Y diwydiant adeiladu yw un o’r defnyddwyr mwyaf o adnoddau byd-eang ac un o’r cyfranwyr mwyaf at lygredd. Felly, mae ganddo gyfrifoldeb enfawr i helpu cynaliadwyedd. Ond beth yn union yw adeiladu cynaliadwy, a beth yw’r manteision? Darllenwch ein canllaw i gael rhagor o wybodaeth. 

Beth yw adeiladu cynaliadwy a pham ei fod yn bwysig?

Rhaid i’r diwydiant adeiladu helpu i greu byd a fydd yn gwella bywydau cenedlaethau’r dyfodol a defnyddio dulliau ecogyfeillgar. Mae gweithio’n gynaliadwy yn golygu bodloni gofynion y boblogaeth sy’n tyfu, yn ogystal â chynnal yr amgylchedd yn y tymor hir.  

Beth ydy adeiladu cynaliadwy?

Mae adeiladu cynaliadwy yn golygu adeiladu gydag adnoddau a deunyddiau adnewyddadwy ac ailgylchadwy. Yn ystod prosiectau adeiladu, rhaid cymryd gofal i leihau gwastraff a’r defnydd o ynni lle bo’n bosibl a diogelu’r amgylchedd naturiol o amgylch y safle. Rhaid i ganlyniad terfynol prosiect adeiladu cynaliadwy fod yn adeilad neu amgylchedd ecogyfeillgar.

Cynaliadwyedd ym maes adeiladu

Pam mae adeiladu cynaliadwy yn bwysig?

Yn ôl Ysgol y Gadwyn Gyflenwi, mae gwaith adeiladu mewn gwledydd sy’n rhan o’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn defnyddio:

  • 25-40% o gyfanswm yr ynni
  • 30% o’r deunyddiau crai
  • 30-40% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd
  • 30-40% o’r gwastraff solet sy’n cael ei gynhyrchu.  

Dyma pam mae adeiladu cynaliadwy yn datblygu fel ateb. 

Yr heriau sy’n wynebu adeiladu cynaliadwy

Mae canfyddiad bod adeiladu cynaliadwy yn ddrud, sy’n gallu gwneud iddo ymddangos yn ddewis llai deniadol. Fodd bynnag, mae adroddiad 2018 Cyngor Adeiladu Gwyrdd y Byd yn dangos, er bod cost yn dal i beri pryder, bod perchnogion adeiladau gwyrdd yn dweud bod arian yn cael ei arbed drwy gostau gweithredu is diolch i’r deunyddiau cynaliadwy a ddefnyddir

Sut mae’r diwydiant adeiladu yn mynd i’r afael â chynaliadwyedd ar hyn o bryd?

Gyda chyhoeddiad y Strategaeth Twf Glân, mae’r Llywodraeth wedi amlinellu ei hymrwymiad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU gan o leiaf 80% erbyn 2050. Mae’r diwydiant adeiladu yn chwarae ei ran yn hyn drwy’r mentrau canlynol.

Cynaliadwyedd ym maes adeiladu

Strategaeth Adeiladu Cynaliadwy y Llywodraeth

Ar gyfer y maes adeiladu, mae’r strategaeth wreiddiol a osodwyd yn 2014 bellach yn Adeiladu 2025 - sy'n cyflwyno llwybr clir ar gyfer gwella cynaliadwyedd ym maes adeiladu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys manylion am fasnach dramor, technolegau clyfar, ac adeiladu gwyrdd ac mae’n rhan o strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth. 

BREEAM 

Mae BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol BRE), yn safon cynaliadwyedd fyd-eang sy’n helpu i wella perfformiad amgylcheddol adeiladau. Mae’r Canllaw Gwyrdd hefyd yn asesu effeithiau amgylcheddol deunyddiau yn ystod eu cylch bywyd. 

Ardystiad ISO 14001

Mae Rheolaeth Amgylcheddol ISO 14001 yn safon ar gyfer Systemau Rheoli Amgylcheddol cwmni. Ei nod yw lleihau costau rheoli gwastraff ac mae’n dangos ymrwymiad i warchod yr amgylchedd. Mae hefyd yn helpu i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon, sy’n berthnasol iawn ym maes adeiladu o ran y deunyddiau a ddefnyddir. Rhagor o wybodaeth yma.

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol  

Gall adeiladu cynaliadwy helpu enw da eich sefydliad drwy ddangos eich ymdeimlad o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, sef y ffordd mae busnesau’n ymddwyn er mwyn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Mae ystyriaethau moesegol a dewisiadau gwyrdd yn ddwy ffordd y gall y diwydiant adeiladu ddangos Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.


Manteision adeiladu cynaliadwy

Mae adeiladu cynaliadwy yn cynnig nifer o fanteision y gellir eu rhannu i’r tri chategori canlynol:  

Budd amgylcheddol

Bydd defnyddio ynni a deunyddiau adeiladu adnewyddadwy yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â hynny, bydd adeiladau sy'n fwy gwyrdd yn gwella’r ymdrechion i reoli gwastraff ac allyriadau. Yn ôl Cyngor Adeiladu Gwyrdd y Byd:  

“Gall adeiladau gwyrdd leihau neu ddileu effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, drwy ddefnyddio llai o ddŵr, ynni neu adnoddau naturiol, a gallant hefyd - mewn nifer o achosion - gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd (ar raddfa adeilad neu ddinas) drwy gynhyrchu eu hynni eu hunain neu gynyddu bioamrywiaeth.”  

