Pan fyddwch yn meddwl am arloesi, efallai nad y diwydiant adeiladu yw’r sector cyntaf i ddod i’r meddwl.

Anghofiwch am stereoteipiau traddodiadol o ddynion canol oed mewn hetiau caled a siacedi llachar, mae adeiladu’n ymwneud â mwy na thai brics a blociau swyddfa gwydr. Mae Adeiladu bob amser yn defnyddio datblygiadau arloesol ym maes technoleg a dylunio i ddatblygu’r diwydiant a’i weithwyr.

Agweddau cwmnïau adeiladu at arloesi

Dangosodd arolwg CIOB yn 2007 bod arloesedd a chreadigrwydd yn cael eu hybu drwy grantiau, cydweithio, mynediad at dechnolegau newydd a rhaglenni arloesi. Rhai o’r meysydd arloesi mwyaf poblogaidd oedd lleihau carbon, ynni cynaliadwy, gwell saernïo oddi ar y safle a hyfforddiant. Dywedodd 83% o gwmnïau fod arloesi’n bwysig iawn ar gyfer dyfodol adeiladu.

Felly, faint o ddatblygiad sydd wedi bod yn y diwydiant ers hynny?

Adeiladau o safon ryngwladol

Pinnacle@Duxton, Singapôr – cyfadeilad o saith tŵr 50 llawr sydd wedi’u cysylltu â dwy nenbont sy’n cynnig golygfeydd godidog, cyfleusterau hamdden a ffordd i breswylwyr adael os bydd tân.

Manitoba Hydro Place, Canada – mae’r adeilad swyddfeydd hwn yn defnyddio’r dyluniad mwyaf effeithlon o ran ynni yn y byd, gan ddefnyddio 70% yn llai o ynni nag adeiladau traddodiadol o faint tebyg gyda gerddi gaeaf, awyru a goleuo naturiol, a system pwmp gwres geothermol.

Canolfan Fasnach y Byd Bahrain – sy’n arloesi gydag ynni adnewyddadwy a mesurau goddefol i leihau ynni. Dyma’r nendwr cyntaf yn y byd i gael ei ddylunio gyda thyrbinau gwynt integredig. Mae’r ddau dŵr swyddfa siâp hwyl yn cynnwys gwesty moethus a chanolfan siopa.

Deunyddiau modern

Brics sy’n amsugno llygredd, pierau sy’n arnofio, concrit dargludol a dodrefn bioddiraddadwy. Mae rhai o’r deunyddiau adeiladu diweddaraf yn gwbl chwyldroadol. Maen nhw’n aml yn cael eu creu o ymatebion penodol i bryderon amgylcheddol a diogelwch, ac maent yn cyfuno technoleg arloesol â thechnegau adeiladu i greu ffordd newydd o feddwl ac adeiladu.  

Argraffu 3D

Fel techneg weithgynhyrchu, efallai mai argraffu 3D fydd y dyfodol. Mae’r cyfan yn ddigidol ac felly’n hollol ddi-bapur. Mae cywirdeb anhygoel yn golygu nad oes dim gwastraff a does dim angen ail-lunio cynlluniau, ac mae’n dod o hyd i’r dyluniadau mwyaf effeithlon i leihau’r defnydd o ddeunyddiau.

Eleni, mae pont ddur i gerddwyr yn cael ei hargraffu yn Amsterdam, ac yn Tsieina, maen nhw’n treialu’r ystadau tai cyntaf wedi’u hargraffu’n 3D.

Prosiectau adeiladu arloesol

Mae adroddiad Fforwm Economaidd y Byd a Grŵp Ymgynghori Boston, ‘Shaping the Future of Construction’, wedi tynnu sylw at rai o’r dulliau adeiladu newydd gorau. Mae’r rhain yn cynnwys @one Alliance, partneriaeth rhwng Anglian Water a’i gyflenwyr sydd i fod i weithio ar y cyd, gan ddefnyddio cryfderau ei gilydd; a dull adeiladu “pecyn fflat” grŵp BROAD yn Tsieina, sy’n cynhyrchu rhannau oddi ar y safle ac yn cynyddu amser adeiladu, cost effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ynni.

Gyrfaoedd Arloesi

Mae’r datblygiadau arloesol hyn yn arwain at amrywiaeth enfawr o yrfaoedd cyffrous yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys delweddwyr 3D sy’n creu delweddau 3D ffoto-realistig o adeiladau arfaethedig, ecolegwyr sy’n astudio effaith y gwaith adeiladu arfaethedig ar anifeiliaid a phlanhigion, a syrfewyr hydrograffig sy’n mapio arwynebau tanddwr y byd.

Dewch o hyd i ragor o yrfaoedd adeiladu blaengar yn ein rhestr A-Y