Fel adeiladwr cartrefi sy’n arbenigo mewn creu cymunedau, rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy i yrfa yn y sector na brics a morter.

Mae gwaith adeiladu’n newid ein hamgylchedd naturiol mewn ffyrdd na allwn eu mesur. Gallwch chwarae eich rhan wrth drawsnewid y byd o’ch cwmpas drwy adfywio ardaloedd trefol neu safleoedd tir llwyd, creu cymunedau newydd, gwella natur ac ecoleg ac adeiladu etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae’r lefel honno o amrywiaeth yn golygu bod rolau sy’n addas i bawb, p’un ai a yw’n well gennych waith ymarferol, datrys problemau’n rhesymegol neu feddwl yn greadigol.

Mae angen pobl dalentog arnom sydd â diddordeb mewn cynllunio, arolygu meintiau, rheoli prosiectau, cynaliadwyedd, dylunio mewnol, gwerthu, marchnata digidol a llawer mwy.

Hyfforddiant

Ychydig iawn o ddiwydiannau sy’n gallu cynnig hyfforddiant mor eang ag y gall adeiladu ei gynnig. Drwy gydol eich gyrfa, byddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill profiad a rhinweddau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw beth a ddysgoch yn yr ystafell ddosbarth.

Byddwch hefyd yn gweithio gyda phobl frwdfrydig ac ysbrydoledig sydd â’u traed ar y ddaear, a fydd eisiau eich helpu i ddysgu a symud ymlaen.

Mae adeiladu’n ddiwydiant sy’n dal i gynnig cyfle i chi ddechrau eich gyrfa fel prentis neu hyfforddai a symud ymlaen yn y pen draw i fod yn rheolwr gyfarwyddwr neu’n Brif Weithredwr.

Mae’r diwydiant yn sicr yn un sy’n hyrwyddo hyfforddiant ‘yn y gwaith’, ac mae camu ymlaen yn eich gyrfa yn rhan enfawr o’r hyn rydym yn ei wneud.

Mae rhagoriaeth yn cael ei wobrwyo ac mae gweithwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn nifer o gynlluniau gwobrwyo. Mae’n brawf o safonau ansawdd y diwydiant bod cynifer o gynlluniau gwobrwyo’n bodoli i gydnabod llwyddiant.

Er enghraifft, mae Liam Sargeant, cyn-brentis Redrow, sydd wedi mynd yn ei flaen i fod yn gynorthwyydd safle dan hyfforddiant, wedi ennill nifer o deitlau, gan gynnwys Prentis y Flwyddyn Prydain Fawr yng Ngwobrau Prentisiaethau CITB; ‘Prentis/Dechreuwr Newydd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau’r Adeiladwyr a’r Peirianwyr sy’n uchel eu parch, a Phrentis y Flwyddyn cylchgrawn Your Move, yn ogystal â chael ei enwi’n ‘Brentis y Flwyddyn’ Redrow.

Cyfleoedd

Mae rhai diwydiannau ond yn cynnig y rolau gorau yn y dinasoedd mwy, ond mae’r galw cynyddol am dai ledled y wlad yn golygu bod y diwydiant adeiladu’n cynnig cyfleoedd ym mhob cwr o’r wlad, felly mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi symud. Yn yr un modd, os ydych chi eisiau symud, mae’n debyg y bydd cyfleoedd yn unrhyw le rydych chi’n dewis byw ynddo.

Mae’r sector yn cynnig cyflogau cystadleuol a buddion eraill, yn dibynnu ar y cwmni a’r rôl. Mae llawer o swyddi yn Redrow, er enghraifft, yn cynnig bonws neu gomisiwn, cynllun pensiwn hael, yswiriant meddygol preifat yn ogystal â chynllun disgownt manwerthu.

Bydd gyrfa ym maes adeiladu yn gwneud oedolyn ohonoch, ac yn rhoi sgiliau bywyd i chi y gellir eu trosglwyddo i yrfaoedd eraill... nid y byddech chi byth eisiau eu gadael!