Budd ariannol

Mae adeiladu cynaliadwy weithiau’n cael ei feirniadu am ddefnyddio deunyddiau drud, ond ystyrir yn aml fod adeiladau gwyrdd yn fwy gwerthfawr na rhai traddodiadol. Mae data wedi dangos eu bod yn sicrhau cynnydd o 7% yn eu gwerth dros adeiladau traddodiadol, ac mae arbedion ar filiau cyfleustodau i denantiaid neu aelwydydd hefyd yn fwy tebygol drwy brosiectau adeiladu cynaliadwy. 

Budd cymdeithasol

Mae adroddiad 2018 Cyngor Adeiladu Gwyrdd y Byd yn nodi:

“Mae manteision cymdeithasol adeiladu gwyrdd wedi bod yn cynyddu, yn enwedig iechyd a lles preswylwyr, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd pobl yn yr amgylchedd adeiledig...”.  

Nid yn unig mae adeiladu cynaliadwy yn golygu gwell iechyd i’r bobl sy’n defnyddio’r adeiladau, dangoswyd hefyd ei fod yn gwella cynhyrchiant gweithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu diolch i well amgylcheddau, amgylcheddau gwaith, a gwarchodaeth rhag sŵn.  


Deunyddiau a ddefnyddir mewn adeiladu cynaliadwy

Mae yna nifer o ffyrdd y gall cwmnïau adeiladu wella cynaliadwyedd a lleihau eu hôl troed carbon, fel:

  • Defnyddio ynni adnewyddadwy
  • Defnyddio offer trin dŵr ar y safle i leihau gwastraff
  • Ailgylchu ac adeiladu gyda deunyddiau adnewyddadwy neu wastraff, e.e. brics o stympiau sigaréts.

Y deunyddiau eraill a ddefnyddir mewn adeiladu cynaliadwy yw: 

Pren

Mae pren yn ddeunydd ardderchog am nad oes angen defnyddio llawer o ynni i’w droi’n ddeunydd adeiladu. Mae coedwigoedd a reolir yn briodol yn cyflenwi deunydd adnewyddadwy, yn ogystal â darparu cynefin bioamrywiol ar gyfer gwarchod bywyd gwyllt. 

Metelau wedi’u hailgylchu

Mae plastig yn prysur ddod yn ddeunydd adeiladu cynaliadwy sy’n gymharol hawdd cael gafael arno diolch i'r ffaith bod toreth ohono’n bodoli’n barod yn y rhan fwyaf o gymdeithasau. Mewn mannau, mae plastig a sbwriel arall yn cael eu troi’n ddeunydd yn lle concrid, sy'n lleihau nwyon tŷ gwydr ac yn helpu i leihau faint o ddeunyddiau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. 

Concrid cynaliadwy

Mae concrid yn ddeunydd synthetig a ddefnyddir yn eang, ond hwn hefyd yw un o’r deunyddiau lleiaf ecogyfeillgar. Mae’r gwaith o’i gynhyrchu yn gyfrifol am oddeutu 5% o allyriadau carbon deuocsid (CO2) y byd. Yn ffodus, mae llawer o gwmnïau bellach yn edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau drwy greu dewisiadau amgen gyda phlastig a deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu, sy’n gallu lleihau’r carbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu gan bron i 50%.

Brics mwd a brics gwlân

Mae brics yn defnyddio tanau odyn i’w gwneud yn gryfach ac mae hynny’n arwain at lygredd drwy nwyon tŷ gwydr, ond yn 2010 roedd ymchwilwyr o'r Ysgolion Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Seville, Sbaen a Phrifysgol Strathclyde yn Glasgow wedi darganfod ffyrdd newydd a mwy gwyrdd o gynhyrchu brics sydd yr un mor gryf, gyda chlai neu wlân heb eu trin fel rhan o’u cyfansoddiad.  

Bêls gwellt

Gellir defnyddio bêls yn lle concrid neu blastr ar gyfer inswleiddio. Mae gwellt yn gynaliadwy, a hefyd yn fforddiadwy, sy’n helpu i gadw costau deunyddiau adeiladu i lawr. 


Swyddi amgylcheddol ym maes adeiladu

Mae sawl opsiwn ar gael i chi ym maes adeiladu os hoffech chi ganolbwyntio ar yr amgylchedd. Mae’n waith gwerth chweil a fydd yn cael effaith am genedlaethau i ddod.

Cynghorydd amgylcheddol

Mae cynghorwyr amgylcheddol yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac yn cyrraedd y targedau penodol. Maen nhw’n gwneud hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys rheoli’r gwaith o waredu gwastraff a lleihau llygredd aer a dŵr. 

Peiriannydd amgylcheddol

Mae peirianneg amgylcheddol yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd drwy leihau gwastraff a llygredd yn ystod y gwaith adeiladu. Mae peirianwyr amgylcheddol yn gweithio i ddatblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy i wneud yn siŵr bod deunyddiau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl, ac maen nhw’n dylunio ac yn rheoli technolegau rheoli llygredd.  

Cynaliadwyedd ym maes adeiladu

Rheolwr cynaliadwyedd

Mae rheolwyr cynaliadwyedd yn goruchwylio’r gwaith o sicrhau bod y cwmni’n gweithio tuag at (ac yn aros) yn wyrdd. Maen nhw’n datblygu, yn gweithredu ac yn monitro strategaethau amgylcheddol. Darllenwch stori Alex Roberts am hyfforddi a dod yn Rheolwr Cynaliadwyedd.

Cysylltu â ni

Hoffech chi fod yn rhan o adeiladu cynaliadwy? Gallwn gynnig hyfforddiant neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am rôl benodol, felly cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol:

Cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol os oes gennych unrhyw ymholiadau:

Instagram - @goconstructuk 

Facebook - @GoConstructUK 

Twitter - @GoConstructUK