Yn ystod Wythnos Prentisiaethau’r Alban (4 - 8 Mawrth), dywedodd tri o brentisiaid ar gyrsiau pedair blynedd gyda Scotia Homes wrthym beth oedden nhw’n ei hoffi am ddysgu'r crefftau maen nhw wedi’u dewis yn ymarferol.

Mae Katie Cruickshank ym mlwyddyn gyntaf prentisiaeth asiedydd gyda Scotia Homes a hi yw’r unig ferch ar y cwrs.

“Mae’r hogiau’n dda iawn. Rydw i’n cael fy nhrin yr un fath â phawb arall,” meddai Katie.

“Gwaith coed oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol – ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n elwa cymaint o aros yno ar ôl fy arholiadau.

“Roeddwn i eisiau profiad bywyd go iawn yn hytrach na bod yn sownd y tu ôl i ddesg yn dysgu o lyfrau.

“Fe wnes i ystyried mynd i’r coleg i fynd i’r byd adeiladu, ond mi wnes i glywed am brentisiaethau mewn diwrnod agored ar gyfer gyrfaoedd. Wnes i ddim difaru o gwbl.”

Meithrin sgiliau defnyddiol am oes

“Yn sicr, hwn oedd y peth iawn i’w wneud – llawer gwell nag y gallai unrhyw un fod wedi dweud. Rydw i’n dysgu wrth weithio ac ennill cyflog wrth ddysgu. Ac rydw i’n cael cymhwyster da ar y diwedd hefyd,” meddai Katie.

“Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn y coleg, rydyn ni’n ymdrin â’r egwyddorion y byddwn yn eu defnyddio yn y gwaith. Ond mae’n ymddangos fy mod yn dysgu mwy wrth wneud pethau yn y gwaith. Yn y coleg, rydyn ni’n ymdrin ag un pwnc yr wythnos, ond yn y gwaith, gallech chi fod yn gwneud pedwar peth y dydd yn reit hawdd.

Dysgu ymarferol fel prentisiaid

Rydw i allan ar y safle, yn gweithio mewn cartrefi go iawn, yn gosod ffenestri, paredau, sgyrtin, drysau, siliau ffenestri – popeth. Mae’n wych!

“Mae rhai o’m ffrindiau ysgol yn edrych arna i ac yn difaru na wnaethon nhw brentisiaethau.”

Dod â’r sbarc yn ôl

Roedd yr atyniad o gael sgiliau defnyddiol yr hoffai cyflogwyr eu cael yn apelio at Sam Robertson hefyd. Mae’n brentis-drydanwr ar safle Scotia Homes yn Dubford, Swydd Aberdeen.

“Bydd gwaith bob amser ar gael i drydanwyr,” meddai Sam. “Rydw i’n hoffi cymhlethdod systemau trydanol. Mae’n cynnal fy niddordeb ac yn golygu y byddaf yn mwynhau fy ngyrfa yn y tymor hir.”

“Doedd gen i ddim profiad o gwbl o’r maes trydanol cyn i mi ddechrau. Ond rydw i’n awyddus, yn gweithio’n galed, ac yn barod i ddysgu – dyna beth maen nhw’n chwilio amdano yn y cais.

“Roeddwn i’n bêl-droediwr proffesiynol cyn hyn. Fe wnes i chwarae i dîm dan 20 Clwb Pêl-droed Aberdeen. Daeth fy nghontract i ben, ond i mi, roedd ochr broffesiynol pethau’n mynd â’r mwynhad allan o’r gêm, felly wnes i ddim mynd â hi ymhellach fel gyrfa. Rydw i’n dal i chwarae am hwyl yn fy amser hamdden.

Dysgu ymarferol fel prentisiaid

Dydw i ddim yn difaru dilyn prentisiaeth yn lle hynny o gwbl. Rydw i wrth fy modd yn gwneud pethau ymarferol, yn yr awyr agored ac rydw i’n chwerthin bob dydd. Rydw i’n meddwl ei fod wedi fy ngwneud i’n berson hapusach.

“Gyda fy nghymhwyster, gallwn barhau i weithio i Scotia, neu fynd yn hunangyflogedig, neu efallai fynd â fy sgiliau dramor. Mi wnaeth fy rhieni weithio dramor ac rwy’n meddwl y byddai’n beth gwych i’w wneud.”

Eich gosod ar seiliau cadarn am oes

Roedd Ryan Wilby eisoes yn gweithio ym maes adeiladu fel labrwr gyda Scotia pan ddaeth yn brentis fel briciwr pan oedd yn 24 oed.

“Pan gafodd fy merch ei geni yn 2016, sylweddolais fod angen i mi gael crefft,” meddai. “Fel yr hynaf ar fy nghwrs, roedd braidd yn rhyfedd i fynd yn ôl i’r coleg, ond dim ond tair wythnos sydd gen i ar ôl yn y coleg.”

Dysgu ymarferol fel prentisiaid

Rydw i’n mwynhau pethau llawer yn fwy yn yr awyr agored, a dyna beth yw’r rhan fwyaf o’r cwrs. Rydw i wir yn hoffi adeiladu waliau cerrig Fyfe gan fod rhaid i chi feddwl cerrig o ba liw a maint i’w gosod yn y lle iawn. Mae’n dipyn o bos!

“Roedd yn rhaid i mi dderbyn llai o gyflog fel prentis, ond yn y tymor hir, bydda i’n llawer gwell fy myd yn ariannol.

“Rydyn ni’n cael dipyn o hwyl ar y cwrs, ac rydw i wedi ennill dwy wobr gosod brics ers i mi ddechrau. Mae fy hen ffrindiau sy’n dal i fod yn labrwyr nawr yn meddwl y dylen nhw fod wedi gwneud yr un peth â mi.”

Mae’r tri phrentis yn cytuno mai dilyn prentisiaeth oedd y dewis iawn iddyn nhw. “Os ydych chi’n ystyried y peth, ewch amdani yn bendant,” meddai Katie. “Mae’n gosod y seiliau ar gyfer eich gyrfa. Rydych chi’n creu llwybr ar gyfer y dyfodol. Ewch amdani!”

A yw prentisiaeth yn iawn i ti?

Gyda chymaint o yrfaoedd a chyfleoedd ym maes adeiladu, mae rhywbeth i bawb. Beth am ddarganfod beth allai weithio i chi.

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr Alban.