Cyn lansio Cwis Gorau Erioed Am Adeiladu, gofynnom i weithwyr adeiladu sut roedden nhw’n teimlo bod eu personoliaeth yn addas i’w rôl. Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.


Harriet Morphew – Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu

Rydw i wastad wedi rhoi sylw trylwyr i fanylion.”

Harriet Morphew

“Rydw i wastad wedi rhoi sylw trylwyr i fanylion ac mae hyn wedi fy helpu i fel Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu i sicrhau bod fy nyluniadau a’m cyfrifiadau’n gywir yn dechnegol.

Mae gen i sgiliau cyfathrebu gwych sy’n ddefnyddiol pan fydd yn rhaid i mi gysylltu ag aelodau o’r tîm dylunio yn ystod prosiect. Mae nifer o aelodau ar bob tîm dylunio, gan gynnwys y cleient, penseiri, contractwyr a pheirianwyr gwasanaethau adeiladu, felly mae cyfathrebu’n dda a’r gallu i weithio fel tîm yn bwysig iawn.

Yn olaf, rwy’n gweld bod fy natur chwilfrydig yn fy ngalluogi i edrych ar bob prosiect ac asesu a chwestiynu pa wasanaethau fyddai fwyaf defnyddiol, priodol ac effeithlon ar gyfer pob adeilad.”


Katie Kelleher - Gweithredwr Craen

Mae fy nghyfeillgarwch a’m tosturi yn caniatáu i mi weithio fel rhan o dîm bob dydd.”

Katie Kelleher

“Rydw i’n meddwl bod fy ngallu i wrando ar gyfarwyddiadau’n addas iawn i’m rôl ym maes adeiladu. Mae fy mhersonoliaeth allblyg hefyd yn caniatáu i mi sefyll dros yr hyn sy’n iawn ar y safle a sicrhau nad ydw i’n caniatáu i unrhyw beth rwy’n credu a allai fod yn anniogel ddigwydd.

Gweithio mewn tîm yw gwaith adeiladu ac mae fy nghyfeillgarwch a’m tosturi yn caniatáu i mi weithio fel rhan o dîm bob dydd. Rwy’n cyd-dynnu â phawb, o’r gweithwyr safle, i’r peiriannydd, a’r rheolwr prosiect.

Yn olaf, byddwn yn dweud bod fy ngwydnwch yn caniatáu i mi fwrw ymlaen hyd yn oed ar ddyddiau anoddach, ac mae fy natur eithriadol o hamddenol yn fy ngalluogi i fwrw ymlaen â’r gwaith.”


Alice Clarke - Rheolwr Rhaglenni

Os ydych chi’n drefnus ac yn gallu cyfleu cynllun, yna mae lle i chi yn y diwydiant adeiladu yn sicr.”

Alice Clarke

“Ym mhob rôl rwyf wedi ymgymryd â hi yn y diwydiant adeiladu (Peiriannydd Sifil Graddedig, Peiriannydd Safle, Rheolwr Safle, Rheolwr Prosiect, Rheolwr Contractau a Rheolwr Rhaglen erbyn hyn) rwyf wedi gweld bod fy ngallu i drefnu fy ngwaith a’m dyddiadau cau fy hun neu waith tîm cyfan yn gymorth mawr.

Fel rheolwr safle, cafodd fy sgiliau eu profi gan fy mod yn cydlynu’r gweithgareddau dyddiol ar y safle yn erbyn y rhaglen gyffredinol, gan alw isgontractwyr i mewn yn ôl yr angen, gan sicrhau bod y deunyddiau priodol ar y safle a bod y RAMS yn cael eu llunio a bod fy nhîm yn eu deall yn iawn. Gan fy mod bellach yn cynnal rhaglen waith, nid fi sy’n trefnu deunyddiau ond rwyf yn edrych ar sut rydym yn strwythuro’r rhaglen gyflawni ar gyfer llawer o’n safleoedd adeiladu arfaethedig ac yn cysoni’r rhaglen ag anghenion y cleient a’r rheoleiddiwr.

Os ydych chi’n drefnus ac yn gallu cyfleu cynllun, yna mae lle i chi yn y diwydiant adeiladu yn sicr.”


Bydd Cwis Gorau Erioed Am Adeiladu yn cael ei lansio ddechrau mis Mehefin. Rhowch gynnig ar y cwis i weld pa fath o bersonoliaeth adeiladu sydd gennych chi, a pha rolau ym maes adeiladu sy’n gweddu orau i’ch personoliaeth.