Facebook Pixel

Technegydd ffeibr optig

A elwir hefyd yn -

Technegydd telathrebu, technegydd telegyfathrebu

Technegwyr ffeibr optig sy’n cynnal systemau ffeibr optig a digidol ac yn gosod rhwydweithiau rhyngrwyd band eang a ffôn.

Cyflog cyfartalog*

£16000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

39-42

Sut i fod yn dechnegydd ffeibr optig

Mae sawl ffordd o fod yn dechnegydd ffeibr optig. Gallech gwblhau cwrs coleg, neu brentisiaeth. 

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn dechnegydd ffeibr optig, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Mae amrywiaeth o gyrsiau coleg y gallech eu dilyn i’ch helpu ar eich taith i fod yn dechnegydd ffibr optig, fel: 

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Ceblau Cyfathrebu 
  • Diploma Lefel 3 mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh 
  • Diploma Lefel 3 mewn Systemau Telegyfathrebu. 

Bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i wneud y cyrsiau hyn. 

Prentisiaeth

Gallech chi hyfforddi i fod yn dechnegydd ffibr optig drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr maes telegyfathrebu, neu brentisiaeth uwch fel technegydd cyfathrebiadau neu osodwr ceblau. 

Bydd angen o leiaf yr isod arnoch: 

  • 2 TGAU, fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol (prentisiaeth ganolradd) 
  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (prentisiaeth lefel uwch) 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd ffeibr optig. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel technegydd ffeibr optig:  

  • Gwybodaeth am delegyfathrebu 
  • Dealltwriaeth o systemau gweithredu technegol 
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun  
  • Sylw ardderchog i fanylion 
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid da  
  • Galluoedd mathemategol da  
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol 

Beth mae technegydd ffeibr optig yn ei wneud?

Fel technegydd ffeibr optig, byddwch yn gosod ac yn cynnal telegyfathrebiadau ffeibr optig, fel rhwydweithiau band eang, ffonau symudol a ffonau llinell dir, a systemau digidol. 

Mae swydd technegydd ffeibr optig yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Sefydlu rhwydweithiau data a thelegyfathrebu ffeibr optig 
  • Gosod ceblau ffibr optig o dan y ddaear ac o dan y llawr 
  • Profi systemau a chanfod a thrwsio unrhyw namau 
  • Dylunio, adeiladu a phrofi offer ffibr optig 
  • Cysylltu â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein 
  • Cadw cofnodion manwl o bob darn o waith 
  • Gweithio yng nghartrefi cleientiaid neu mewn busnesau. 
  • Gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel technegydd ffeibr optig?

Mae’r cyflog disgwyliedig i dechnegydd ffeibr optig yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall technegwr ffeibr optig sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £16,000 
  • Gall technegwyr ffibr optig profiadol ennill hyd at £30,000.* 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegwyr ffeibr optig:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel technegydd ffeibr optig, gallech ymgymryd â hyfforddiant i symud ymlaen i rôl fel arweinydd tîm neu symud ymlaen i beirianneg drydanol.

Gallech chi hefyd fod yn hunangyflogedig a sefydlu eich busnes gosod trydanol eich hun.  


Dyluniwyd y wefan gan S8080