Mae adeiladu'n effeithio ar yr amgylchedd mewn ffordd gadarnhaol a negyddol. Mae adeiladau’n tarfu ar amgylcheddau naturiol, ond gallant hefyd ddarparu ardaloedd bioamrywiol newydd a chael eu creu gan ddefnyddio deunyddiau gwyrdd, lleihau gwastraff a chynhyrchu deunyddiau mewn ffordd ynni-ddwys. Gadewch i ni edrych ar sut gall adeiladu helpu’r amgylchedd a bwrw golwg dros rai o’r swyddi y gallwch ddod o hyd iddynt yn y diwydiant. 

Ydy gwaith adeiladu yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd?

Yn ôl rhai astudiaethau, mae adeiladu’n gyfrifol am hyd at 50% o newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn effeithio ar safleoedd tirlenwi a llygredd aer, dŵr a sŵn. Fodd bynnag, mae’r diwydiant yn ceisio gwneud newidiadau cadarnhaol i’w ffyrdd o weithio, y deunyddiau a ddefnyddir a chynhyrchiant, er mwyn lleihau effeithiau negyddol gwaith adeiladu a diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Sut gall y diwydiant adeiladu helpu’r amgylchedd

Gall y diwydiant adeiladu helpu i gefnogi'r amgylchedd mewn sawl ffordd, a dim ond megis dechrau ydy defnyddio technoleg newydd a datblygu deunyddiau sy’n fwy gwyrdd. 

Dylunio adeiladau ecogyfeillgar

Mae dylunio ecogyfeillgar yn cynnwys defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu (sy’n cynhyrchu llai o CO2 yn y broses gweithgynhyrchu), gwydnwch strwythurol a chynlluniau hirdymor ar gyfer cynhyrchu ynni a gwastraff. Mae’r rhan hon o’r broses adeiladu yn hanfodol i fod yn ymwybodol o’r amgylchedd a’r effaith y gallai pob prosiect ei chael. Mae offer clyfar, paneli solar a hyd yn oed cynnwys golau naturiol oll yn bethau y mae dylunwyr yn eu hystyried i sicrhau bod dyluniad adeilad mor ecogyfeillgar â phosibl. 

Arferion adeiladu gwyrdd

Gall gwaith adeiladu fod yn swnllyd, cynhyrchu gormod o wastraff a bod yn aneffeithlon o ran ynni. Dyna pam mae arferion adeiladu gwyrdd yn cael eu cyflwyno i leihau effeithiau negyddol y materion hyn. Mae offer a pheiriannau tawelach sy’n defnyddio tanwydd yn effeithlon ar gael erbyn hyn, yn ogystal ag ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau lle bo modd i leihau gwastraff.  

Gwaith adeiladu cynaliadwy

Mae adeiladau’n cael eu creu i bara, felly mae’n bwysig eu bod mor effeithlon ag y gallant fod tra byddant yma ac yn effeithio ar yr amgylchedd. Yn ogystal â deunyddiau gwydn, dylid addysgu pobl sy’n defnyddio’r adeilad ar sut i gynnal arferion amgylcheddol da fel ailgylchu, rheoli gwastraff a bod yn effeithlon o ran ynni.  

Cyfyngu ar effaith amgylcheddol y gwaith adeiladu

Ar gyfer prosiectau adeiladu ar adeiladau presennol, mae ffyrdd o gyfyngu ar rai effeithiau amgylcheddol negyddol. 

Cyfyngu ar ddefnyddio tanwydd

Mae’n bwysig cynnal a chadw offer a chyfarpar sydd angen tanwydd yn briodol er mwyn cyfyngu ar faint maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae eu gadael i droi’n segur yn wastraffus a dylid osgoi gwneud hynny. Mae technolegau ar gael hefyd i reoli gwaith cynnal a chadw ac i amnewid cydrannau’n fwy cost-effeithiol. 

Lleihau sŵn

Er mwyn lleihau llygredd sŵn, dylai rheolwyr adeiladu ystyried prosesau gwahanol sy’n defnyddio offer tawelach, neu broses dawelach i sicrhau’r un canlyniad. Gellir lleihau effaith metel ar fetel drwy ddefnyddio paneli neu orchuddion rwber a chodi rhwystrau o amgylch safleoedd mwy swnllyd i helpu i leihau eu heffaith. Mae modd gosod tawelyddion ar rai offer hefyd. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch erthygl ar leihau sŵn yma.

Swyddi amgylcheddol ym maes adeiladu

Ydych chi’n awyddus i gael swydd ym maes adeiladu amgylcheddol? Mae nifer o opsiynau ar gael i chi. 

Cynghorydd amgylcheddol

Mae cynghorwyr amgylcheddol yn gweithio ar brosiectau adeiladu i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac yn llygru’r aer neu ddŵr a phridd cyn lleied â phosibl. Maen nhw hefyd yn dod o hyd i ffyrdd o leihau gwastraff a’i waredu mewn ffordd sy’n fwy ecogyfeillgar. Rhagor o wybodaeth am y cymwysterau a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch ar gyfer y rôl hon.

Peiriannydd amgylcheddol

Mae peirianneg amgylcheddol yn canolbwyntio ar leihau gwastraff a llygredd ym maes adeiladu. Mae peirianwyr amgylcheddol yn gwneud y defnydd gorau o unrhyw adnoddau naturiol a ddefnyddir mewn prosiect adeiladu, yn ogystal â datblygu adnoddau ynni adnewyddadwy. Ymuno â’r maes peirianneg amgylcheddol.

Ecolegydd

Mae ecolegwyr yn astudio'r berthynas rhwng planhigion, anifeiliaid a'r amgylchedd. Bydd ecolegydd yn edrych ar unrhyw waith adeiladu arfaethedig a allai effeithio ar yr amgylchedd naturiol, er mwyn sicrhau nad yw’n cael effaith negyddol ar blanhigion ac anifeiliaid nac yn peryglu unrhyw rywogaethau. I ddysgu mwy am rôl ecolegydd ym maes adeiladu edrychwch ar ein tudalen amdano.

Dechrau arni

CITB yw bwrdd hyfforddi’r diwydiant adeiladu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Gall eich helpu i ddechrau ar eich gyrfa ym maes adeiladu, felly dewch i gysylltiad.

Ddim yn siŵr ble i gychwyn? Cymrwch sbec ar brentisiaethau neu gyrsiau a chymwysterau CITB, neu darllenwch flogiau eraill i gael ysbrydoliaeth.  

Cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol os oes gennych unrhyw ymholiadau:

Instagram - @goconstructuk 

Facebook - @GoConstructUK 

Twitter - @GoConstructUK