Facebook Pixel

Technegydd cynnal a chadw priffyrdd

A elwir hefyd yn -

Gweithiwr adeiladu ffyrdd, gweithiwr cynnal a chadw priffyrdd

Mae technegwyr cynnal a chadw priffyrdd yn goruchwylio’r gwaith o gynnal a chadw ac atgyweirio priffyrdd a ffyrdd. Maen nhw’n monitro difrod yn rheolaidd, yn delio ag ymholiadau gan y cyhoedd, yn cysylltu ag awdurdodau lleol a chwmnïau cyfleustodau, ac yn gwneud atgyweiriadau i balmentydd, dodrefn stryd, marciau ffordd a mwy.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£35000

Sut i fod yn dechnegydd cynnal a chadw priffyrdd

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn dechnegydd cynnal a chadw priffyrdd, mae sawl llwybr y gallech eu dilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn dechnegydd cynnal a chadw priffyrdd, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol, byddai unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel technegydd cynnal a chadw priffyrdd yn elwa ar ennill cymwysterau TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg.

Gallech astudio ar gyfer Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil i wella eich gallu a’ch rhagolygon gwaith.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Gallech wneud cais am brentisiaeth ganolraddol fel gweithiwr gosod arwynebau ffyrdd, neu brentisiaeth ganolraddol cynnal a chadw priffyrdd.

Bydd angen 2 - 3 TGAU arnoch, sydd fel arfer yn cynnwys Saesneg a mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol, ar gyfer prentisiaeth ganolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i fod yn dechnegydd neu’n weithiwr cynnal a chadw priffyrdd, yn enwedig os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol o weithio ar safle. Byddai hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau drwy ddysgu gan aelodau mwy profiadol o’r tîm, ac efallai y bydd eich cyflogwr yn darparu hyfforddiant i’ch helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel technegydd cynnal a chadw priffyrdd. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau dymunol technegydd cynnal priffyrdd yn cynnwys: 

  • Lefel dda o ffitrwydd corfforol
  • Ymwybyddiaeth ofodol dda
  • Gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm
  • Gallu defnyddio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Sgiliau cyfathrebu a gwrando da.
  • Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch

Beth mae technegydd cynnal a chadw priffyrdd yn ei wneud?

Technegwyr cynnal a chadw priffyrdd sy’n gyfrifol am y ffyrdd a’r strydoedd lleol mewn ardal benodol. Maen nhw’n sicrhau bod ceisiadau am atgyweiriadau’n cael eu gweithredu a bod yr holl briffyrdd a’r llwybrau troed yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda.

Yn aml, mae dyletswyddau technegydd cynnal priffyrdd yn cynnwys: 

  • Dylunio cynlluniau cynnal priffyrdd, i gynnwys ail-wynebu, atgyweirio draeniau a gwella ffyrdd a llwybrau troed
  • Archwilio ffyrdd i ganfod diffygion strwythurol a materion diogelwch 
  • Cyfrifo costau cynnal a chadw
  • Dadansoddi’r effaith y bydd gwaith cynnal a chadw yn ei gael ar yr amgylchedd 
  • Ymchwilio a gweithredu ar geisiadau cynhaliaeth y bydd aelodau o’r cyhoedd yn eu cyflwyno
  • Goruchwylio gwaith cynnal a chadw ymarferol ar ffyrdd a strydoedd
  • Cyfeirio traffig yn ystod gwaith atgyweirio
  • Gweithredu, cynnal a chadw a chludo offer a chyflenwadau adeiladu
  • Cynnal rhwydweithiau ffyrdd yn ystod y gaeaf
  • Peintio llinellau rheoli traffig
  • Gwneud gwaith tirlunio ar ochr y ffordd gan gynnwys clirio chwyn a thocio coed
  • Ysgubo malurion oddi ar arwynebau a strwythurau
  • Lledaenu tywod, asffalt, graean a chlai i adeiladu a chynnal a chadw arwynebau
  • Glanhau ac atgyweirio systemau draenio, pontydd, twneli a strwythurau eraill
  • Gosod a thrwsio canllawiau, goleuadau ffordd a nodweddion eraill
  • Dylunio cynlluniau cynnal a chadw i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn effeithiol ac yn rheolaidd
  • Cynhyrchu lluniadau a manylebau technegol gan ddefnyddio technoleg Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur
  • Ysgrifennu asesiadau risg cyn prosiectau cynnal a chadw.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel technegydd cynnal a chadw priffyrdd?

Mae’r cyflog disgwyliedig i arweinydd tîm adeiladu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall technegwyr cynnal a chadw priffyrdd sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall technegwyr cynnal a chadw priffyrdd gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall uwch dechnegwyr cynnal a chadw priffyrdd ennill £30,000 - £35,000.* 
  • Technegwyr cynnal a chadw priffyrdd hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer technegydd cynnal a chadw priffyrdd: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel technegydd cynnal a chadw priffyrdd, gallech gwblhau hyfforddiant i ddod yn osodwr asffalt mastig. 

Gyda phrofiad, gallech chi symud ymlaen i swyddi uwch fel goruchwyliwr safle, arweinydd tîm neu reolwr rheoli priffyrdd.

Neu, gallech sefydlu eich hun fel contractwr hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080