Os ydych chi ar fin gadael yr ysgol, ac nad ydych chi’n siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud ar gyfer gyrfa, mae gennym ychydig o syniadau yma yn Am Adeiladu a allai helpu.


Asesu eich hunan

Meddyliwch am eich cryfderau, eich sgiliau a’ch diddordebau. Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud? Ydych chi’n dda gyda’ch dwylo, neu ydych chi eisiau swydd a fydd yn profi eich meddwl hefyd? Ydych chi’n meddwl y byddech chi’n fwy addas i weithio y tu allan, neu dan do, mewn swyddfa, neu gyfuniad o’r ddau?

Sefyll prawf personoliaeth gyrfa

Os ydych chi eisiau gwybod pa fath o swydd fyddai’n addas i chi, mae gan Am Adeiladu gwis personoliaeth y gallwch chi ei wneud. Mae hwn yn gwis cŵl iawn sy’n gofyn cwestiynau am y sioeau teledu rydych chi’n eu hoffi, beth fyddech chi’n ei wneud mewn apocalyps sombi, eich hoff apiau cymdeithasol a phwy fyddech chi’n hoffi iddo/iddi eich dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol – Cristiano Ronaldo ynteu Dwayne ‘the Rock’ Johnson?

Ar y diwedd, byddwch yn gweld pa fath o bersonoliaeth gyrfa ydych chi!

Archwilio eich dewisiadau gyrfa

Mae sawl ffordd y gallwch chi ymuno â’r diwydiant o’ch dewis, o gyrsiau coleg, prentisiaeth i brofiad gwaith.

Ymchwilio i yrfaoedd a mathau o waith

Mae’n bwysig gwneud eich ymchwil i’r gyrfaoedd sydd fwyaf o ddiddordeb i chi. Mae llawer o adnoddau ar gael ar-lein i gael gwybod am y mathau o waith sydd ar gael. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y diwydiant adeiladu, mae gan Am Adeiladu lawer o wybodaeth a chyngor am sut beth yw gweithio ym maes adeiladu, sut mae dechrau arni ym maes adeiladu a chwis archwilio gyrfa.

Bydd y cwis personoliaeth gyrfa hwn yn dod o hyd i rôl sy’n addas i’ch diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau. Mae’n gofyn cwestiynau fel:

  • Ble hoffech chi weithio yn fwy nag unman arall?
  • Pa feysydd gwaith sydd fwyaf o ddiddordeb i chi?
  • Pa sgiliau a chymwysterau sydd gennych chi?

Datblygu rhestr o yrfaoedd yr hoffech gael mwy o wybodaeth amdanynt

Os ydych chi wedi gwneud hunanasesiadau neu brofion personoliaeth, mae’n debyg eich bod chi wedi cael syniad o’r math o yrfaoedd y gallech fod â diddordeb ynddynt. Gwnewch restr hir o’r gyrfaoedd hyn, ac yna wrth i chi wneud mwy o waith ymchwil ceisiwch gyfyngu'r rhestr hon i restr fer. Dylech gynnwys gwybodaeth fel gofynion o ran enillion, sgiliau a hyfforddiant. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio eich meddyliau a chyfyngu ar eich dewisiadau ymhellach fyth.

Cael Hyfforddiant Proffesiynol i Bobl Ifanc

Dewis arall i’r rhai sy’n gadael yr ysgol yw cofrestru ar gyfer Hyfforddiant Proffesiynol i Bobl Ifanc. Mae’r rhain yn gyrsiau ar-lein am ddim a all eich helpu i wella eich sgiliau bywyd a gwaith, rhoi hwb i’ch hyder, a chael cyngor am arian ac iechyd meddwl. Bydd dod yn Weithiwr Ifanc Proffesiynol yn edrych yn dda ar eich CV, yn ogystal â’r cyfleoedd y gallai eu cyflwyno gyda chyflogwyr.

Meddwl am uchelgeisiau tymor byr a thymor hwy

Pan mae’n amser dewis gyrfa, peidiwch â meddwl am y tymor byr yn unig. Mae ennill arian am y tro cyntaf mewn swydd amser llawn yn gyffrous, ond wrth edrych i’r dyfodol, mae’n bosibl y bydd gyrfaoedd gwell i chi na’r swydd rydych chi’n dechrau ynddi. Os oes gennych chi uchelgais i weithio oddi cartref, neu hyd yn oed dramor, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, ystyriwch beth allai fod yn iawn i chi yn y tymor hir hefyd.


Dysgu mwy am yrfa ym maes adeiladu

Wrth feddwl pa swydd rydych chi eisiau ei gwneud pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol, mae'n bwysig eich bod chi’n mynd i weld cynghorydd gyrfa ac yn cael amrywiaeth eang o wybodaeth a chyngor. Os yw adeiladu yn ddiwydiant rydych chi’n meddwl y gallai fod yn addas i’ch sgiliau a’ch diddordebau, gall Am Adeiladu roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am yrfa ym maes adeiladu.