Dechreuodd Isobel weithio gyda’i llystad i weld ai Paentio ac Addurno oedd y llwybr gyrfa a’r dewis cywir iddi hi. O ganlyniad i gyfnod o brofiad gwaith llwyddiannus gyda’i llystad y dewis nesaf yn naturiol i Isobel oedd sicrhau prentisiaeth mewn Paentio ac Addurno. Opsiwn a gymerodd Isobel gan y byddai'n ei helpu gyda'i dyheadau gyrfa yn y dyfodol ac roedd wedi ei fwynhau ac yn meddwl y byddai'n dda gwneud prentisiaeth i'm helpu i ddatblygu fy ngyrfa yn y dyfodol.

Yn ystod ei chyfnod o brofiad gwaith, gwnaeth Isobel gais am le yn y coleg i sicrhau ei bod yn gallu sicrhau ei hyfforddiant prentisiaeth. Ysbrydolwyd Isobel gan y cyfleuster a’r gefnogaeth yn y coleg ‘Mae’r cyfleusterau’n dda iawn yng Ngholeg Sir Gâr. Mae fy nhiwtor a’m hymgynghorydd hyfforddi wedi bod yn gefnogol iawn gan fy helpu gyda’r gwaith sydd angen i mi ei gwblhau a sut i gasglu tystiolaeth o’r gweithle i’m helpu gyda fy nghymwysterau prentisiaeth.’

Tynnodd Isobel sylw at bwysigrwydd profiad gwaith a’r ystod o waith sydd ei angen ar gyfer ei chymhwyster ‘Hoffwn ddysgu gwahanol dechnegau paentio fel marmori a sut i osod papur wal gan fy mod yn teimlo y bydd hyn yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ymarferol a fy ngwybodaeth ymhellach. Mae fy nghyflogwr yn gefnogol iawn o ran fy mhrentisiaeth ac yn caniatáu i mi fynd i’r coleg ddau ddiwrnod yr wythnos i gwblhau fy nghymhwyster.’

Ar hyn o bryd mae Isobel yn gweithio tuag at gwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Paentio ac Addurno.