Denise Forster – dysgwch am adeiladu.

Rydw i wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers 2009 ac wedi ymuno â’r diwydiant ar sail Mapio Prosesau, sy’n golygu dod o hyd i ble mae angen i chi ddechrau, ble byddwch chi’n mynd, a’r holl dasgau yn y canol.

Rydw i’n gweithio mewn swyddfa ac mae’r swydd ychydig yn dechnegol, ond rwy’n gofalu am yr holl ddogfennau perthnasol. Er enghraifft, os oes angen ffurflen asesu risg ar safle ar gyfer rhywbeth sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, fy ngwaith i yw sicrhau eu bod yn cael y fersiwn ddiweddaraf.

Cyn hynny, roeddwn yn gweithio yn y GIG a Gwasanaethau Ariannol, felly mae gwaith adeiladu’n wahanol iawn. Mae pob diwrnod yn cynnig rhywbeth newydd neu heriol i’w wneud.

Rydych yn cwrdd â phob math o bobl; o’r Gweithwyr a’r Cydlynwyr Safle traddodiadol sy’n gwneud y gwaith caib a rhaw, i Reolwyr Safle a Phrosiectau, Datblygwyr Busnes, Marchnatwyr, TG, Hyfforddwyr, Cynghorwyr Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol, Amcangyfrifwyr, Syrfewyr Meintiau a Chyfarwyddwyr Cwmnïau.

Mae llu o rolau llai traddodiadol ym maes adeiladu sy’n cefnogi staff y safle i wneud yr hyn y maen nhw’n dda am ei wneud.

Denu Talent Iau

Mae gan y diwydiant weithlu profiadol, ond mae’n bwysig ein bod yn rheoli pobl ifanc dalentog i gamu i’r adwy yn ôl yr angen. Ond, er mwyn denu pobl dalentog, mae’n rhaid i ni wneud iddyn nhw deimlo’n gyffrous am ymuno â’r diwydiant

Mae ‘Step up into Construction’ yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n ystyried gyrfaoedd ym maes adeiladu, neu gyda phobl sydd efallai wedi gadael y diwydiant ac sy’n awyddus i ailymuno.

Aeth fy nghydweithiwr Amanda (Davidson) a minnau i Goleg Efrog i wneud y Gweithgaredd Tetrahedron sydd ar gael ar Adnoddau Am Adeiladu. Rydych chi’n defnyddio ffyn a bandiau rwber i adeiladu pyramidiau 3 ochrog, ac yna'n eu rhoi at ei gilydd i greu strwythur dim mwy na phedwar metr wrth bedwar metr.

Mae’n wych oherwydd bod pobl yn cymryd rhan yn hytrach na gwrando ar rywun yn siarad â nhw. Gall y dasg ymdrin â sawl elfen o adeiladu, nid yr adeiladu’n unig sy’n bwysig, ac yn yr un modd, nid yr adeiladu yw’r unig beth pwysig yn y diwydiant Adeiladu; mae gennych chi’n gwaith amcangyfrif, arolygu meintiau, rheoli ansawdd, rheoli rhaglen, Iechyd a Diogelwch.

Tu allan i ffatri Terry’s

Aethom ni â’r un myfyrwyr i weld gwaith treftadaeth lle rydyn ni’n Brif Gontractwr, yn hen Swyddfeydd Ffatri Siocled Terry’s yn Efrog. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II ac mae wedi bod ar gau ers blynyddoedd. Mae’n rhaid bod yn ofalus iawn wrth wneud y rhan fwyaf o’r gwaith, gan gadw at safonau treftadaeth.

Mae angen adnewyddu tua 300 o ffenestri sash, sy’n golygu tynnu miloedd o gwareli a chasmentau allan a’u adnewyddu er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau modern.

Y peth gwych am waith treftadaeth yw y gallai’r gwaith fod yno am 100 mlynedd arall a mwy, unwaith y byddwch wedi rhoi’r darnau yn ôl yn eu lle. Mi wnaeth hynny ysbrydoli’r myfyrwyr yn fawr. Byddai pawb wrth eu bodd i gael dweud wrth eu hwyrion – “welwch chi’r ffenestri acw? Fi wnaeth y rheiny!”

Prentisiaethau

Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod ymdrech fawr mewn ysgolion i gael myfyrwyr i fynd i’r chweched dosbarth, gwneud eu Lefel A, a mynd yn eu blaen i’r Brifysgol. Mae hynny’n iawn i rai, ond nid dyma’r llwybr iawn i bawb. Gall prentisiaethau roi hwb gwirioneddol iddyn nhw.

Mae gennym Brentisiaid Asiedyddion a Phrentis Amcangyfrifwr, yn Simpson (York) Limited, gan ei bod yn bwysig iawn sicrhau bod y to nesaf o dalent yn dod drwodd. Mae’n llwybr defnyddiol ac yn ein galluogi ni i siapio ein pobl ein hunain yn ein dulliau ni. Yna, maen nhw’n deall yn iawn sut mae’r busnes yn gweithio.

Drwy ddilyn llwybr prentisiaeth, gall unigolion symud ymlaen hefyd i wneud HND/HNC neu radd hyd yn oed os ydynt yn dymuno gwneud hynny – i rai pobl, mae hwn yn llwybr mwy cadarn gan ei fod yn fwy graddol. O safbwynt y cwmni, maen nhw’n gallu gweld mantais y dysgu tra bo’r unigolyn hefyd yn ychwanegu at ei linell waelod. Mae pawb yn elwa, maen nhw’n cael gweithiwr ac mae’r unigolyn yn cael ei hyfforddi.

Gall pawb yn y diwydiant helpu i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes adeiladu. Amanda yw’r grym y tu ôl i hyn, yn mynd i’r gymuned leol ac yn cynnal digwyddiadau mewn Colegau, Canolfannau Gwaith, Ysgolion Uwchradd a hyd yn oed Ysgolion Cynradd, ac mae hyn i gyd ar ben ei ‘gwaith bob dydd’ ym maes Adnoddau Dynol!

Pan fyddwn ni’n gweithio gydag Ysgolion Cynradd, rydyn ni wrth ein bodd yn ymgysylltu â’r plant, gan siarad yn bennaf am gadw’n ddiogel o gwmpas safleoedd adeiladu, ond dydyn ni byth yn colli cyfle i ddangos iddynt beth yw’r posibiliadau ar gyfer gyrfaoedd ym maes adeiladu.

I gwmni fel ni, mae’n wych i fynd i ysgolion a cholegau a llwyddo i danio dychymyg y myfyrwyr. Rydyn ni’n dangos i bobl ifanc pa mor fawr yw’r diwydiant hwn ac y gallai fod rôl i’r rhan fwyaf o bobl, ar bob lefel. Mae llwyddo i wneud hynny’n iawn yn rhoi teimlad cynnes a melys i ni, wrth i ni roi rhywun ar y trywydd iawn, neu hyd yn oed newid eu bywydau.