Mae prentisiaethau pensaernïaeth yn llwybr arall at yrfa pensaernïaeth i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth.  

Mae prentisiaid yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio mewn practis pensaernïol gan dreulio tua phumed o'u hamser yn astudio. Cynhelir asesiadau rheolaidd yn ystod ac ar ddiwedd y rhaglen i brofi’r hyn y mae prentisiaid wedi’i ddysgu a lefel eu cymhwysedd proffesiynol.  


Pam fyddech chi’n ymuno â phrentisiaeth pensaernïaeth?

Gall prentisiaeth pensaernïaeth fod yn opsiwn i'w ddilyn os nad ydych am astudio pensaernïaeth yn y brifysgol. Mae’n cymryd saith mlynedd i hyfforddi i fod yn bensaer fel hyn (pum mlynedd o astudio gyda dwy flynedd o brofiad gwaith) ac efallai na fydd yn addas i bawb. Mae cwrs pum mlynedd mewn prifysgol yn ddrutach i'w ariannu na chwrs tair blynedd traddodiadol.  

Mae dau fath o brentisiaeth pensaernïaeth, sy’n cael eu rhedeg gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA): Prentisiaeth Cynorthwyydd Pensaernïol Lefel 6 a Phrentisiaeth Pensaer Lefel 7. Mae Lefel 6 yn cynnwys cymhwyster gradd Rhan 1 RIBA, ac mae Lefel 7 yn cynnwys Rhan 2 a Rhan 3.  

I gymhwyso’n llawn fel pensaer siartredig, rhaid i brentisiaid gwblhau Rhan 2 a Rhan 3. Os ydych chi’n astudio pensaernïaeth yn y brifysgol, byddai Rhan 1 yn cyfateb i BA neu BSc mewn pensaernïaeth, Rhan 2 yn Radd Meistr neu Ddiploma, a Rhan 3 yn Dystysgrif i Raddedigion.  

Mae pob un o raglenni prentisiaeth Lefel 6 a Lefel 7 yn cymryd pedair blynedd i’w cwblhau.   

Fodd bynnag, mae’n eithaf anodd dod o hyd i brentisiaethau pensaernïaeth, a dim ond yn Lloegr y maent ar gael ar hyn o bryd. Mae prentisiaeth pensaernïaeth Lefel 6 yn gwrs newydd iawn.  

Beth yw manteision prentisiaeth pensaernïaeth?

Mae prentisiaethau pensaernïaeth yn boblogaidd oherwydd bod prentisiaid yn ennill cyflog tra byddant yn hyfforddi ac nid oes rhaid iddynt dalu ffioedd dysgu. Mae prentisiaid yn mwynhau’r annibyniaeth ariannol y mae hyn yn ei rhoi iddynt, yn ogystal â’r mentora proffesiynol a’r profiad gwaith a gânt fel rhan o’u hyfforddiant.  

Mae’n rhoi cyfle i brentisiaid weithio ar brosiectau dylunio ac adeiladu ar draws gwahanol sectorau, bod yn rhan o reoli prosiectau a datblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu.  

Ble alla i gofrestru ar gyfer prentisiaeth pensaernïaeth? 

Gall darpar brentisiaid chwilio am brentisiaethau ar wefan swyddi RIBA ac ar y platfform Dod o hyd i Brentisiaeth. Efallai y byddai hefyd yn werth cysylltu â phrifysgolion sy’n cynnig hyfforddiant prentisiaeth yn uniongyrchol neu gysylltu â’ch practis pensaernïol lleol. O bryd i’w gilydd, mae RIBA yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio lle gallai cyfleoedd prentisiaeth mewn pensaernïaeth a’r diwydiant adeiladu fod ar gael.  

Beth allwch chi ei ennill ar brentisiaeth pensaernïaeth?

Gall cyflogau prentisiaid pensaernïaeth amrywio yn dibynnu ar leoliad a phractis, ond dylech gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol (os ydych chi’n 23 oed neu’n hŷn), p’un ai a ydych chi’n gweithio neu’n astudio. Rhaid i brentisiaid sy’n cael eu cyflogi gan Bractis Siartredig RIBA gael eu talu o leiaf y lefel berthnasol o’r Cyflog Byw ar gyfer prentisiaid a bennir gan y Sefydliad Cyflog Byw. 

Pa yrfa alla i ei chael yn sgil y math hwn o brentisiaeth?

Bydd cwblhau prentisiaeth Lefel 6 yn eich cymhwyso fel Cynorthwyydd Pensaernïol, er mwyn i chi allu gweithio dan oruchwyliaeth pensaer mewn practis a chynorthwyo tîm y practis i gyflawni prosiectau pensaernïol. Mae’n golygu y gallwch chi symud ymlaen i brentisiaeth pensaernïaeth Lefel 7, sef cam olaf y rhaglen brentisiaeth. 

Bydd cymhwyso fel pensaer yn creu llawer o gyfleoedd, boed hynny mewn cwmnïau annibynnol, llywodraethau lleol a chanolog, cwmnïau adeiladu, sefydliadau masnachol a diwydiannol. Fel pensaer siartredig, byddwch yn gallu arwain ar brosiectau, gan gynllunio’r gwaith o ddylunio ac adeiladu adeiladau o bob maint a math.  


Rhagor o wybodaeth