Mae gweithio ym maes adeiladu yn cynnwys ychydig o fythau, ac un o’r rhain yw mai dim ond swyddi gwaith llaw a hetiau caled sydd ar gael. Rydyn ni yma i ddangos i chi bod llawer mwy na hynny ym maes adeiladu, gyda digon o rolau nad ydynt yn golygu eich bod chi bob amser ar safle adeiladu.  

Penseiri ac ymgynghorwyr pensaernïol

Mae penseiri’n llunio ein hamgylchedd yn greadigol drwy ddylunio’r adeiladau a’r mannau o’n cwmpas. Maen nhw’n dod â strwythurau newydd yn fyw ac yn adfer neu’n adnewyddu rhai presennol. 

Mae penseiri’n dylunio adeiladau a mannau ar gyfer prosiectau adeiladu. Yn ogystal â chreadigrwydd, maen nhw’n defnyddio lluniadau technegol ac yn gweithio gydag aelodau eraill o dîm i sicrhau y bydd yr hyn maen nhw’n ei ddylunio yn gweithio. Er eu bod yn ymweld â safleoedd adeiladu, maen nhw fel arfer yn gweithio mewn swyddfa neu stiwdio.

pensaer wrth ei waith

Peirianwyr gwasanaethau adeiladu

Mae peirianwyr gwasanaethau adeiladu yn gweithio ar adeiladau i osod a chynnal a chadw eu gwasanaethau, fel trydan, gwres neu bŵer. Dyna pam mae llawer yn dewis arbenigo mewn un maes penodol, gan weithio’n bennaf mewn swyddfa, ac yn ymweld â safleoedd amrywiol yn ôl yr angen.  

Rhagor o wybodaeth am beirianwyr gwasanaethau adeiladu.

Syrfewyr adeiladu

Bydd syrfewyr adeiladau'n gweithio i gwmni neu'n annibynnol, ac yn ymweld ag adeiladau a safleoedd adeiladu i gynghori cleientiaid ar adeiladu, cynnal a chadw neu atgyweirio, (yn dibynnu ar yr adeilad a'r gwaith). Maen nhw’n paratoi adroddiadau sy’n cynnwys manylion eu cyngor. 

Rhagor o wybodaeth am syrfewyr adeiladu.  

peiriannydd wrth ei waith

Peirianwyr sifil, strwythurol, a geodechnegol

Yn yr un modd â pheirianwyr gwasanaethau adeiladu, bydd peirianwyr sifilstrwythurol a geodechnegol yn gweithio mewn swyddfa ond yn ymweld â safleoedd i ddadansoddi ac archwilio prosiectau adeiladu a rhoi cyngor. Gall yr adroddiadau a wnânt newid ac effeithio ar y prosiect adeiladu o ran y deunyddiau, y mesurau diogelwch a'r dyluniad. 

I gael gwybod mwy am bob rôl, cliciwch y dolenni uchod.

Pensaer tirlunio

Mae penseiri tirlunio yn creu mannau awyr agored ar gyfer amrywiaeth o ddibenion. Gyda’r swydd hon gallech fod allan yn gwneud arolwg o safle, yn cynnal asesiadau o’r effaith amgylcheddol, neu yn y swyddfa’n ysgrifennu adroddiadau, neu’n llunio contractau a chynlluniau; mae’n waith eithriadol o amrywiol. 

Dysgwch fwy am fod yn bensaer tirlunio

Syrfewyr

Mae syrfewyr yn rhoi cyngor proffesiynol ar lawer o wahanol faterion adeiladu, o reoliadau i fanylebau. Mae llawer yn dewis arbenigo mewn maes penodol (fel syrfewyr adeiladu, gweler uchod) a byddant yn gweithio'n bennaf mewn swyddfa, ac yn ymweld â safleoedd pan fo angen. 

Rolau dylunio adeiladu

Mae rolau dylunio yn y diwydiant adeiladu yn gyffrous diolch i’r holl dechnoleg newydd a ddefnyddir. Byddant yn aml yn gweithio fel rhan o gwmni dylunio, neu fel dylunydd llawrydd sy’n cael ei gyflogi ar gyfer gwahanol brosiectau. Mae’r rhan fwyaf o’u gwaith yn cael ei wneud mewn swyddfa, ond efallai y byddant yn ymweld â safleoedd i edrych ar y cynnydd neu i ddadansoddi eu dyluniad yn y fan a'r lle er mwyn gwneud unrhyw newidiadau a argymhellir. 

Gyrfaoedd cynllunio adeiladu

Mae llawer o waith cynllunio ar gyfer prosiect adeiladu. O ddeunyddiau i gydlynu timau ar safle, mae’n rhaid i rywun gynllunio sut y bydd y prosiect yn dod at ei gilydd. Bydd cynllunwyr yn gweithio gyda chyllidebau, yn goruchwylio logisteg ac yn gweithio gyda thimau eraill i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Mae’r gwaith yn aml yn cael ei wneud mewn swyddfa, ond weithiau mae’n cynnwys ymweld â safleoedd, neu fusnesau eraill sy’n ymwneud â’r prosiect ar gyfer cyfarfodydd.

Rhagor o wybodaeth am fod yn gynlluniwr adeiladu.

cynllunydd wrth ei waith

Rolau Cyllid ac Adnoddau Dynol

Mae pob prosiect angen Adnoddau Dynol a chyllid, ac mae’r ddwy rôl yn gweithio y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn esmwyth. Rhaid monitro cyllidebau, a bydd angen cefnogaeth ar weithwyr. Yn anaml iawn y bydd angen i’r rolau hyn fod ar safle adeiladu, ac eithrio pan fydd angen i Adnoddau Dynol gynnal asesiad risg i helpu i gadw pobl yn ddiogel.   

Rolau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Mae iechyd a diogelwch yn hanfodol yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig am fod offer pŵer, peiriannau a deunyddiau trwm yn aml yn cael eu defnyddio mewn prosiectau a gwaith adeiladu. Mae rolau fel cynghorydd diogelwch, iechyd, yr amgylchedd ac ansawdd (SHEQ) yn gweithio mewn swyddfeydd, ac yn ymweld â safleoedd i wneud yn siŵr bod rheoliadau, rheoli ansawdd a chyfyngiadau amgylcheddol yn cael eu dilyn.   

Rhagor o wybodaeth am yrfaoedd ym maes adeiladu

Fel y gwelwch, mae gennych lawer o ddewisiadau yn y diwydiant adeiladu, ac nid yw pob un ohonynt yn golygu gwisgo het galed na gwneud gwaith corfforol, gwaith llaw neu waith budr.

Ydych chi'n ystyried gweithio ym maes adeiladu? Edrychwch ar ein tudalen pam dewis adeiladu? i weld popeth y mae angen i chi ei wybod, o sut beth yw cael swydd yn y diwydiant, i ddarganfod faint o arian y gallech chi ei wneud. 

Gallwch hefyd fwrw golwg ar bob swydd yma

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook, Twitter, Instagram, a YouTube.