Facebook Pixel

Uwch beiriannydd deunyddiau

Mae uwch beirianwyr deunyddiau’n sicrhau cydymffurfiad â’r manylebau.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£40000

Sut i fod yn uwch beiriannydd deunyddiau

Gan fod hon yn rôl uwch, mae’n debygol y bydd angen Gradd BSc Anrhydedd, Diploma hyd at safon uwch mewn peirianneg deunyddiau yn benodol os oes modd. Ar gyfer rhai swyddi, efallai y bydd angen Gradd Meistr mewn peirianneg hefyd, neu statws aelodaeth gyda chorff peirianneg perthnasol.

Fodd bynnag, mae profiad yn aml yn bwysig iawn hefyd, felly gellid ystyried ymgeiswyr sydd â chymwysterau eraill, neu o leiaf 10 mlynedd o brofiad gwaith.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Cymwysterau


Beth mae uwch beiriannydd deunyddiau yn ei wneud?

  • Gweithio gyda nifer o wahanol ddeunyddiau, gan gynnwys cynnyrch adeiladu a deunyddiau crai, cemegau, gwydr neu bolymerau
  • Dewis y cyfuniad gorau o ddeunyddiau ar gyfer tasg
  • Optimeiddio arferion gweithio
  • Profi deunyddiau
  • Dadansoddi data
  • Dylunio prototeipiau
  • Chwilio am atebion ecogyfeillgar
  • Monitro ansawdd
  • Gwirio cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol
  • Datblygu dogfennau busnes technegol
  • Datblygu a darparu hyfforddiant technegol
  • Archwilio profion neu gyfleusterau cadwyn gyflenwi 
  • Rheoli tîm datblygu
  • Cyfleu cysyniadau newydd i’r tîm dylunio
  • Datblygu dealltwriaeth o fanylebau a gofynion cleientiaid er mwyn gallu ymchwilio, dylunio a datblygu deunyddiau ac arferion gweithio i sicrhau cydymffurfiad â manylebau
  • Datblygu technolegau neu gynhyrchion newydd sy’n caniatáu busnes i leihau costau a gwneud y defnydd gorau o adnoddau
  • Deall priodweddau a manteision gwahanol ddeunyddiau, gan olygu y gallwch gyflwyno dyluniadau arloesol sy’n gallu lleihau costau a chynyddu effeithlonrwydd
  • Deall y broses ddylunio o’r cysyniad cychwynnol i’r cynhyrchiad terfynol
  • Monitro ac arwain mewnbwn peirianwyr eraill ar brosiect
  • Gweithio tua 50 awr yr wythnos, rhwng 8am a 6pm fel arfer
  • Fodd bynnag, efallai y bydd rhywfaint o waith shifft neu weithio oddi cartref, yn dibynnu ar anghenion y sefydliad

Cyflog

  • Gall Uwch Beirianwyr Deunyddiau sydd newydd gael ei hyfforddi ennill oddeutu £20,000 - £30,000
  • Gall Uwch Beirianwyr Deunyddiau sydd wedi’u hyfforddi a sydd â rhywfaint o brofiad ennill oddeutu £30,000 - £40,000
  • Gall Peirianwyr Deunyddiau Uwch neu Siartredig ennill oddeutu £40,000 - £65,000

Mae cyflogau fel arfer yn amrywio yn ôl lleoliad a lefel cyfrifoldeb. Mae cyflogau ac opsiynau gyrfa yn gwella drwy gael statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer Uwch Beirianwyr Deunyddiau: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. 

Edrychwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Uwch beiriannydd deunyddiau Yn gyfrifol am ganfod a phrofi’r holl ddeunyddiau a ddefnyddir yn y diwydiant ad...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd strwythurol Mae peirianwyr strwythurol yn dylunio strwythurau i wrthsefyll straen a phwysau ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd sifil Mae peirianwyr sifil yn chwarae'r rhan bwysig o gynllunio, dylunio a rheoli pros...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080