Gwireddwyd dymuniad Joseph o Aberystwyth i gael profiad o gerbydau adeiladau ‘mawr’ i fodloni ei ddiddordeb mewn popeth sy'n ymwneud ag adeiladu.

Cafodd Joseph ddod i’r Coleg Adeiladu Cenedlaethol, a drefnwyd drwy Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Make-A-Wish UK. Dechreuodd Make-A-Wish UK ym 1986 i wireddu dymuniadau sy’n newid bywydau i blant â salwch difrifol yn y DU.

Cafodd Joseph lawdriniaeth i dynnu tiwmor ar yr ymennydd ddwy flynedd yn ôl ac mae wedi cael adferiad rhyfeddol. Drwy ei benderfyniad a chymorth ei deulu, mae bellach yn gallu cerdded, siarad a bwyta ei hoff fwyd eto. Mae Joseph yn dal i wella, felly mae’n cael trafferth gwneud rhai gweithgareddau oherwydd diffyg egni a symudedd.

Bu gan Joseph ddiddordeb mewn peiriannau adeiladu o oed ifanc iawn. Dywedodd mam Joseph, Charlie, a oedd yn arfer gweithio fel archeolegydd, “Mae Joseph yn cyffroi gymaint pan fydd yn gweld cerbydau adeiladu’n cael eu cludo ar gefn llwythwyr isel ar draffyrdd, rydyn ni hefyd yn creu ardal adeiladu yn yr ardd”. Mae diffyg egni a symudedd gan Joseph felly roedd y profiad hwn yn ddelfrydol iddo am ei fod yn gallu rhoi cynnig ar y peiriannau ac ar yr efelychwyr, sy’n cael eu defnyddio i ddysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio gwahanol gerbydau cyn iddyn nhw fentro i mewn i’r rhai go iawn.

Trefnodd CITB i Joseph a’i deulu fynd mewn tryc dadlwytho, mynd mewn rhaw lwytho, defnyddio cloddiwr 360 a defnyddio’r efelychwr peiriannau i weithredu craeniau ac offer symud pridd amrywiol. Cafodd Joseph a’i frawd, Cian, fagiau o bethau da a oedd yn cynnwys mygiau, modelau, teganau, posteri a lluniau wedi’u fframio o’r peiriannau i fynd adref gyda nhw.

Dywedodd Charlie, “Cawsom wybod cyn ein hymweliad y byddem yn cael rhoi cynnig ar y 360 a mynd yn y tryciau dadlwytho yn ogystal â chael profiad yn yr efelychwr, ond mae hyn wedi rhagori ar ein disgwyliadau gan ein bod yn cael cloddio a llenwi’r tryciau dadlwytho. Byddwn yn dweud wrth blant eraill sy'n dymuno cael profiad o’r diwydiant adeiladu i ddod draw, bydd yn siŵr o’u hysbrydoli. Mae’n amgylchedd cyffrous ond diogel ac mae’r efelychwyr yn debyg i gêm uwch-dechnoleg iddyn nhw, ac ymhell y tu hwnt i unrhyw beth y gallan nhw ei chwarae ar gonsolau gemau.”

Gyda chymaint o yrfaoedd cyffrous a gwerth chweil yn y diwydiant adeiladu, does ryfedd bod plant fel Joseph wrth eu bodd â’r byd adeiladu. Mae nifer fawr o resymau dros annog eich plentyn i fynd i mewn i’r diwydiant adeiladu!

Ydy stori Joseph wedi eich ysbrydoli chi? Mae sawl ffordd o gymryd rhan gyda Make-A-Wish i helpu i wireddu dymuniadau plant fel Joseph. I gael gwybod mwy am drefnu digwyddiad codi arian fel digwyddiad gwerthu cacennau, cymryd rhan mewn her fel rhedeg, neu gymryd rhan mewn cyfle i wirfoddoli, ewch i Make-A-Wish.