenigol 

 

Arbenigedd

Disgrifiad

Trydanwr masnachol  Mae trydanwyr masnachol wedi’u hyfforddi i weithio mewn adeiladau masnachol yn hytrach nag adeiladau domestig. Maent wedi’u trwyddedu i osod, atgyweirio a chynnal a chadw systemau trydanol mewn adeiladau masnachol mawr, fel canolfannau siopa a lleoliadau adloniant. Maent wedi’u hyfforddi i weithio gyda generaduron a chyfarpar foltedd uwch.  
Trydanwr cynnal a chadw  Mae systemau trydanol adeiladau masnachol neu breswyl mawr yn cael eu monitro gan drydanwyr cynnal a chadw. Maen nhw’n archwilio’r adeilad yn rheolaidd, yn trwsio unrhyw namau ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw arferol. Gallai trydanwr cynnal a chadw weithio mewn sawl gwahanol safle.  
Peiriannydd Trydanol  Mae peirianwyr trydanol yn dylunio, yn datblygu ac yn cynnal systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Nid dim ond ym maes adeiladu y mae peirianwyr trydanol yn gweithio, maen nhw hefyd yn gweithio ym maes trafnidiaeth, ynni (gan gynnwys ynni adnewyddadwy), gwasanaethau adeiladu a gweithgynhyrchu.  
Profwr cyfarpar trydanol  Mae profwyr cyfarpar trydanol yn arolygu, yn profi ac yn archwilio gosodiadau trydanol mewn cartrefi a busnesau, gan nodi namau a chwblhau adroddiadau profion. Ymysg eu rolau, mae profwyr cyfarpar trydanol yn cynnal profion offer cludadwy (PAT) ac archwiliadau ansawdd ar adeiladau newydd, gan gadarnhau bod cyfarpar trydanol yn ddiogel i’w ddefnyddio.   
Gosodwyr cyfarpar trydanol domestig  Mae gosodwyr cyfarpar trydanol domestig yn gweithio mewn eiddo domestig, yn gosod gwifrau neu gylchedau trydanol newydd ac yn atgyweirio systemau trydanol diffygiol. Ar safleoedd adeiladu, bydd gosodwyr cyfarpar trydanol yn gweithio ochr yn ochr â chrefftwyr eraill.  
Dylunydd cyfarpar trydanol  Mae dylunwyr cyfarpar trydanol yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad i ddylunio systemau trydanol, cylchedau a switsfyrddau i gyd-fynd â manyleb adeilad neu brosiect. Mae dylunwyr cyfarpar trydanol yn gweithio’n agos gyda phenseiri, perchnogion tai a chwmnïau adeiladu i ddod o hyd i atebion sy’n cyd-fynd â gofynion a nodweddion penodol adeilad.  
Trydanwr gosodiadau  Mae trydanwyr gosodiadau yn gyfrifol am osod systemau trydanol cyflawn mewn adeiladau, fel goleuadau, pŵer, diogelwch, diogelu rhag tân a cheblau strwythur. Efallai y byddant yn gweithio ar brosiectau mwy neu eiddo masnachol.  

Dod o hyd i rôl prentis trydanwr 

Dod o hyd i swydd fel trydanwr

  • Chwiliwch driwyr swyddi trydanol gwag ar hyn o bryd <https://www.talentview.org/vacancy?page=1&fulltext=electrician&registration_source=construction&event_code=goconstruct> 

Darllenwch ein canllaw ar fod yn drydanwr

Rhagor o wybodaeth am rolau trydanol ym maes adeiladu