Mae angen eich sgiliau ym maes adeiladu

Yn anffodus, mae’r cyfnod o ansefydlogrwydd cyflogaeth a welwn ar hyn o bryd yn golygu bod cydweithwyr gwerthfawr yn y sector adeiladu yn ddi-waith. Ond, gyda’r bylchau sgiliau a ragwelir a phwysigrwydd canolog adeiladu o ran rhoi hwb i dwf economaidd y wlad, ni all y sector fforddio colli eich sgiliau.

Mae Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu wedi lansio Cynllun Cadw Talent a gefnogir gan y Llywodraeth, gyda’r nod o baru gweithwyr adeiladu profiadol ond di-waith â chyflogwyr sydd angen eich help i ateb y galw gwirioneddol ar draws meysydd adeiladu cartrefi, adeiladu masnachol a datblygu seilwaith.

Er mwyn cael eich profiad a’ch arbenigedd o flaen cyflogwyr perthnasol yr unig beth sydd angen ei wneud yw cofrestru a chreu proffil personol ar lwyfan TRS. Nod y cynllun yw sicrhau eich bod unwaith eto’n cael eich gwobrwyo am y sgiliau, yr hyfforddiant a’r profiad gwerthfawr rydych chi wedi gweithio mor galed i’w cronni.

Beth mae Cynllun Cadw Talent Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu yn ei gynnig i chi?

  • Gwasanaeth paru am ddim a fydd yn dangos eich CV i sefydliadau sydd â diddordeb
  • Y gallu i chwilio drwy swyddi gwag newydd sy’n cael eu hychwanegu bob dydd, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
  • Cael gwybod am y cyfleoedd diweddaraf drwy danysgrifio i hysbysiadau swyddi awtomatig a chwiliadau wedi’u cadw
  • Cadw golwg ar eich ceisiadau ac unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan gwmnïau drwy system olrhain syml a hawdd ei defnyddio.